Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn gweithio i drawsnewid bywydau gofalwyr di-dâl. Ni yw’r unig fudiad yn gweithredu ar draws gwledydd Prydain sy’n cefnogi mudiadau gofalwyr lleol. Rydym yn partneru gyda’n rhwydwaith o fudiadau gofalwyr lleol i ddarparu cyllid a chefnogaeth, cyflwyno rhaglenni blaengar yn seiliedig ar dystiolaeth a chodi ymwybyddiaeth & dylanwadu ar bolisi. Ein gweledigaeth yw bod gofalwyr di-dâl yn cael eu clywed a’u gwerthfawrogi, ac y gallant dderbyn cefnogaeth, cyngor ac adnoddau i’w galluogi i fyw bywydau boddhaus.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r argyfwng costau byw wedi parhau i wneud bywyd yn anodd iawn i lawer o bobl. Fel Llywydd yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, gwelais drosof fy hun yr effaith frawychus mae’n gael ar ofalwyr di-dâl, llawer ohonynt yn dioddef caledi ariannol difrifol yn barod oherwydd iddynt orfod rhoi’r gorau i weithio i barhau i ofalu am aelod o’r teulu.
Dyna pam y bu mor bwysig eleni i gofnodi 50 mlynedd ers sefydlu’r mudiad gofalwyr lleol cyntaf yng ngwledydd Prydain. Y canlyniad oedd cynllun Gofal Croesffordd a fu, ynghyd ag Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol dros Ofalwyr, yn gweithio i ddatblygu rhwydwaith o fudiadau gofalwyr lleol. Wrth i’r angen am rwydwaith o wasanaethau gofalwyr lleol ledled gwledydd Prydain ddod yn fwyfwy amlwg, unodd y ddwy elusen yn 2012 i ffurfio’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr. Roedd yr uniad yn garreg filltir allweddol yn y gwaith o adeiladu rhwydwaith o’r fath.
Fel rhan o gofnodi’r 50 mlwyddiant eleni, roeddwn yn falch o fod mewn derbyniad i gefnogwyr yn Llundain ym mis Mehefin. Roeddwn yn falch iawn o gael cyfle i ddiolch yn bersonol i’r ymddiriedolaethau, sefydliadau, partneriaid corfforaethol a dyngarwyr sydd wedi galluogi’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr i ddal ati i ddarparu cymorth hanfodol i ofalwyr di-dâl a mudiadau gofalwyr lleol.
Yn fy ymweliadau â gwasanaethau gofalwyr lleol o fewn rhwydwaith yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr a Swydd Gaerloyw eleni, gwelais y gefnogaeth a’r effaith amhrisiadwy y mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr a’i rhwydwaith o bartner fudiadau lleol yn parhau i’w darparu ledled gwledydd Prydain.
Rwyf yn arbennig o falch fod Cronfa Seibiant i Ofalwyr Ei Huchelder Brenhinol Y Dywysoges Frenhinol yn parhau i alluogi’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr i ddarparu cyllid ar gyfer mudiadau gofalwyr lleol i gefnogi gofalwyr di-dâl i allu manteisio ar seibiannau ac egwylion mawr eu hangen. Mae’r Gronfa’n llwyddo i gyflawni ei dwy brif amcan: lleihau unigedd a gwella gwytnwch ac optimistiaeth ynghylch cydbwysedd bywyd i ofalwyr di-dâl.
Mawr obeithiaf y byddwch yn dewis cefnogi’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn ein hymdrechion i barhau i ehangu ein rhwydwaith a gwella bywydau mwy a mwy o ofalwyr di-dâl.
Ychydig iawn o grwpiau mewn cymdeithas sydd wedi dioddef cymaint o’r ansicrwydd a achoswyd gan brisiau bwyd ac ynni yn codi mor gyflym â gofalwyr teuluol di-dâl, ac mae miliynau ohonynt wedi gorfod rhoi’r gorau i waith am dâl neu leihau eu horiau er mwyn gofalu am berthnasau sâl ac anabl.
O’r herwydd ni fu erioed cymaint o angen am yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr a’n rhwydwaith o 126 o ganolfannau gofalwyr lleol. Rhyngom, rydym yn cyrraedd dros 1 miliwn o ofalwyr di-dâl ac yn gwasanaethu 85% o ardaloedd pob awdurdod lleol. Mae gennym gyrhaeddiad ac mae gennym faint, ond mae’r angen yn tyfu hefyd, a dangosodd ffigyrau’r cyfrifiad fod gofalwyr di-dâl yn cefnogi mwy o bobl ag anghenion mwy cymhleth ac am fwy o oriau bob wythnos. Ar yr un pryd, mae gofal cymdeithasol mewn argyfwng, ac mae llai o ofalwyr teuluol yn cael y gefnogaeth maen nhw ei hangen gan awdurdodau statudol.
Mae gan ein rhwydwaith fomentwm ac uchelgais, ond ni allwn gyflawni ein cenhadaeth ar ein pen ein hunain. Rydym felly’n meithrin partneriaethau strategol ehangach a dyfnach nac erioed o’r blaen.
