Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn croesawu cronfa seibiannau byr ar gyfer gofalwyr di-dâl gwerth £9m gan Lywodraeth Cymru
CymraegEnglish
Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cronfa seibiannau byr gwerth £9m dros dair blynedd i gefnogi gofalwyr di-dâl i gymryd seibiannau y mae dirfawr eu hangen.
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Simon Hatch, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru:
“Mae cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi cynllun seibiant ar gyfer gofalwyr di-dâl yn gydnabyddiaeth i’w groesawu bod gwir angen seibiant ar ofalwyr ledled Cymru. Edrychwn ymlaen at weld manylion y gronfa i ddeall sut y bydd uchafswm nifer y gofalwyr yn elwa.
“Mae cael dewis, rheolaeth a hyblygrwydd i gymryd hoe fach pan fyddwch ei angen yn hollbwysig i ofalwyr gynnal eu bywyd eu hunain ochr yn ochr â gofalu; i godi eu siopa, i gyrraedd eu hapwyntiadau meddygol eu hunain neu i gwrdd â ffrindiau.
“Mae’r cyllid tair blynedd hwn yn gam cyntaf pwysig i ddarparu’r seibiannau sydd eu hangen ar ofalwyr di-dâl i’w cynnal yn eu rôl ofalu, sy’n rôl ganolog nad yw’n cael ei chydnabod yn aml y mae ein system iechyd a gofal yn dibynnu cymaint arni.”
Nodiadau:
Bydd rhagor o fanylion am sut i gael mynediad at y gronfa seibiant yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn y misoedd nesaf.
Ar gyfer ymholiadau, cysylltwch â Dr Catrin Edwards, Pennaeth Materion Allanol Cymru, cedwards@carers.org
Cynnwys cysylltiedig: Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ‘What a difference a break makes; a vision for the future of short breaks in Wales’ (2021)