Pecyn Recriwtio Cyfarwyddwr Cymru

CymraegEnglish

Cyfarwyddwr Cymru

Contract: Parhaol
Oriau: 35 awr yr wythnos
Cyflog: £69,084
Lleoliad: Hybrid – cyfuniad cytunedig o ddiwrnodau yn y cartref ac yn y swyddfa yn Heol y Gadeirlan, Caerdydd

29.5 diwrnod o wyliau blynyddol (Ebrill-Mawrth) a gwyliau banc, cynllun pensiwn (cyfraniad cyflogydd o 3% yn codi i 5% wedi’r cyfnod prawf), gweithio hyblyg, a 2 diwrnod gwirfoddoli gyda thâl

Mae Cyfarwyddwr Cymru yn rôl allweddol yn yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, gan arwain
ein gwaith ledled Cymru i sicrhau ein bod yn cyflawni ar gyfer gofalwyr di-dâl ac ar gyfer
mudiadau gofalwyr lleol. Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb am weithredu a
chyflawni ein strategaeth ar gyfer Cymru, fel rhan o’n strategaeth ehangach ar gyfer y
DG ‘Adeiladu Cymdeithas Ofalgar’. Byddant yn rhoi arweinyddiaeth amlwg o ran staff,
cyllidwyr a rhoddwyr, partneriaid a gyda Llywodraeth Cymru, ar lefel gweinidogion a
swyddogion. Byddant mor gyfforddus mewn sgyrsiau am ac arwain y gwaith o ddatblygu
a chyflawni rhaglenni ag y maent yn cynrychioli’r mudiad yn allanol. Rydym yn chwilio
am rywun sy’n fentergarol a chreadigol, sy’n gallu ehangu ein cyrhaeddiad a’n heffaith,
ac sy’n angerddol am lesiant gofalwyr di-dâl.

Er mwyn cael sgwrs gyfrinachol am y rôl, cysylltwch â:

Joe Levenson (Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi a Materion Allanol y DG)
jlevenson@carers.org neu Kirsty McHugh (Prif Weithredydd) kmchugh@carers.org.

Er mwyn cael mwy o wybodaeth am y broses gwneud cais, cysylltwch ag Andrew
Hyland (Pennaeth Pobl a Diwylliant) ar ahyland@carers.org.

I wneud cais, danfonwch CV cyfredol a datganiad cefnogi at Andrew Hyland ar
ahyland@carers.org.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 9am, Dydd Mercher 25 Ionawr 2023. Byddwn yn
rhoi gwybod i’r ymgeisyddion ar y rhestr fer erbyn dydd Gwener 27 Ionawr 2023.

Cyfweliadau Cam 1 (o bell) - Dydd Mawrth 31 Ionawr neu ddydd Mercher 1 Chwefror
2023 Cyfweliadau Cam 2 (wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd) - Dydd Mercher 8
Chwefror 2023.

Pecyn Recriwtio