Gallwn ddewis o blith nifer o uchafbwyntiau eleni. Mae ein gwaith gyda gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr wedi magu momentwm, ac erbyn hyn mae Cynghrair Gofalwyr Ifanc Lloegr a Chymru yn dod o dan adain yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr (ar lun y rhwydwaith sy’n bod yn barod yn Yr Alban). Golyga hyn y byddwn yn cefnogi amrywiaeth llawer ehangach o fudiadau ac unigolion sy’n gweithio i drawsnewid gobeithion bywyd pobl ifanc a chanddynt rôl ofalu.
Mae ein gwaith gydag oedolion sy’n ofalwyr wedi aeddfedu a dyfnhau hefyd. Mae ein rhaglen Gwneud i Ofalwyr Gyfrif ledled gwledydd Prydain wedi’n galluogi i gyrraedd mwy o bobl mewn cymunedau tangynrychioledig, gan gynnwys gofalwyr di-dâl o gymunedau ethnig wedi’u lleiafrifo a grwpiau LHDTC+. Yn y cyfamser, mae ein rhaglen Triongl Gofal yn gweithio gyda mwy na 40 o ymddiriedolaethau iechyd meddwl y GIG, gan eu helpu i gefnogi gofalwyr pobl a chanddynt gyflyrau iechyd meddwl.
Rydym hefyd yn falch o’n gwaith yn y cenhedloedd. Roeddem yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi ein dewis yn bartner i reoli’r Cynllun Seibiannau Byr a’r Gronfa Cefnogi Gofalwyr gwerth miliynau o bunnoedd, y ddau ohonynt yn darparu cefnogaeth mawr ei hangen i ofalwyr di-dâl yng Nghymru. Rwyf yn falch fod ein gwaith yn Yr Alban wedi mynd o nerth i nerth. Buom yn un o symbylwyr y Strategaeth Ofalwyr Genedlaethol, gan gyhoeddi ymchwil newydd pwysig ar brofiadau gofalwyr di-dâl hŷn a buom yn helpu ein rhwydwaith o fudiadau gofalwyr lleol i ddarparu gwasanaethau mawr eu hangen i ofalwyr iau.
Wrth i’r argyfwng costau byw wneud cymaint o ddrwg, mae darparu grantiau yn parhau’n rhan bwysig o’n gwaith. Dosbarthwyd £3,820,380 y llynedd i ofalwyr di-dâl i dalu am hanfodion sylfaenol fyddai fel arall y tu hwnt iddynt neu er mwyn gallu cael seibiant mawr ei angen.
Gorffennaf gyda gair enfawr o ddiolch i’n rhwydwaith o fudiadau gofalwyr lleol, llawer ohonynt yn ei chael yn anodd cwrdd â’r galw cynyddol ar adeg pan nad oes digon o adnoddau gan y sector cyhoeddus a phan mae cymaint o gystadlu am arian. Clod mawr i bob un ohonynt. Hoffwn ddiolch hefyd i’n rhwydwaith teyrngar a chynyddol o gefnogwyr. Mae’r angen yn fawr ac mae’r gefnogaeth a roddwch inni yn gwneud gwahaniaeth enfawr i lawer o fywydau.
wedi cael eu rhoi mewn grantiau ar draws gwledydd Prydain i gefnogi 16,849 o ofalwyr di-dâl
o ddyheadau gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr wedi cael eu cefnogi’n uniongyrchol ar draws gwledydd Prydain
wedi cael eu rhoi mewn grantiau uniongyrchol i 2,370 o ofalwyr di-dâl
tuag at offer cartref hanfodol
ar gyfer seibiannau byr
i gefnogi dyheadau gwaith ac addysg
Eleni yw’r flwyddyn gyntaf i’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr adrodd ar ei strategaeth ar ei newydd wedd, ‘Adeiladu Cymdeithas Ofalgar’. Rydym yn falch iawn o rannu’r camau a gymerasom o dan bob un o’n pedwar piler strategol: Partner ar gyfer Twf, Tystiolaeth ar gyfer Effaith, Dylanwadu dros Newid ac Arloesi i Drawsnewid.
Nid yw ein heffaith ar gyfer gofalwyr di-dâl ond fod mor fawr â nerth ein rhwydwaith o fudiadau gofalwyr lleol. Bydd y partneriaethau hyn yn parhau’n rhan ganolog o’n ffordd o weithio, ac mae maint ein huchelgais yn galw am gynnydd yn eu lled a’u dyfnder.
Gwnaethom gynnydd rhagorol ar y piler strategol hwn. Rydym wedi: gwella ansawdd ein cynnig aelodaeth; wedi cymryd cyfrifoldeb am y Gynghrair Gofalwyr Ifanc; ac wedi adnewyddu Triongl Gofal, rhwydwaith o ymddiriedolaethau iechyd meddwl sy’n ymgorffori arferion gorau ar ofalwyr di-dâl yn eu gwaith.
o ofalwyr di-dâl wedi cofrestru gyda Phartneriaid Rhwydwaith yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr erbyn hyn
y cynnydd yng nghyfran y gofalwyr di-dâl dan 18 rydym yn eu cefnogi
o ofalwyr di-dâl yn dweud fod eu Partner Rhwydwaith yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr wedi gwella ansawdd eu bywyd
Mae’r Gynghrair Gofalwyr Ifanc yn rhwydwaith o fudiadau, unigolion a gweithwyr proffesiynol sy’n tyfu ac sydd wedi ymrwymo i wella canlyniadau a chefnogaeth i ofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr.
