Hawliau Gofalwyr Ifanc yn Lloegr

CymraegEnglish

Yn Lloegr, mae tair prif gyfraith sy’n cydnabod gofalwyr ifanc ac yn nodi eich hawliau: Deddf Plant 1989,

Deddf Gofal 2014 a Deddf Iechyd a Gofal 2022. Mae’r rhain yn cynnwys yr hawl i bob gofalwr ifanc gael asesiad o anghenion i weithio allan pa gymorth sydd ei angen arnynt.

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi rhoi canllawiau clir i gynghorau lleol ar yr hyn y mae’n rhaid iddynt ei wneud i gefnogi gofalwyr ifanc.

Deddf Plant 1989

Mae'r ddeddf hon yn dweud beth ddylai cynghorau ei wneud i helpu plant a'u teuluoedd allai fod angen cymorth ychwanegol. Mae'n dweud bod yn rhaid iddynt:

  • weithio gyda chymunedau fel bod gofalwyr ifanc yn cael eu cydnabod.
  • cynnal asesiadau o anghenion gofalwyr ifanc. Rhaid iddynt wneud hyn os yw’n ymddangos bod angen cymorth ar berson ifanc neu os yw’r gofalwr ifanc neu ei deulu yn gofyn am gael ei asesu.
  • gwneud yn siŵr bod gan ofalwyr ifanc a’u teuluoedd y wybodaeth sydd ei hangen arnynt a’u bod yn gallu cael mynediad at gyngor a chymorth.

Deddf Gofal 2014

Mae’r Ddeddf hon yn dweud bod yn rhaid i gynghorau:

  • gynnal asesiadau ar gyfer gofalwyr ifanc hŷn (er enghraifft, gofalwyr ifanc 16 ac 17 oed) i ystyried beth fydd eu hanghenion a pha gymorth fydd ei angen pan fyddant yn 18 oed.
  • gwneud yn siŵr nad yw gofalwyr ifanc yn cael eu gadael â thasgau gofalu sy’n ormod i rywun o’r un oedran â nhw i ddelio â nhw.
  • adnabod plant yn y cartref a darganfod a ydyn nhw'n ofalwyr ifanc a pha gymorth y gallai fod ei angen arnyn nhw.

Deddf Iechyd a Gofal 2022

Mae’r Ddeddf hon yn dweud y dylai’r GIG gydweithio â chynghorau i:

  • adnabod gofalwyr ifanc a gwneud yn siŵr bod cymorth a chyngor ar gael iddynt.
  • ymgynghori â gofalwyr ifanc am anghenion y person y maent yn gofalu amdano.
  • ymgynghori â gofalwyr ifanc ynghylch newidiadau mewn polisïau sy'n effeithio arnyn nhw a'u teulu neu sut y caiff gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eu darparu.

Mae hefyd yn dweud os yw gofalwr ifanc yn gofalu am oedolyn sydd yn yr ysbyty, yna dylai ysbytai (gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl cleifion mewnol) ymgynghori â’r gofalwr ifanc cyn rhyddhau’r oedolyn o’r ysbyty.

Beth yw asesiad gofalwr ifanc

Trefnu a pharatoi ar gyfer eich asesiad gofalwr ifanc

Beth i'w ddisgwyl yn ystod ac ar ôl eich asesiad

Oedolion ifanc sy'n gofalu a hawliau cyflogaeth

Mwy o help i ofalwyr ifanc