Mae’r Gronfa Cefnogi Gofalwyr yn cyrraedd miloedd o ofalwyr di-dâl yng Nghymr

CymraegEnglish

Heddiw mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn cyhoeddi adroddiad sy’n disgrifio’r gwahaniaeth enfawr a wnaeth y Gronfa Cefnogi Gofalwyr a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru i 6,444 o ofalwyr yng Nghymru yn 2020/21.

Bu tystiolaeth gref ers tro byd fod gofalwyr di-dâl yn fwy tebygol na phobl nad ydynt yn darparu gofal o brofi caledi ariannol neu fyw mewn tlodi. 

Mae’n ddiau fod y pandemig wedi gwaethygu’r pwysau sy’n wynebu gofalwyr, gan iddo leihau cyfleoedd i gael seibiant a’i gwneud yn anoddach cydbwyso gofalu gyda gwaith neu addysg. Bu’r effaith ar ofalwyr yn ddifrifol, ac mae llawer yn dweud fod eu hiechyd meddwl a’u llesiant wedi dirywio, yn ogystal â’u sicrwydd ariannol byr a hir dymor.

Er mwyn sicrhau y gallai gofalwyr fwyaf mewn angen dderbyn cymorth brys, roedd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a’n Partneriaid Rhwydwaith yn falch o weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu a darparu’r Gronfa Cefnogi Gofalwyr ymhob awdurdod lleol yng Nghymru. 

Lansiwyd <https://gov.wales/ps1-million-fund-carers-mark-launch-public-consultation> y Gronfa Cefnogi Gofalwyr £1m ar ddiwedd Hydref 2020 a daeth £0.25m <https://gov.wales/carers-support-fund-increased-quarter-million-pounds> ychwanegol ar gael ar ddiwedd Ionawr 2021 i gydnabod y galw sylweddol a brofwyd trwy’r cyfnod darparu cyntaf. 

Dangosodd adborth gan ofalwyr di-dâl a’r gwasanaethau sy’n darparu’r Gronfa Gefnogi ei bod wedi helpu mynd i’r afael â llawer iawn o angen heb ei ddiwallu ac y cafodd effaith uniongyrchol a chadarnhaol ar ofalwyr di-dâl.  

 “ Diolch yn fawr iawn ichi!  Gallaf roi’r gwres ymlaen fwy wedyn fel na fydd y plant yn mynd yn oer.  Fe fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr imi a’r plant. Mae wedi bod mor oer.”[KC1]   

“Rwyf mor ddiolchgar gallu llenwi fy nghypyrddau a’r rhewgell a pheidio gorfod poeni am ddod o hyd i’r arian i dalu’n ôl ... mae’n ychydig bach o heulwen ynghanol storm a hanner ... diolch o galon!”  

“Diolch ichi am drefnu’r grant caledi imi a’r teulu. Mae’r daleb fwyd £150 wedi’n helpu ni fwy nac y byddwch fyth yn gwybod, fi’n enwedig, gan mod i’n poeni cymaint am arian a thalu fy miliau. Trwy gael y daleb i dalu am fwyd, mae hynny wedi rhyddhau rhywfaint o arian, sydd wedi fy helpu i dalu rhywfaint mwy ar fy miliau gwresogi. Diolch yn fawr.”

“Roeddwn mor ddiolchgar am y grant a gefais, cymerodd gymaint o bwysau oddi arna i’r mis hwnnw o ran sut roeddwn yn mynd i allu cadw fy mhlant yn gynnes. Fe ges i daleb siopa a rhoddais yr arian a arbedais trwy beidio gorfod siopa yn syth i mewn i’r mesurydd nwy. Diolch yn fawr iawn ichi.”  

Roedd y cynllun wedi diwallu anghenion brys trwy brynu bwyd, gwres a dillad, ond roedd hefyd wedi helpu cysylltu gofalwyr nad oeddent cyn hynny’n cael unrhyw gefnogaeth â gwasanaethau cefnogi ehangach.