Ers i’r cyfrifoldeb am y Gynghrair Gofalwyr Ifanc drosglwyddo i’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr ym mis Ionawr 2023, cynyddodd yr aelodaeth i fwy na 175 o fudiadau a thros 400 o unigolion.
Rydym yn cynnal rhaglen reolaidd o weminarau ar faterion yn amrywio o ofalwyr ifanc o gefndiroedd tangynrychioledig, i edrych ar anghenion y teulu cyfan.
Rydym hefyd yn datblygu’r Cyfamod cyntaf erioed ar gyfer Gofalwyr Ifanc ac Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr. Bydd y cyfamod yn gwneud ymrwymiad i’r deilliannau rydym am eu gweld ar gyfer pob gofalydd ifanc ac oedolyn ifanc sy’n ofalydd yng ngwledydd Prydain.
Mae’r Triongl Gofal yn gynghrair therapiwtig mewn lleoliadau iechyd rhwng cleifion/pobl sy’n defnyddio gwasanaethau, aelodau staff a gofalwyr di-dâl. Mae’n hyrwyddo diogelwch, yn cefnogi gwaith adfer ac yn cynnal llesiant.
Ail-lansiodd yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr y Triongl Gofal a phenodi arweinydd pwrpasol i symud y rhaglen yn ei blaen trwy ddefnyddio model yn seiliedig ar ffioedd cynaliadwy. Mae gan 74% o’r Ymddiriedolaethau Iechyd Meddwl GIG yn Lloegr achrediad Triongl Gofal ac maent yn defnyddio arfer blaengar i adnabod, cefnogi, hysbysu a gwrando ar ofalwyr di-dâl yn bartneriaid gofal cyfartal ac arbenigol. Yn 2023-24 a thu hwnt byddwn yn gweithio tuag at gyrraedd 100% o Ymddiriedolaethau Iechyd Meddwl y GIG ac ehangu i farchnadoedd newydd.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, fel rhan o’n haelodaeth o’r Gynghrair Iechyd a Llesiant, rydym wedi:
Trwy’r Gynghrair Iechyd a Llesiant, bu’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn gweithio hefyd gyda’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac NHS England ar ddatblygiadau polisi pwysig megis y ‘Next Steps to Put People at the Heart of Care’ paper, Care Workforce Pathway, a Care Data Matters.
Gweithiodd yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr mewn partneriaeth gydag NHS England , Mobilise, Carers UK, Carers First a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion (ADASS) yn Llundain i gyd-gynhyrchu “Carers and Hospital Discharge Toolkit for London Hospitals and Community Providers”.
Datblygwyd y pecyn i helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddod o hyd i’w ffordd trwy lwybr rhyddhau cleifion o’r ysbyty ar gyfer gofalwyr. Bydd yn helpu ysbytai i weithio gyda gofalwyr a mudiadau gofalwyr i sicrhau proses ryddhau ddiogel, esmwyth a llwyddiannus a sicrhau bod cleifion a gofalwyr yn cael y gefnogaeth briodol.
Mae’r prosiect hwn yn rhan o gyflawnadwyau Cynllun Hirdymor y GIG ac mae’n enghraifft dda o gydweithio a chyd-gynhyrchu ar draws Llundain gyda phartneriaid. Gellir ei ddefnyddio gan unrhyw ysbyty yn y wlad sy’n cydnabod pwysigrwydd adnabod, cynnwys, a chefnogi gofalwyr di-dâl yn y broses ryddhau.
Yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yw’r unig fudiad sy’n gweithio ar draws gwledydd Prydain ar gyfer mudiadau gofalwyr lleol. Mae’n hanfodol felly fod cynnig aelodaeth rhwydwaith yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr ar gyfer Partneriaid Rhwydwaith yn parhau i ddiwallu anghenion partneriaid lleol a gofalwyr di-dâl, wrth i ni symud tuag at gyflawni ein dyheadau strategol 2022-25.
Ym mlwyddyn ariannol 22/23 mae’r prosiect hwn i wella gwerth partneriaeth aelodaeth o’r rhwydwaith wedi cynnwys mwy nac 20 o Bartneriaid Rhwydwaith gwahanol ar draws y cenhedloedd yn ein cyfres ‘sgyrsiau rhwydwaith’. Mae sgyrsiau ychwanegol yn digwydd ymhob Hwb Gofalwyr rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn gwrando ar adborth a blaenoriaethau allweddol.
Mae anghenion gofalwyr di-dâl yn ganolog i waith ein helusen. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i sicrhau gwasanaethau o ansawdd i ofalwyr trwy ein rhwydwaith o fudiadau gofalwyr lleol. Gwneir hyn mewn sawl ffordd, gan gynnwys trwy ein gwobr Ansawdd Rhagoriaeth ar gyfer Gofalwyr.
