Cyflwyniad: Eich hawliau ledled y DU
CymraegEnglish
Os ydych chi'n 25 oed neu'n iau ac yn gofalu am aelod o'r teulu neu ffrind sydd â salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth, mae'r canllaw hwn ar eich cyfer chi.
P’un ai’ch bod yn ofalwr ifanc (dan 18 oed) neu’n ofalwr sy’n oedolyn ifanc (rhwng 18 a 25 oed), mae gennych hawliau.
Mae'n bwysig eich bod chi, a'ch teulu, yn gwybod eich hawliau fel y gallwch gael yr help sydd ei angen arnoch. Mae llawer o ofalwyr ifanc, a sefydliadau fel yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, wedi ymgyrchu i ennill yr hawliau hyn i wneud bywyd yn haws ac yn decach i bob gofalwr ifanc.
Eich hawliau ledled y DU
Mae yna ddeddfau gwahanol ym mhob un o bedair gwlad y DU; Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Ond ble bynnag yr ydych yn byw, mae gennych yr hawl:
- i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
- i gael asesiad o'ch anghenion eich hun.
Ac, yn bwysicaf oll, mae'n rhaid i'r gwasanaethau sydd yno i'ch helpu chi, a'r person rydych chi'n gofalu amdano, wneud yn siŵr nad ydych chi'n cymryd “lefelau amhriodol o ofal”. Mae hyn yn golygu na ddylai addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ddisgwyl na chaniatáu i chi ofalu am rywun os yw hynny:
- yn gwneud i chi deimlo'n bryderus, yn drist neu'n unig.
- yn golygu bod eich iechyd yn dirywio.
- yn golygu eich bod yn colli amser gyda ffrindiau.
- yn golygu eich bod yn gwneud yn waeth yn yr ysgol, coleg neu brifysgol.
- yn eich atal rhag dod o hyd i swydd neu ei chadw.
- yn eich atal rhag cyflawni eich nodau ar gyfer y dyfodol.
Mae’r hawliau hyn yn berthnasol i bob gofalwr ifanc, ni waeth pa mor ifanc ydyn nhw neu pwy maen nhw’n gofalu amdanyn nhw. Felly maen nhw'n berthnasol i chi os ydych chi'n 5, 15 neu 22 oed, ac os ydych chi'n gofalu am riant, brawd neu chwaer neu nain/taid neu famgu/tadcu.
'Dull teulu cyfan'
Er mwyn sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, dylai gwasanaethau fel awdurdodau lleol, ysbytai, meddygon a gwasanaethau iechyd meddwl gydweithio i sicrhau bod cymorth ar gael i bawb yn y teulu.
Efallai y clywch hyn yn cael ei ddisgrifio fel defnyddio 'dull teulu cyfan'. Ni ddylai unrhyw gymorth ar gyfer oedolyn neu blentyn sydd ag anghenion iechyd a gofal ddibynnu ar ofalwr ifanc yn darparu cymorth sy’n amhriodol neu’n ormodol.
Dysgwch fwy am y cyfreithiau penodol ar gyfer gofalwyr ifanc lle rydych chi’n byw:
Hawliau Gofalwyr Ifanc yng Nghymru
Hawliau Gofalwyr Ifanc yn Lloegr
Drwy gydol y canllaw hwn, rydym yn defnyddio 'gofalwr ifanc' i ddisgrifio rhywun sydd o dan 18 oed. Ond yn yr Alban, mae gofalwyr 18 oed yn dal i gael eu cyfrif fel gofalwyr ifanc tra'u bod yn yr ysgol.
Rydym hefyd wedi defnyddio ‘gofalwr sy’n oedolyn ifanc’ i ddisgrifio gofalwyr rhwng 18 a 25 oed. Ond mae rhai gwasanaethau ar gyfer gofalwyr sy’n oedolion ifanc sydd hefyd yn cefnogi pobl ifanc 16 a 17 oed i’w helpu i baratoi ar gyfer pan fyddant yn troi’n 18 oed.