Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can’t be switched off and they don’t store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can’t work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you’re interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.

Save preferences

 

Lansio Cardiau Adnabod Gofalwyr Ifanc ar draws Cymru ar Ddiwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc

Yng Nghymru mae o leiaf 7,500. Mae gofalydd ifanc yn rhywun 25 oed ac iau sy’n gofalu am gyfaill neu aelod o’r teulu sydd oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu gaethineb yn methu ymdopi heb eu cefnogaeth.

 

Mae gofalwyr ifanc yn gwneud cymaint i helpu a chefnogi aelodau’r teulu a chyfeillion, yn aml heb i neb weld, trwy ddarparu cymorth a chefnogaeth ymarferol ac emosiynol bob dydd o’r flwyddyn, yn cynnwys golchi, codi a choginio i drefnu sefyllfa ariannol y teulu.

 

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn falch o fod wedi bod yn bartneriaid blaenllaw yn cefnogi 12 o awdurdodau lleol ledled Cymru i lansio Cerdyn Adnabod heddiw o dan y model cenedlaethol newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

 

Mae’r Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc newydd sy’n cael ei lansio heddiw ar draws 12 awdurdod lleol yng Nghymru yn ymateb i’r hyn y mae gofalwyr ifanc eu hunain wedi’i ddweud wrthym ers blynyddoedd: eu bod eisiau ac angen cael mwy o ddealltwriaeth, cydnabyddiaeth a chefnogaeth gan gymdeithas am y rôl a gyflawnant, yn enwedig felly gan y gweithwyr proffesiynol y deuant i gysylltiad â nhw amlaf.

 

Mae Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc yn gerdyn syml i helpu gweithwyr proffesiynol, gan gynnwys meddygon, athrawon a fferyllwyr i’w hadnabod ac i roi’r gefnogaeth briodol iddyn nhw. Efallai y bydd cardiau’n edrych yn wahanol ledled Cymru ond bydd pob un yn cynnwys llun o’r gofalydd ifanc, eu dyddiad geni a dyddiad dod i ben, yn ogystal â gwybodaeth gyswllt ar gyfer Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a’u gwasanaethau awdurdod lleol a gofalwyr ifanc. Bydd pob cerdyn a’r adnoddau ategol yn dangos logo Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc, a ddyluniwyd gan ddwy ofalydd ifanc.

 

Gwyddom y bydd y Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc newydd yn hwb i hyder gofalwyr ifanc eu hunain, ond mae’n hollbwysig hefyd fod y cerdyn yn helpu meddygon, athrawon, fferyllwyr a gweithwyr proffesiynol eraill i adnabod a chefnogi gofalwyr ifanc yn well. Ynghyd â datblygu’r cerdyn ei hun, bu Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff proffesiynol i gyd-gynhyrchu nifer o adnoddau dysgu gwahanol. Bydd yr adnoddau hyn, yn cynnwys animeiddiadau a storïau gofalwyr ifanc yn helpu athrawon, meddygon ac eraill i ddeall mwy am yr heriau y mae gofalwyr ifanc yn eu hwynebu.

 

Mae Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc yn enghraifft dda o’r gwahaniaeth gwirioneddol y gall elusen fel Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ei wneud. Rydym wedi arwain y ffordd ers blynyddoedd lawer yn amlygu’r heriau sy’n wynebu gofalwyr ifanc, rhannu a hyrwyddo lleisiau gofalwyr ifanc gyda gwneuthurwyr penderfyniadau a chynnig atebion. Ond cafodd y cerdyn (a’r pwrpas y tu ôl iddo) ei lunio a’i lywio o’r cychwyn cyntaf gan y gofalwyr ifanc eu hunain.

 

Mae gofalwyr ifanc sy’n cymryd rhan yng Nghyngor Ieuenctid Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn glir iawn am yr hyn maen nhw’n ddisgwyl.  Maent wedi rhannu neges glir gyda ni, beth maen nhw ei hangen yw cefnogaeth, nid cydymdeimlad. Maen nhw’n disgwyl gweithredu, nid geiriau.  Dyma felly Ddiwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc.  Buom yn gwrando ar ofalwyr ifanc am flynyddoedd lawer ond bu’r flwyddyn ddiwethaf yn wahanol iawn ac yn arbennig o anodd.  Mae gofalwyr ifanc wedi rhannu profiadau gyda ni am eu trafferthion yn ystod y cyfnodau clo a’r effaith niweidiol a gafodd y pandemig ar eu llesiant corfforol a meddyliol.  Roedd gofalwyr ifanc yn glir iawn am y thema ar gyfer Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2021;  ‘Diogelu Dyfodol Gofalwyr Ifanc’.

 

Mae gofalwyr ifanc am inni ganolbwyntio ar sut allwn wneud yn siŵr fod eu lleisiau’n cael eu clywed a sut allwn weithredu i wella eu dyfodol; boed hynny mewn addysg, yn y gwaith neu gartref.

 

Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd hyd yn oed ymhellach a chynhyrchu cynllun cenedlaethol cydlynol i gefnogi gofalwyr ifanc yn y blynyddoedd nesaf. Wrth inni gynllunio ein gwaith roedd gofalwyr ifanc eisiau pwysleisio pwysigrwydd eu rôl ofalu wrth adeiladu eu potensial a rhoi’r sgiliau iddyn nhw gyflawni eu huchelgeisiau.

  

Byddwn yn gweithio gyda chynghorau lleol dros y flwyddyn nesaf i’w cefnogi i lansio’r cerdyn newydd ymhob rhan o Gymru. Trwy ddatblygu’r cerdyn hwn rydym yn gwneud popeth allwn i ddiogelu dyfodol gofalwyr ifanc. Rydym yn benderfynol, dros y blynyddoedd nesaf, y bydd mwy a mwy o ofalwyr ifanc yn cael eu cydnabod a’u cefnogi gyda’u doniau a’u galluoedd fel y gallant fyw bywyd yn llawn a chyrchu eu breuddwydion. 

 

Simon Hatch

Cyfarwyddwr, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru

 

 

Related news