Mae Rhagoriaeth ar gyfer Gofalwyr yn asesu ein Partneriaid Rhwydwaith yn ôl safonau i helpu sicrhau bod eu gwasanaethau yn uchel eu hansawdd, yn gynhwysol a’u bod o ddifrif yn diwallu anghenion gofalwyr. Mae 85% o ofalwyr di-dâl yn barnu ein Partneriaid Rhwydwaith yn ‘dda’ neu’n ‘dda iawn’ – nifer calonogol ond un yr ydym wastad yn ymdrechu i’w godi.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae mwy o Bartneriaid Rhwydwaith wedi dangos eu bod yn gyson yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i ofalwyr ac wedi sicrhau’r wobr Rhagoriaeth ar gyfer Gofalwyr. Nid yw’r wobr ei hun ond yn ddechrau taith ansawdd y mudiad – mae Rhagoriaeth ar gyfer Gofalwyr yn helpu adeiladu dull partneriaeth o wneud gwelliannau parhaus.
Rydym yn gweithio gyda’n rhwydwaith o fudiadau gofalwyr lleol ar draws ystod eang o wasanaethau a rhaglenni sy’n ceisio lleddfu caledi a chefnogi gofalwyr di-dâl. Mae’r profiad hwn yn rhoi corff cyfoethog o dystiolaeth i ni ar gyfer adnabod arferion sydd fwyaf tebygol o leddfu a lleihau anghydraddoldebau yn deillio o ddarparu gofal.
Rydym wedi llwyddo i gyflawni nifer o bethau o dan y thema hon, gan gynnwys ein rhaglen Gwneud i Ofalwyr Gyfrif – cefnogi, er enghraifft, gofalwyr di-dâl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig ac LHDTC+ sy’n cael eu tangynrychioli o ran manteisio ar wasanaethau a chymorth – a lansio ein Cynllun Seibiannau Byr mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, gwerth £9m rhwng 2022-2025.
o ofalwyr di-dâl wedi gweld gwelliant yn eu llesiant oherwydd cefnogaeth ein rhwydwaith
o ofalwyr di-dâl wedi gweld gwelliant yn eu gwytnwch oherwydd cefnogaeth ein rhwydwaith
o ofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr wedi gweld gwelliant yn eu cyflogadwyedd oherwydd cefnogaeth ein rhwydwaith
Mae ein Gŵyl Gofalwyr Ifanc Yr Alban flynyddol yn Fordell Firs yn cynnig cyfle i ofalwyr ifanc gael hoe o ofalu, cyfarfod â gofalwyr ifanc eraill, rhannu eu meddyliau ac, yn bwysicaf oll, cael hwyl.
Daeth 400 o ofalwyr ifanc at ei gilydd o 34 o wasanaethau gofalwyr lleol ar draws Yr Alban yng ngŵyl y llynedd. Buont yn cymryd rhan mewn gweithgareddau o bob math, o deganau chwythu i fyny, colur ar gyfer gwyliau, bandiau byw i ddewiniaeth! Rhannodd gofalwyr ifanc eu profiadau a’u safbwyntiau yn y Llecyn Ymgynghori – lle y croesawyd 17 o westeion gan gynnwys dau o Weinidogion Cabinet Llywodraeth Yr Alban i drin a thrafod yn uniongyrchol gyda gofalwyr ifanc.
Dywedodd 99% o ofalwyr ifanc y cawsant y cyfle i gael hwyl yn yr ŵyl a dywedodd 96% eu bod wedi cael hoe o’u cyfrifoldebau gofalu.
Yn 2023, croesawyd 500 o ofalwyr ifanc i’n digwyddiad i gael hwyl, cael seibiant a rhannu eu barn.
Mae Gwneud i Ofalwyr Gyfrif (GOG) yn adnabod a chefnogi gofalwyr di-dâl sy’n cael eu tangynrychioli ymhlith y grwpiau cymunedol rydym yn eu cyrraedd ar hyn o bryd. Trwy weithio gyda 27 o bartneriaid rhaglen lleol, mae GOG eisoes wedi cefnogi dros 8,696 o ofalwyr di-dâl i allu manteisio ar y gwasanaethau newydd hyn.
Mae’r rhaglen yn creu cydweithrediadau newydd ehangach a hollbwysig, yn ymestyn dulliau ymgysylltu, yn cynyddu dysgu, ac yn gwella’r ffordd y darperir cefnogaeth i ofalwyr di-dâl o’r grwpiau hyn. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr wedi darparu cyfres o sesiynau adeiladu capasiti ar gyfer ein Partneriaid Rhwydwaith sy’n rhan o GOG, ar themâu megis monitro a gwerthuso, astudiaethau enghreifftiol ac arferion cynhwysol wrth benodi a chadw staff. Roedd 76% o’r sawl fu ar y sesiynau yn cytuno fod ganddynt fwy o wybodaeth yn sgil y sesiynau hyn.
Gyda chymorth ariannol gan ein rhaglen Gwneud i Ofalwyr Gyfrif, mae Canolfan Ofalwyr Wandsworth yn rhedeg grŵp ar gyfer gofalwyr di-dâl LHDTC+ sy’n darparu cefnogaeth mawr ei hangen ar gyfer pobl nad ydynt yn aml yn gofyn am help gan fudiadau gofalwyr.
Amcangyfrifir fod un o bob deg person sy’n ystyried eu hunain yn LHDTC+ yn ofalydd di-dâl. Fodd bynnag, nid yw’r niferoedd hynny’n cael eu hadlewyrchu yn y data sy’n dangos pwy sy’n derbyn gwasanaethau cefnogi ar gyfer gofalwyr.
