CymraegEnglish
Mae miliynau o ofalwyr ledled y DU ac maent yn arbed gwerth biliynau o bunnoedd o ofal i'r wladwriaeth. Mae ganddyn nhw hefyd filiynau o bleidleisiau.
Ond mae gofalwyr wedi dweud wrthym eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu hanghofio, eu hesgeuluso a'u gorweithio. Mae'n rhaid i hyn stopio.
Ni ellir anwybyddu gofalwyr o bob oed – naill ai yn yr ymgyrch etholiadol neu gan Lywodraeth nesaf y DU.
Ymrwymo i ariannu'r gwasanaethau cymorth sydd eu hangen mewn cymunedau lleol i amddiffyn gofalwyr rhag gofynion gofal gormodol.
“Mae arnom angen dilysiad, cydnabyddiaeth a chymorth ar gyfer yr hyn a wnawn. Rydyn ni'n arbed arian i'r GIG a'r Llywodraeth, ac mae'n bryd i ni weld yr arbedion yna’n cael eu rhoi nôl i wasanaethau gofalwyr lleol y gallwn gael mynediad at yn gyflym ac yn hawdd.” - Gofalydd di-dâl.
Ni ddylai unrhyw ofalydd fyw mewn tlodi. Mae angen ailwampio’r system fudd-daliadau; mae angen help ar ofalwyr i ddod o hyd i waith a’i gadw; ac mae angen iddynt allu cael gafael ar grantiau bach a ariennir gan y wladwriaeth mewn cyfnodau anodd.
Rhaid diogelu addysg gofalwyr ifanc. Mae angen cyllid pwrpasol ac adnoddau ehangach i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael eu cefnogi i gydbwyso eu rôl gofalu â’u haddysg.
"Mae angen i leoedd addysg fod yn fwy ymwybodol o'r hyn y mae'n rhaid i ofalwyr ifanc fynd drwyddo. Gall fod yn anodd ac yn flinedig. Dydyn ni ddim yn ddiog; rydym ni wedi blino ac wedi gorweithio." - Gofalydd di-dâl.
Gwybodaeth i ofalwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol
Gwybodaeth i'r rhai sy'n gweithio gyda gofalwyr
Cofrestrwch gefnogaeth fel Ymgeisydd
LAWRLWYTHWCH EIN BRIFF ETHOLIAD CYFFREDINOL