Hawliau Gofalwyr Ifanc yng Nghymru

CymraegEnglish

Yng Nghymru, mae gan bob gofalwr ifanc yr hawl i asesiad o anghenion gofalwr, a gynhelir gan eu hawdurdod lleol. Mae’r hawl hon wedi’i nodi yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae’r Ddeddf hon yn darparu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwella llesiant gofalwyr o bob oed, gan gynnwys gofalwyr ifanc.

Yn ôl y gyfraith, mae gan bob gofalwr ifanc yr hawl i gymorth ar gyfer unrhyw anghenion cymwys. Mae'r angen am gymorth yn cael ei ganfod drwy asesiad o anghenion gofalwr awdurdod lleol. Rhaid cynnig asesiad i unrhyw ofalwr ifanc a allai fod angen cymorth.

Nid yw’n dibynnu ar faint o ofal y mae’r plentyn neu berson ifanc yn ei ddarparu nac a yw’r person y maent yn gofalu amdano yn cael cymorth drwy’r awdurdod lleol.

Ni fydd angen asesiad anghenion gofalwr ar bob gofalwr ifanc. Ond mae gan bob gofalwr, o unrhyw oedran, hawl i gael mynediad at wybodaeth, cyngor a chymorth gan eu hawdurdod lleol, p'un a ydynt wedi cael eu hasesu ai peidio.

Gall y cyngor roi’r wybodaeth, y cyngor a’r cymorth hwn eu hunain neu gyfeirio at wasanaeth gofalwyr ifanc lleol i wneud hyn ar eu rhan.

Rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ledled Cymru hefyd hyrwyddo llesiant gofalwyr sydd angen cymorth.

Mae gan ofalwyr ifanc yng Nghymru hawliau cyfreithiol o dan y Ddeddf hon fel gofalwyr. Mae’n bosibl y bydd gan rai hawliau hefyd fel plentyn sydd angen gofal a chymorth. Mae Cod Ymarfer ar gyfer y Ddeddf yn dweud y dylai asesiad:

  • ystyried pa mor abl a pharod yw’r person ifanc i ddarparu gofal a pharhau i wneud hyn.
  • edrych ar y canlyniadau y mae’r rhai sydd â chyfrifoldeb rhiant am y gofalwr ifanc eu heisiau ar gyfer eu plentyn, ac a allai cymorth ychwanegol eu helpu i gyflawni’r canlyniadau hyn.
  • cynnwys y gofalwr a, lle bo modd, y person y gofelir amdano. Weithiau gall y gofalwr ifanc gael cymorth gan weithiwr gofalwyr ifanc annibynnol yn ystod yr asesiad.
  • os yw’r gofalwr yn blentyn, ystyried ei anghenion datblygiad ac a yw’n briodol i’r plentyn ddarparu’r gofal.
  • os yw’r gofalwr rhwng 16 a 25 oed, asesu unrhyw newidiadau yn awr neu yn y dyfodol y mae’r gofalwr yn debygol o’u gwneud wrth symud i addysg bellach neu uwch, cyflogaeth neu hyfforddiant.

Beth yw asesiad gofalwr ifanc

Trefnu a pharatoi ar gyfer eich asesiad gofalwr ifanc

Beth i'w ddisgwyl yn ystod ac ar ôl eich asesiad

Oedolion ifanc sy'n gofalu a hawliau cyflogaeth

Mwy o help i ofalwyr ifanc