Mae Cecilia, 54, a symudodd i fyw at ei mam Maria bum mlynedd yn ôl i fod yn ofalydd llawn-amser iddi, yn un o’r bobl sy’n mynd i’r grŵp cefnogi. Cymerodd tua dwy flynedd i Cecilia ddarganfod Canolfan Ofalwyr Wandsworth, ac erbyn hyn mae’n eu disgrifio fel ei “hangylion”. Mae’r grŵp cefnogi LHDTC+ yn creu gofod diogel iddi drafod yr effaith y mae gofalu yn ei chael arni hi’i hun. Dywedodd Cecilia fod y grŵp yn debyg iawn i’r ddealltwriaeth reddfol a gewch gan gyfaill gorau gydol oes.
“Mae’r grŵp wedi bod yn wych…Alla i ddim esbonio ichi faint o wahaniaeth mae wedi’i wneud imi, alla i ddim mesur na chyfrif ei werth…Mae pob un o’r bobl rydw i wedi siarad â nhw wedi fy rhyfeddu trwy wneud cymaint mwy nac oedd rhaid iddynt. Dyna pam rwy’n eu galw’n angylion. Dydw i ddim yn siŵr iawn sut maen nhw’n llwyddo.”
Dywedodd llefarydd ar ran Canolfan Ofalwyr Wandsworth: “Weithiau, mae pobl yn gwneud rhagdybiaethau ynghylch pwy sy’n ofalydd neu am bwy maen nhw’n gofalu. Yn aml, mae arwyddocâd perthnasoedd gydag aelodau dewisiedig o’r teulu yn cael ei gamddeall hefyd. Mae rhai gofalwyr LHDTC+ yn teimlo’n gyfforddus i ymuno â grwpiau cefnogi cyffredinol, ond mae’n well gan eraill gael gofod LHDTC+ penodol. Mae gallu cynnig y ddau ddewis i ofalwyr wedi bod yn bwysig iawn inni.”
Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gweithio gyda chyflogwyr allweddol sydd wedi cynnig cefnogaeth bwrpasol i oedolion ifanc sy’n ofalwyr, datgloi eu potensial ac ehangu’r ystod o gyfleoedd gwaith sydd ar gael iddynt.
Rydym wedi galluogi gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr i fynychu gweithdai cyflogadwyedd, ymweld â gweithleoedd a chyfarfod â chyflogwyr ar draws sectorau.
Mae ein partneriaeth gyda’r Gwasanaeth Sifil wedi golygu fod chwe oedolyn ifanc sy’n ofalydd wedi cael cynnig swyddi trwy eu cynllun pwrpasol Symud Ymlaen at Swydd.
Ers dechrau rhaglen Dyfodol Gofalwyr Ifanc (Medi 2021) rydym yn falch iawn o fod wedi: trefnu 78 gweithgaredd gyrfaol cyffrous mewn partneriaeth â chyflogwyr; helpu 280 o oedolion ifanc sy’n ofalwyr i fynd ar weithdai cyflogadwyedd; llenwi 17 o rolau intern am dâl ar gyfer oedolion ifanc sy’n ofalwyr yn yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr; a chefnogi 36 o oedolion ifanc sy’n ofalwyr i mewn i fyd gwaith gyda’n partner fudiadau.
Eleni oedd blwyddyn olaf ein rhaglen Gweithio dros Ofalwyr (a ddechreuodd ym mis Ionawr 2017), sy’n cefnogi gofalwyr di-dâl a chyn ofalwyr i symud yn agosach at gael swydd. Cefnogodd y rhaglen 1,266 o ofalwyr di-dâl a chyn ofalwyr o bob un o 33 bwrdeistref Llundain ac fe’i harianwyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Roedd y prosiect yn llwyddiant mawr, a chafodd ei roi ar restr fer gwobr Partneriaeth Gymunedol y Flwyddyn ERSA (Cymdeithas Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth).
Eleni cafodd ein Cronfa Cefnogi Gofalwyr newydd ei lansio, sef rhaglen bartneriaeth tair blynedd gyda Llywodraeth Cymru fydd yn gweithio gyda mudiadau gofalwyr lleol a phartneriaid cyflawni eraill ledled Cymru i gefnogi gofalwyr di-dâl sy’n profi caledi ariannol oherwydd yr argyfwng costau byw ac effaith barhaus y pandemig.
Wrth gyflwyno £903,900 yn ei blwyddyn gyntaf, cefnogodd y Gronfa Cefnogi Gofalwyr 6,033 o ofalwyr di-dâl ar draws Cymru gyda phrynu hanfodion i’r cartref, bwyd, ynghyd â chefnogaeth i gael budd-daliadau a datblygu sgiliau rheoli arian a gwella eu gwytnwch ariannol. Roedd 85% o ofalwyr yn cytuno fod ansawdd eu bywyd wedi gwella ac roedd 82% yn teimlo fod rhywfaint o’r baich ariannol wedi ysgafnhau.
Wrth ymateb i’n papur arwain trafodaeth ar seibiannau byr i ofalwyr, penododd Llywodraeth Cymru Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i fod yn Gorff Cydlynu Cenedlaethol ar gyfer Cynllun Seibiannau Byr cyntaf erioed Llywodraeth Cymru, gwerth £9m rhwng 2022-2025.
