Trefnu a pharatoi ar gyfer asesiad neu ddatganiad
CymraegEnglish
Sut i gael asesiad neu ddatganiad
Os ydych chi eisoes wedi siarad â rhywun am fod yn ofalwr, er enghraifft gweithiwr cymdeithasol, athro neu weithiwr cymorth gofalwyr ifanc, efallai eu bod wedi dweud wrthych am asesiadau.
Efallai eu bod nhw hefyd wedi trefnu un i chi. Yn yr Alban, datganiadau yw’r enw ar y trafodaethau hyn, ond rydym wedi galw’r trafodaethau yn asesiad drwy gydol yr adran hon.
Os nad ydych wedi cael cynnig asesiad, neu os nad oes neb yn gwybod eich bod yn ofalwr ifanc eto, gallwch ofyn am un eich hun.
Bydd angen i chi gysylltu â'ch cyngor lleol os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban neu eich Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon. Os ydych o dan 18 oed, gall eich rhiant/rhieni ofyn i chi gael asesiad hefyd.
Eich asesiad, eich ffordd
Eich asesiad chi yw hwn, felly mae'n iawn dweud sut rydych chi am iddo fod. Er enghraifft, gallwch ddweud pryd a ble yr hoffech iddo ddigwydd a dod â rhywun rydych yn ymddiried ynddo i'ch cefnogi.
Dod o hyd i'r amser iawn
Mae'n iawn dweud wrth y cyngor neu’r ymddiriedolaeth pa amser o'r dydd neu'r wythnos sydd fwyaf addas i chi a'ch teulu. Er enghraifft, os byddwch yn mynd i'r coleg ar ddydd Iau, efallai y byddai diwrnod arall yn well ar gyfer yr asesiad.
Neu os yw meddyginiaeth eich tad yn golygu ei fod yn aml yn gysglyd yn y boreau, gallwch awgrymu prynhawn. Yna byddwch yn cael gwybod pryd y bydd eich asesiad yn digwydd. Os na allwch fod yn bresennol, byddwch yn gallu trefnu amser a dyddiad arall.
Pa mor hir y bydd yn ei gymryd
Gallwch ofyn i'r cyngor neu'r ymddiriedolaeth am ba mor hir maen nhw'n meddwl y gallai'r asesiad bara. Mae'n iawn dweud bod gennych chi bethau eraill i'w gwneud, fel gwaith ysgol. Bydd yr amser a gymer yr asesiad yn amrywio. Efallai y bydd angen iddo ddigwydd dros fwy nag un diwrnod.
Er enghraifft, os ydych chi neu'r person rydych yn gofalu amdano yn blino'n hawdd, neu'n methu canolbwyntio, neu os yw pethau'n gymhleth iawn.
Lle bydd yn digwydd
Gallai’r asesiad ddigwydd lle rydych chi’n byw, neu mewn canolfan gofalwyr ifanc. Gallwch ddweud wrth y bobl sy'n trefnu'r asesiad lle byddai'n well gennych siarad â nhw.
Y person sy'n gwneud yr asesiad
Efallai y byddwch am i fath arbennig o berson wneud yr asesiad. Er enghraifft, dyn neu fenyw, neu rywun sy'n deall eich diwylliant neu gefndir penodol. Efallai na fydd bob amser yn bosibl i'r cyngor wneud hyn, ond mae'n iawn gofyn.
Faint o bobl fydd yn cynnal yr asesiad?
Weithiau gall fod mwy nag un person yn cynnal yr asesiad. Ond dylid dweud wrthych pwy ydyn nhw, beth maen nhw'n ei wneud a pham maen nhw yno.
Awgrymiadau gan ofalwr ifanc
“Wnaeth y bobl a ddaeth i’n tŷ ddim rhoi unrhyw bwysau arnom ni, fe wnaethon nhw roi’r amser oedd ei angen arnom i egluro ein sefyllfa benodol yn llawn mewn ffordd a oedd orau i mi.”
Pobl y gallech fod eisiau iddyn nhw gymryd rhan
Gallwch ofyn i bobl fod yn yr asesiad. Gallai hwn fod yn rhywun a fydd:
- yn eich helpu i siarad.
- yn dda am ddweud pethau os byddwch yn mynd yn sownd.
- yn eich helpu i fod yn llai pryderus.
Dylid gofyn i chi ymlaen llaw pwy yr hoffech ei gael yn yr asesiad. Ond os na ofynnir i chi, yna gallwch ddweud hynny - nid oes rhaid i chi aros i rywun ofyn.
Efallai bod oedolion y gallwch chi feddwl amdanyn nhw sy'n adnabod eich sefyllfa'n dda iawn, fel athro, meddyg, ffrind i'r teulu neu rywun arall.