“Diolch yn fawr iawn ichi am fy ngliniadur. Bydd yn ei gwneud yn llawer haws imi wneud fy ngwaith cartref a fydda i ddim yn mynd i deimlo dan straen nad wyf wedi gwneud beth ofynnodd yr athrawon. Rwyf yn gyffrous hefyd i allu ei ddefnyddio i ymuno â’r pethau gofalwyr ifanc.”

“Roeddwn eisiau dweud gair neu ddau am y grant bychan ges i ym mis Ionawr. Roedd y grant yn golygu mod i wedi gallu prynu rhywfaint o ddillad twym da i’m plentyn 2 oed, roeddwn wedi gallu talu am rywfaint o ofal plant. Fel tad sengl, rydw i wedi bod ar ben fy hun, yn newynog ac wedi cael fy anghofio, rhoddodd y grant rywfaint o seibiant imi”  

Dangosodd y Gronfa Gefnogi yn bendant iawn fod llawer o ofalwyr di-dâl yn byw o ddydd i ddydd, ac mae angen gwneud mwy o waith i ddeall yn llawn i ba raddau y deilliodd hynny o’r pandemig neu y cafodd ei waethygu ganddo. Mae’r galw llethol am y Gronfa Gefnogi  a’r anghenion sylfaenol iawn y cafodd ei ddefnyddio i’w diwallu, yn cynnig mwy o dystiolaeth y dylai mynd i’r afael ag effaith ariannol gofalu barhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

Wrth i gynlluniau ar gyfer ail-adeiladu wedi’r pandemig gael eu datblygu bydd yn bwysig deall sut ellir sicrhau bod gan ofalwyr di-dâl well cysylltiadau â gwasanaethau, eu bod yn cael eu cefnogi i sicrhau’r incwm mwyaf posib, a’u bod yn cael yr arfau a’r gefnogaeth maen nhw eu hangen i fod mor emosiynol ac ariannol wydn ag y gallant.

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn gweithio gyda’n Partneriaid Rhwydwaith a  Llywodraeth Cymru i weld sut ellir defnyddio’r dystiolaeth a’r dysgu yn yr adroddiad i sicrhau y gellir cefnogi gofalwyr di-dâl i fod yn ariannol ddiogel a chael cysylltiad da â gwasanaethau gofalwyr. 

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Simon Hatch:

“Bu’r Gronfa Cefnogi Gofalwyr yn anadl einioes i ofalwyr ac fe’u helpodd i ddarparu ar gyfer yr anghenion mwyaf sylfaenol megis bwyd a gwres.

“Gweithiodd ein Partneriaid Rhwydwaith yn ddiflino i ddarparu’r gronfa sylweddol hon ar fyrder, gan gyrraedd rhai o aelodau mwyaf bregus ein cymuned.

“Mae ein system iechyd a gofal cymdeithasol yn dibynnu ar y cyfraniadau a wneir gan filoedd o ofalwyr ledled Cymru bob dydd. Mae’n hanfodol eu bod yn cael y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu a’r gefnogaeth maen nhw ei hangen i fyw bywydau iachus, llawn boddhad.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’n Partneriaid Rhwydwaith i chwilio am ffyrdd o barhau’r Gronfa Gefnogi a gwella cynaliadwyedd gwasanaethau arbenigol i ofalwyr.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Mae’n wych gweld y gwahaniaeth a wnaeth y Gronfa Cefnogi Gofalwyr i ofalwyr ledled Cymru. Mae’r pandemig wedi effeithio pob un ohonom ond gwn fod gofalwyr wedi wynebu heriau ychwanegol. Mae’r Gronfa Gefnogi wedi helpu gofalwyr i ymdopi ag effaith ariannol bod yn ofalydd yn ystod pandemig. Ni ddylai neb wynebu caledi neu fethu cwrdd â’u hanghenion sylfaenol oherwydd eu bod wedi derbyn cyfrifoldebau gofalu.”

Darllen yr adroddiad yma

 

Related news

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.

Save preferences