Mae’r Cynllun Seibiannau Byr yn gobeithio cyrraedd mwy na 30,000 o ofalwyr di-dâl, er mwyn iddynt allu byw bywyd a gofalu ar yr un pryd. Rydym yn gwneud hynny trwy ein rhaglen Amser a agorodd ym mis Ionawr 2023. Gwahoddodd y rhaglen geisiadau am arian oddi wrth fudiadau trydydd sector. Mae’r mudiadau oedd yn llwyddiannus gyda’u ceisiadau wrthi’n dosbarthu arian ar ffurf cyfleoedd seibiannau byr i ofalwyr di-dâl. Byddwn yn dosbarthu gwerth £1.9 o grantiau trwy’r trefniant hwn trwy gydol 2023-24, gan greu seibiannau byr hyblyg, personol ac wedi’u hariannu ar gyfer gofalwyr di-dâl ledled Cymru.
Ym mis Ionawr 2023 cafodd ein cyfrifiannell Ad-daliad Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) ei lansio, yn seiliedig ar ymchwil helaeth gyda gofalwyr di-dâl, unigolion mewn gofal, staff yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr a budd-ddeiliaid allweddol eraill.
Buom yn gweithio mewn partneriaeth gyda Civil Society Consulting i ddylunio a datblygu’r gyfrifiannell hon, sef y cyntaf o’i math. Mae’n galluogi mudiadau gofalwyr rheoledig ac anreoledig i gyfleu gwerth cymdeithasol eu gwaith.
Defnyddir yr offeryn gan ganolfannau gofalwyr lleol yn ein rhwydwaith i gynhyrchu tystiolaeth gadarn i’w defnyddio mewn sgyrsiau gyda chomisiynwyr a chyllidwyr. Mae ein rhwydwaith yn cynrychioli’r system iechyd a gofal cymdeithasol ehangach trwy ddarparu cymorth hollbwysig i ofalwyr. Y flwyddyn nesaf byddwn yn rhannu manylion SROI cyffredinol ein rhwydwaith, fydd yn helpu adeiladu dadl dros newid.
Roeddem eisiau gwrando ar, a deall yn well, brofiadau gofalwyr di-dâl o gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru er mwyn codi ymwybyddiaeth ac amlygu atebion i heriau penodol. Aethom ati i gynhyrchu adroddiad ymchwil ar y canfyddiadau er mwyn dylanwadu ar wneuthurwyr penderfyniadau, a threfnu digwyddiad Bord Gron llwyddiannus a ddaeth â budd-ddeiliaid o awdurdodau lleol, mudiadau cymunedol a gofalwyr di-dâl o gymunedau gwahanol at ei gilydd. Yn dilyn hyn, fe sefydlwyd gweithgor i ddechrau gweithredu ar yr argymhellion.
Fel rhan o dîm dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, bu’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn cyd-greu adnodd gweithgaredd corfforol ar gyfer gofalwyr pobl â chlefyd Huntington (HD), sy’n aml yn ei chael yn anodd gwneud gweithgarwch corfforol yn gyson. Yn dilyn gweithdy gyda gofalwyr di-dâl, aeth y tîm ati i gyd-ddylunio adnodd prototeip, a gafodd ei werthuso, ac fe wnaed addasiadau ar sail hynny. Bydd yr adnodd ar gael cyn bo hir, a bydd yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn defnyddio’r canfyddiadau i ddysgu sut orau i gefnogi gofalwyr pobl a chanddynt gyflyrau iechyd hirdymor.
Dywedodd gofalwyr di-dâl yng ngwledydd Prydain eu bod yn teimlo y cawsant eu hanwybyddu gan un llywodraeth ar ôl y llall, tra bod mudiadau gofalwyr lleol yn gweithio mewn amgylcheddau heriol iawn. Dyna pam yr ydym mor benderfynol i herio grym gyda’r gwir a gweithio gyda gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol i wneud y newidiadau sydd eu hangen.
Cawsom ein Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc prysuraf eto yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, pan lansiwyd ein gwaith newydd ar gynnwys gofalwyr, a chreu Grŵp Seneddol Trawsbleidiol (APPG) ar gyfer Gofalwyr Ifanc ac Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr. Mae llawer o weithgareddau eraill yn amlygu ein hymrwymiad i ddylanwadu i greu newid.
o wneuthurwyr penderfyniadau wedi gweithio gyda ni dros y flwyddyn ddiwethaf
o gyfeiriadau atom yn y cyfryngau dros y flwyddyn ddiwethaf
o ofalwyr di-dâl wedi cyfrannu at amlygu ein cenhadaeth ledled gwledydd Prydain
Ar ein Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc prysuraf eto, cyhoeddwyd ein hadroddiad arolwg blynyddol, ac fe drefnwyd sawl digwyddiad gyda gwneuthurwyr penderfyniadau i wella ymwybyddiaeth o ofalwyr ifanc a’r gefnogaeth a roddir iddynt.
Cyflwynodd gofalwyr ifanc o bob rhan o Loegr ein llythyr agored at y Prif Weinidog yn 10 Stryd Downing. Roedd y llythyr hwn, a lofnodwyd gan fwy nac 80 mudiad a 300 o unigolion, yn galw ar y Llywodraeth i wella’r gefnogaeth i ofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr.
