Beth i'w ddisgwyl yn ystod ac ar ôl eich asesiad / datganiad

CymraegEnglish

Cofiwch, eich asesiad chi yw hwn. Felly gallwch chi ofyn cwestiynau i wneud yn siŵr ei fod yn mynd fel rydych chi eisiau.

Efallai bod y person sy'n cynnal yr asesiad yn gweithio i'r cyngor neu'r ymddiriedolaeth. Neu gallant weithio i sefydliad arall, fel elusen, y gofynnwyd iddynt wneud yr asesiad.

Mae'n iawn gofyn i bobl arafu, neu esbonio pethau, neu ddweud yr hoffech chi gael seibiant.

Weithiau gall deimlo’n anodd dweud wrth oedolion beth hoffech chi ei gael, ond mae’n iawn gwneud hyn. Bydd yn helpu pawb i gael y gorau o'r asesiad.

Mae'n iawn dweud bod pethau'n anodd. Nid yw hyn yn golygu eich bod yn annheg â'r person rydych yn gofalu amdano neu y byddwch chi neu nhw yn mynd i drafferth.

Weithiau gall fod yn anodd dweud nad ydych am barhau i ofalu.

Efallai y bydd y person yn ysgrifennu'r hyn yr ydych yn ei ddweud i'w helpu i gofio'r hyn a ddywedoch chi.

Dylai'r person rydych yn gofalu amdano gael y cyfle i gymryd rhan yn y drafodaeth. Os ydych o dan 18 oed, dylai eich rhiant/rhieni allu cymryd rhan hefyd. Gallai hyn ddigwydd gyda chi neu ar wahân.

Mae'r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i'r cyngor neu'r ymddiriedolaeth edrych ar yr hyn sydd ei angen arnoch chi a'ch teulu a gweithio allan sut y gallwch gael eich cefnogi.

Beth i'w ddisgwyl ar ôl asesiad?

Mae'n rhaid i'r cyngor roi copi ysgrifenedig o'r asesiad i chi ac unrhyw un arall y gofynnwch iddynt wneud, er enghraifft eich gweithiwr cymorth gofalwyr ifanc.

Os ydych o dan 18 oed mae'n rhaid i'r cyngor roi copi ysgrifenedig i'ch rhiant(rhieni). Gall eich rhiant/rhieni hefyd ofyn i'r cyngor roi copi i bobl eraill, er enghraifft athro yn eich ysgol.

Os ydych chi'n poeni am y copi ysgrifenedig, neu wybodaeth benodol, sy'n cael ei rhannu gyda'ch rhiant(rhieni) dylech siarad â'r person sy'n gwneud yr asesiad ac egluro beth rydych chi eisiau.

Mae'n rhaid i'r cyngor benderfynu pa gymorth y dylent fod yn ei roi. Gallai hyn olygu rhoi cymorth i'r person rydych yn gofalu amdano, fel nad oes yn rhaid i chi wneud cymaint o ofalu. Byddwch yn cael gwybod am y math o help y gallwch ei gael a sut i gael y cymorth hwnnw.

Gallai cymorth gynnwys:

  • cael rhywun i helpu’r person yr ydych yn gofalu amdano i godi yn y bore, fel y gallwch gyrraedd yr ysgol neu’r gwaith ar amser.
  • amser i ffwrdd oddi wrth y person rydych yn gofalu amdano fel y gallwch wneud pethau eraill heblaw gofalu. Er enghraifft, gweld ffrindiau, chwaraeon neu ymlacio.