Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn croesawu’r cyfrifydd Chris Koehli MBE i’w Fwrdd Ymddiriedolwyr
CymraegEnglish
Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn falch iawn o gyhoeddi penodiad, yn weithredol o heddiw, Chris Koehli MBE i’w Fwrdd Ymddiriedolwyr. Mae Chris eisoes yn Gadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Cymru yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr.
Mae Chris yn gyfrifydd profiadol iawn sydd wedi gweithio yn y sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru a Lloegr. Trwy gydol ei yrfa bu ei brif ffocws ar weithio i sicrhau bod grwpiau o bobl dan anfantais yn cael gwell cyfleoedd i fanteisio ar wasanaethau gofal iechyd a chyhoeddus.
Yn y blynyddoedd diwethaf bu Chris yn gyfarwyddwr anweithredol mewn sefydliadau iechyd, tai, gofal cymdeithasol a gwirfoddol. Mae hefyd wedi cadeirio cymdeithas dai a chwmni gofal a chefnogaeth.
Yn ogystal â’i brofiad arweinyddol cryf, mae Chris hefyd yn cynnig i Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr awch ac awydd i sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael eu cefnogi’n iawn, ac ymrwymiad i sicrhau bod ganddynt lais yn y broses o ddarparu gofal iechyd a chymdeithasol. Yn ddiweddar mae Chris wedi cadeirio Canolfan Gofalwyr Caerdydd a Bwrdd Gofalwyr Partneriaeth Gwent Fawr. Cafodd ei gefnogaeth i ofalwyr di-dâl ei chydnabod yn 2018 pan dderbyniodd yr MBE am wasanaethau i ofalwyr a gofal iechyd yng Nghymru.
Y tu allan i’w fywyd proffesiynol, mae Chris yn mwynhau treulio amser gyda’i wraig, pedwar plentyn wedi tyfu i fyny a naw ŵyr ac wyres. Mae ei ddiddordebau’n cynnwys chwaraeon, teithio, cerddoriaeth a sinema.
Wrth groesawu Chris i’r Bwrdd, dywedodd Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, John McLean OBE:
“Rwyf wrth fy modd ein bod wedi llwyddo denu rhywun o allu a phrofiad arweinyddol Chris i Fwrdd yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr. Yn ogystal â chraffter proffesiynol, mae gan Chris brofiad llywodraethol eithriadol ac ymrwymiad gwirioneddol i gefnogi gofalwyr di-dâl. Ar ran fy nghyd ymddiriedolwyr, hoffwn roi croeso cynnes iawn i Chris, ac rwyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gydag ef.”