Gofalwyr sy’n oedolion ifanc a hawliau cyflogaeth (Cymru, Lloegr a’r Alban)

CymraegEnglish

Yn 2024, daeth dwy ddeddf newydd i rym a allai helpu oedolion ifanc sy’n gofalu i ddod o hyd i swydd a’i chadw.

Mae Deddf Absenoldeb Gofalwr 2023 a Deddf Cysylltiadau Cyflogaeth (Gweithio Hyblyg) 2023 yn caniatáu i bobl ofyn am gael gweithio’n hyblyg o ddiwrnod cyntaf eu cyflogaeth. Mae'r Ddeddf Absenoldeb Gofalwr yn cwmpasu gweithwyr yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Mae'n rhoi'r un amddiffyniadau cyflogaeth i unrhyw un sy'n cymryd Absenoldeb Gofalwr ag ar gyfer mathau eraill o absenoldeb sy'n gysylltiedig â theulu. Er enghraifft, ni fyddwch yn gallu cael eich diswyddo oherwydd eich bod wedi cymryd amser i ffwrdd i ddarparu gofal hirdymor di-dâl.

Ychwanegir yr hawliau newydd hyn at yr hawl bresennol i ofyn am amser i ffwrdd mewn argyfwng.

Unwaith y byddwch yn y gwaith bydd gennych hefyd hawliau cytundebol a nodir yn eich contract cyflogaeth. Mewn rhai achosion, bydd y rhain yn well na'r isafswm cyfreithiol.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau yn y gwaith, gallwch ofyn i'ch sefydliad gofalwyr lleol neu, os ydych yn aelod, undeb llafur. Mae gan rai cyflogwyr mwy hefyd wasanaeth lles staff a all roi cyngor.

Hawliau Cyflogaeth i Ogledd Iwerddon