Gofynasom i Aelodau Seneddol ac Aelodau Tŷ’r Arglwyddi lofnodi addewid ar gyfer gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr. Mae dros 50 o Aelodau Seneddol o bleidiau gwleidyddol gwahanol wedi addo eu cefnogaeth hyd yn hyn. Rydym hefyd wedi trefnu i Gomisiynydd Plant Lloegr, y Fonesig Rachel de Souza, ymweld ag ysgol gyda Phartner Rhwydwaith, Enfield Carers, i gyfarfod gofalwyr ifanc a chlywed am eu profiadau.
Fel blaenoriaeth strategol, rydym wedi ymrwymo i drawsnewid cyfraniad a chyfranogiad gofalwyr yn yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, gan roi llais gwirioneddol gofalwyr ynghanol ein gwaith eiriol a phopeth a wnawn. Rydym wedi lansio ein Gwe Dudalennau Cynnwys Gofalwyr newydd, lle y gall gofalwyr ddod o hyd i gyfleoedd i gymryd rhan ymhob agwedd ar ein gwaith, o ymchwil a dylanwadu i gyfathrebu a chynghori Ymddiriedolwyr.
Rydym wedi lansio ein Panel Ieuenctid Ymgynghorol, fydd yn rhoi cyswllt uniongyrchol i ofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr gyda’n Bwrdd Ymddiriedolwyr ac yn sicrhau cynrychiolaeth o bob rhan o wledydd Prydain.
Mae gennym hefyd lawer o brosiectau cyffrous wedi’u trefnu ar gyfer 2023 a 2024: ein Grŵp Cyfeiriol Ymglymiad Gofalwyr; gofalwyr ifanc yn cyfrannu at gynllunio a chynnal Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc; a datblygu’r Cyfamod Cyntaf ar gyfer Gofalwyr Ifanc ac Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr.
Ym mis Mai 2022, rhoesom dystiolaeth ysgrifenedig a llafar i Ymchwiliad Pwyllgor Gofal Cymdeithasol i Oedolion Tŷ’r Arglwyddi i’r hyn sydd angen ei newid i greu system ofal deg, gydnerth a chynaliadwy. Roedd ein tystiolaeth yn canolbwyntio ar gydnabod gofalwyr di-dâl yn bartneriaid gofal cyfartal ac arbenigol ar draws yr holl lwybrau gofal clinigol a chymdeithasol, gan ystyried Triongl Gofal yn rhaglen gwella ansawdd hollbwysig er mwyn cyflawni hynny.
Roedd adroddiad y Pwyllgor, ‘A Gloriously Ordinary Life’ yn cynnwys argymhelliad y dylai gofalwyr di-dâl gael mwy o gefnogaeth gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn eu hadnabod, eu cyfeirio at gefnogaeth, a gofalu eu bod yn ei chael.
Trwy’r APPG ar gyfer Gofalwyr Ifanc ac Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr, trefnasom dderbyniad seneddol ar Ddiwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc a fynychwyd gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Helen Whately a’r Gweinidog Plant a Blynyddoedd Cynnar Cysgodol, Helen Hayes.
Cynhaliwyd cyfarfod ffurfiol cyntaf yr APPG ar-lein ym mis Ionawr 2023, a fynychwyd gan Gomisiynydd Plant Lloegr, y Fonesig Rachel de Souza. Rhoddodd drosolwg o’r mewnwelediadau gan ofalwyr ifanc a gymerodd ran yn The Big Ask, ymgynghoriad gyda mwy na over 500,000 o blant, ynghyd â barn gofalwyr ifanc o waith ei Swyddfa ar bresenoldeb ysgolion a chymorth i deuluoedd. Clywodd y Fonesig Rachel hefyd oddi wrth ofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr o bob rhan o Loegr am yr heriau maen nhw’n eu hwynebu.
Cafodd galwad Ymddiriedolaeth Gofalwyr Yr Alban am strategaeth genedlaethol newydd ar gyfer gofalwyr di-dâl ei hateb ym mis Rhagfyr 2022 pan gyhoeddodd Llywodraeth Yr Alban ei Strategaeth Ofalwyr Genedlaethol – strategaeth tair blynedd yn hoelio sylw ar nifer o themâu allweddol, gan gynnwys: Cymorth Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Chynhwysiant Ariannol a Chymdeithasol.
Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Yr Alban Ddrafft Reoliadau Cymorth i Ofalwyr (Taliad Cefnogi Gofalwyr). Caiff y Taliad Cefnogi Gofalwyr - fydd yn disodli’r Lwfans Gofalwyr yn Yr Alban - ei gyflwyno yn y Gwanwyn 2024 a bydd yn ehangu’r hawl i gael y budd-dal. Mae hyn yn cynnwys cael gwared â’r rheol astudio 21-awr/llawn-amser ar gyfer y rhan fwyaf o fyfyrwyr sy’n ofalwyr. Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Yr Alban wedi ymgyrchu i gael gwared â’r rheol hon ers rhai blynyddoedd.
Mae Llywodraeth Yr Alban hefyd wedi cyflwyno eu Bil Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol (Yr Alban), sy’n cynnwys y bwriad i gyflwyno Hawl i Seibiannau ar gyfer gofalwyr di-dâl, hawl y mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Yr Alban wedi bod yn galw amdano yn ei hargymhellion ymchwil a thrwy ei gwaith dylanwadu.
