Pecyn Recriwtio Ymddiriedolydd a Chadeirydd Bwrdd Cynghori Cymru
CymraegEnglish
Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn chwilio am Ymddiriedolydd Cymru ymrwymedig, ysbrydoledig a thra medrus a chanddynt wybodaeth ac arbenigedd am y system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a/neu sector cyhoeddus Cymru.
Bydd yr Ymddiriedolydd yn ychwanegu at ac yn cryfhau ein Bwrdd Ymddiriedolwyr a thîm staff deinamig, profiadol. Mae Ymddiriedolydd Cymru hefyd yn gweithredu’n Gadeirydd Bwrdd Cynghori Cymru.
Mae gofalu yn effeithio pob un ohonom, ac mae tri o bob pump ohonom yn debygol o fod yn ofalydd teuluol di-dâl ar ryw bwynt yn ein bywydau.
Gofalwyr di-dâl yw conglfaen ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol sydd dan gymaint o bwysau ac maent yn arbed dros £132bn i economi’r DG bob blwyddyn – cyfwerth ag £8.1bn yn flynyddol i systemau iechyd a gofal cymdeithasol.
Roedd 311,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru yng Nghyfrifiad 2021 - ffigwr sy’n debygol o fod yn danamcangyfrif.
Dangosodd y Cyfrifiad fod gan Gymru gyfran uwch o ofalwyr di-dâl yn y boblogaeth na Lloegr, gan gynnwys gofalwyr hŷn a gofalwyr ifanc, ac mae gofalwyr yng Nghymru yn fwy tebygol o fyw mewn ardaloedd difreintiedig.
Ers pandemig Covid-19, daeth gofalu di-dâl yn waith mwy dwys, a dangosodd y Cyfrifiad fod cyfran uwch o ofalwyr yn darparu dros ugain awr yr wythnos o ofalu bob wythnos nac erioed o’r blaen.
Manyleb rôl
Dewch o hyd i becyn recriwtio Ymddiriedolydd Cymru yma.
Sut i wneud cais
Gofynnir ichi e-bostio Ana Figueiredo gyda CV cyfredol a llythyr cefndir. Os hoffech siarad gyda’r Cadeirydd neu’r Prif Weithredwr cyn gwneud cais, dylech gysylltu ag Ana fydd yn gallu trefnu hynny. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw yw 30 Mai 2023.
Sicrhewch eich bod yn llenwi ein ffurflen monitro cyfle cyfartal yma ac yn anfon e-bost ynghyd â’ch CV a’ch datganiad ategol.
Bydd y rhestr fer o ymgeisyddion yn cael ei llunio'r wythnos ganlynol, a chynhelir cyfweliadau ar 13 Mehefin 2023.
Mae disgwyl i ymddiriedolwyr fynychu cyfarfodydd chwarterol o’r Bwrdd yn Llundain fel arfer a mynychu a chadeirio cyfarfodydd chwarterol Bwrdd Cynghori Cymru, a chynhelir y cyfarfodydd hynny yng Nghaerdydd ac ar-lein. Bydd disgwyl hefyd ichi fynychu prif ddigwyddiadau’r mudiad, megis ein derbyniad blynyddol gyda’n Llywydd Ei Huchelder y Dywysoges Frenhinol. Yn gyffredinol, bydd cyfanswm yr amser y mae disgwyl ichi ei neilltuo i waith yr elusen o gwmpas 15 diwrnod y flwyddyn.
Er na chynigir tâl am y rôl hon, bydd ymddiriedolwyr yn cael ad-daliad am dreuliau rhesymol a ysgwyddwyd yn ystod gwaith ar ran yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr.