Adroddiad: Gofalu Am Rywun Sy'n Byw  Dementia
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi lansio adroddiad newydd, yn manylu ar sut y gellid adnabod, parchu a chefnogi gofalwyr pobl sy’n byw â dementia yn well mewn amgylcheddau iechyd a gofal cymdeithasol.
Daw’r adroddiad hwn yn sgil cyfres o sesiynau bord gron, wedi’u gwesteio ar lefel genedlaethol a rhanbarthol yng Nghymru, ac a fynychwyd gan amrywiaeth eang o arbenigwyr a gweithwyr proffesiynol yn maes dementia a gofal dementia. Ymhlith y sefydliadau a gynrychiolwyd oedd GIG Cymru, Sefydliad Shaw, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor, Shared Lives Plus, Gofal Cymdeithasol Cymru a Chymdeithas Alzheimer Cymru.
Mae’r adroddiad yn nodi nifer o awgrymiadau a gododd dro ar ôl tro o’r tair sesiwn, ynglŷn â sut y gall y sector wella’r ffordd yn maen nhw’n cefnogi gofalwyr pobl sy’n byw â dementia, gan gynnwys:
- mwy o gydweithredu rhwng y trydydd sector, llywodraeth leol a darparwyr gwasanaeth
- blaenoriaethu cefnogaeth trwy gyfrwng seibiannau a gofal ar ôl y pandemig
- yr angen am gyllid mwy cynaliadwy i ddiwallu’r galw cynyddol am wasanaethau
Meddai Pennaeth Materion Allanol Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Kate Cubbage:
“Rydyn ni’n gwybod bod angen gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor priodol ar ofalwyr pobl sy’n byw â dementia ar bob cam o’u siwrnai ofalu, i’w helpu i ofalu’n effeithiol a byw bywydau iach a boddhaus eu hunain.
“Mewn partneriaeth ag Age Cymru, rydyn ni’n falch o fod yn datblygu amrywiaeth o adnoddau i helpu mwy o weithwyr proffesiynol mewn amgylcheddau iechyd a gofal cymdeithasol i ymgysylltu’n effeithiol â gofalwyr di-dâl a rhoi iddyn nhw’r gydnabyddiaeth a’r parch y maen nhw’n eu haeddu.”
Meddai Christopher Williams, Rheolwr Tîm Ymgysylltu Age Cymru:
“Mae gofalwyr di-dâl yng Nghymru wedi sicrhau bod rhai o’r aelodau mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas wedi’u cadw mor ddiogel â phosibl yn ystod pandemig Covid, ond rydyn ni’n gwybod bod yna lawer sydd ddim yn cael y gwasanaethau a’r cymorth y mae ganddyn nhw hawl i’w derbyn. Mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol mewn sefyllfa ddelfrydol i helpu i nodi’r gofalwyr hyn a rhoi gwybodaeth iddyn nhw, gan wella’r gofal y maen nhw’n gallu ei ddarparu i eraill a hefyd sicrhau eu bod yn cael y cyfle i ofalu am eu llesiant eu hunain hefyd.”
Cynhaliwyd y sesiynau bord gron fel rhan o brosiect a ddatblygwyd ochr yn ochr ag Age Cymru, gyda chefnogaeth ariannol oddi wrth Lywodraeth Cymru, â’r nod o gefnogi’n uniongyrchol gwaith nodi gofalwyr hŷn yn gynnar, yn ogystal â sicrhau bod lleisiau gofalwyr hŷn yn cael eu clywed trwy ein rhaglen genedlaethol. Mae’r adroddiad a ddaeth yn sgil y sesiynau bord gron hyn yn amlinellu sut y bydd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ac Age Cymru yn ymateb i’r dystiolaeth a gasglwyd trwy’r sesiynau bord gron hyn, gan gynnwys:
- Sefydlu sesiynau dysgu ar gyfer y rheini sy’n gweithio ym maes dementia a gofal dementia, fel y bydd modd rhannu technegau ac offerynnau newydd a’u mabwysiadu’n eang
- Creu templed ‘proffil gofalwr’ ar gyfer gofalwyr, i’w rannu rhwng sefydliadau. Bydd hyn yn sicrhau bod y gweithwyr proffesiynol y mae gofalwyr yn gweithio â nhw’n gwybod am eu sefyllfa bersonol, ac yn sicrhau na fydd yn rhaid iddyn nhw esbonio’u hamgylchiadau drosodd a thro i unigolion newydd
- Creu adnodd ‘sgyrsiau positif’ ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, lledaenu gwybodaeth am sut i gael sgyrsiau positif â gofalwyr, gan gynnwys geirfa o dermau meddygol sy’n gysylltiedig â dementia y gallai llawer o ofalwyr ei chael hi’n anodd eu deall.
Topics
Health / Older carers / Wales