Gallwch ofyn iddyn nhw siarad am yr hyn maen nhw'n ei wybod amdanoch chi yn yr asesiad i helpu i adeiladu darlun o'ch rôl ofalu a'ch bywyd. Os ydych chi eisiau rhywun gyda chi ond ddim yn adnabod oedolyn a allai ddod draw, yna gallwch ofyn am gael eiriolwr.
Gwaith eiriolwr yw cefnogi’r hyn rydych chi ei eisiau. Gallant hefyd eich helpu i baratoi ar gyfer yr asesiad cyn iddo gael ei gynnal. Os hoffech gael eiriolwr, dylech ofyn i'r person sy'n cynllunio'r asesiad.
Paratoi ar gyfer eich asesiad – pethau i feddwl amdanyn nhw
Mae’n syniad da meddwl am eich asesiad cyn iddo ddigwydd. Mae'r asesiad yn amser i siarad amdanoch chi. Rydym yn gwybod y gall hyn fod yn anodd ond mae'n bwysig dweud wrth y person sy'n gwneud yr asesiad am yr holl wahanol ffyrdd y mae gofalu yn effeithio arnoch chi.
Gallai rhai o’r pethau yr hoffech chi feddwl amdanyn nhw gynnwys y gwahanol ffyrdd rydych chi’n cynnig gofal a chymorth, er enghraifft:
- glanhau a helpu o gwmpas y tŷ.
- helpu gyda meddyginiaeth.
- paratoi bwyd.
- codi calon rhywun pan fydd yn drist, yn bryderus neu'n clywed lleisiau.
- cael rhywun i'w wely pan fydd wedi cael gormod i'w yfed neu wedi cymryd cyffuriau.
- cadw llygad ar, neu ofalu am, eich brawd neu chwaer.
Efallai yr hoffech chi hefyd feddwl am:
- sut y gall gofynion eich rôl ofalu fynd i fyny ac i lawr.
- y ffyrdd y mae gofalu yn effeithio arnoch chi – da a drwg.
- a yw'n wahanol ar rai dyddiau. Efallai bod pethau'n teimlo'n well neu'n waeth ar ddiwrnodau ysgol neu waith nag y maen nhw yn ystod y gwyliau neu ar benwythnosau.
- a ydych yn meddwl ei bod yn iawn i chi barhau fel gofalwr neu a ddylai newid ychydig neu newid yn llwyr. Cofiwch ei bod yn iawn dweud yr hoffech roi'r gorau i fod yn ofalwr neu roi'r gorau i rannau ohono.
- yr effaith ar eich addysg (ysgol, coleg neu brifysgol) a chynllunio ar gyfer eich astudiaethau yn y dyfodol.
- yr effaith ar eich swydd gyflogedig os ydych yn gweithio neu ar eich cynlluniau i chwilio am un.
- sut mae bod yn ofalwr yn effeithio ar eich iechyd a'ch teimladau.
- a ydych yn teimlo bod gennych rywun i siarad â nhw.
- beth fyddai eich bywyd delfrydol ymhen deng mlynedd a sut yr effeithir ar eich cynlluniau os bydd eich rôl ofalu yn aros yr un fath, yn mynd yn llai neu'n fwy.
- pa wasanaethau sy'n eich helpu nawr a pham eu bod yn dda neu'n ddrwg.
- pa wasanaethau nad oes gennych chi ond rydych yn meddwl y bydden nhw’n eich helpu.
Awgrymiadau gan ofalwr ifanc
“Beth am ysgrifennu rhestr o'r prif bwyntiau yr hoffech chi eu trafod neu'r prif dasgau rydych chi'n eu gwneud o gwmpas y tŷ. Efallai ystyriwch y math o gefnogaeth yr hoffech chi ganddyn nhw. Yn fwy na dim, cofiwch, maen nhw yno i'ch helpu chi. Felly byddwch yn onest.”
Efallai y bydd gennych gwestiynau am beth fydd yn digwydd ar ôl yr asesiad. Gallwch hefyd ysgrifennu'r rhain i lawr neu eu recordio i'ch atgoffa yn yr asesiad.
Dyma rai syniadau:
- beth sy'n digwydd nesaf?
- a anfonir cofnod ataf? Pryd? Pwy sy'n cael copi?
- beth ddylwn i ei wneud os bydd pethau'n gwaethygu cyn i mi glywed gennych chi?
- beth os bydd pethau'n newid neu'n gwaethygu yn y dyfodol?
I atgoffa'ch hun o bopeth yr hoffech ei ddweud gallwch:
- wneud rhestr.
- tynnu llun.
- cadw dyddiadur am rai dyddiau.
- recordio nodyn fideo neu lais.