Oedolion ifanc sy’n gofalu a hawliau cyflogaeth (Gogledd Iwerddon)
CymraegEnglish
Mae gan ofalwyr o bob oed yng Ngogledd Iwerddon hawl gyfreithiol i ofyn i’w cyflogwr am weithio hyblyg os ydynt yn gofalu am oedolyn sy’n berthynas neu’n byw yn yr un cyfeiriad â nhw.
Mae gan rieni sy'n gweithio sydd â phlant ag anableddau (o dan 18 oed) hawl i ofyn am drefniadau gweithio hyblyg.
Mae gan ofalwyr hefyd yr hawl i gymryd amser o'r gwaith heb dâl ar gyfer dibynyddion mewn argyfwng.
Unwaith y byddwch yn y gwaith bydd gennych hefyd hawliau cytundebol a nodir yn eich contract cyflogaeth. Mewn rhai achosion, bydd y rhain yn well na'r isafswm cyfreithiol.
I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau yn y gwaith, gallwch ofyn i'ch sefydliad gofalwyr lleol neu, os ydych yn aelod, undeb llafur. Mae gan rai cyflogwyr mwy hefyd wasanaeth lles staff a all roi cyngor.