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi trefnu tri chyfle i ofalwyr ifanc gysylltu gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru – gan gynnwys un ar Ddiwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc. Hefyd, cynhaliodd dderbyniad yn Y Senedd lle y cafodd gofalwyr ifanc gyda chefnogaeth y Rhwydwaith gyfle i drin a thrafod gyda holl Aelodau’r Senedd.
Mewn sesiynau ar y cyd gyda Senedd Ieuenctid Cymru a’r Senedd, mae gofalwyr ifanc wedi cynrychioli’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr ac wedi siarad am eu profiadau. Roeddent wedi annog Aelodau’r Senedd i weithredu ar argymhellion Senedd Ieuenctid Cymru, er enghraifft ynghylch gwella cymorth iechyd meddwl.
Mae ein gwaith ymgysylltu, ar ran Llywodraeth Cymru, wedi’n galluogi i weithio’n uniongyrchol gyda 123 o oedolion sy’n ofalwyr di-dâl a 115 o ofalwyr ifanc, a chafodd eu barn ei fwydo’n ôl yn uniongyrchol i Grŵp Ymgynghorol y Gweinidog ar gyfer Gofalwyr.
Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddodd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Yr Alban eu hymchwil ‘Experiences of Older Adult Unpaid Carers in Scotland’, yn edrych ar ofalwyr di-dâl 65 oed a hŷn. Cynhaliodd ddigwyddiad lansio hefyd i roi cyhoeddusrwydd i’r canfyddiadau.
Yn dilyn yr argymhellion yn yr adroddiad, rydym yn cynnal ymgyrch genedlaethol i alw am ehangu’r Taliad Cefnogi Gofalwyr (Lwfans Gofalwyr ar hyn o bryd). Dewis arall yw cyflwyno taliad cydnabyddiaeth penodol ar gyfer oedolion hŷn sy’n ofalwyr di-dâl pan nad ydynt mwyach yn gymwys i dderbyn y Taliad Cefnogi Gofalwyr oherwydd eu bod yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth.
Cafodd casgliadau’r adroddiad sylw da ar y cyfryngau, gan gynnwys ITV News a dynnodd sylw atynt ar eu prif raglen newyddion nosweithiol.
Yn dilyn ymgyrch gan oedolyn ifanc sy’n ofalydd a gyda chefnogaeth gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, am y tro cyntaf eleni, gall myfyrwyr yn gwneud cais i brifysgol ddatgan eu bod yn ofalydd di-dâl ar ffurflen gais UCAS.
Gweithiodd yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr ac oedolyn ifanc sy’n ofalydd, Holly, gydag UCAS i gynhyrchu holiadur dilynol ar gyfer pob ymgeisydd oedd yn ystyried eu hunain yn ofalydd di-dâl i helpu dysgu mwy am ba gefnogaeth a gawsant, a’r gefnogaeth allai fod ei hangen arnynt yn y brifysgol.
Yn yr Hydref 2023 bydd UCAS yn cynhyrchu adroddiad ar ganfyddiadau’r holiadur hwn. Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn cydweithio’n agos ar yr adroddiad.
Cydnabyddiaeth am y llun: Jack Evans
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae staff ac ymddiriedolwyr yn yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr wedi cael hyfforddiant gwrth-hiliol a buont yn cydweithio i greu ein Map Gwrth-Hiliol cyntaf erioed.
Mae’r map yn cyflwyno gweledigaeth newydd:
“Rydym yn ceisio grymuso pob gofalydd di-dâl a sicrhau bod yr holl wasanaethau cefnogi gofal yn darparu cymorth cydradd, cynhwysol, ac urddasol; gwnawn hynny trwy weithio mewn solidariaeth gyda’n partneriaid a’n cymunedau, i herio pob math o hiliaeth ac arfer hiliol, rhagfarn, a gwahaniaethu lle bynnag a phryd bynnag y codant.”
Mae pob aelod o staff yn adeiladu gwrth-hiliaeth yn eu hamcanion personol a thros y flwyddyn nesaf byddwn yn edrych ar y cynnydd a wnaed ar y dangosyddion perfformiad allweddol newydd.
Gydag amser, mae cyflymder technoleg – y symud at fyw a chymorth ar-lein, gofynion dilynol hynny o ran sgiliau ac adnoddau – yn newid. Mae cyflymdra’r newid hwn yn creu her a chyfle, nid yn unig i ofalwyr di-dâl ond i fudiadau gofalwyr lleol hefyd.
Ein prif ffocws eleni oedd buddsoddi mewn offerynnau a thechnoleg fydd yn galluogi rhwydwaith yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr i gefnogi gofalwyr mewn ffyrdd gwahanol, yn ogystal ag eiriol yn well dros eu gwerth cymdeithasol a’u hachos busnes.
Ganolfan Ofalwyr Rithiol yn cael ei datblygu
o weddillion elusennol wedi’i fuddsoddi mewn prosiectau arloesi
Mae systemateiddio modelau digidol o ansawdd uchel ar gyfer gwasanaethau cefnogi gofalwyr yn her allweddol i’n rhwydwaith. Ar hyn o bryd mae 86% o’r Partneriaid Rhwydwaith a arolygwyd ym Mai-Mehefin 2022 yn darparu rhyw fath o gymorth digidol i ofalwyr, ac mae 77% yn fodlon gweithio gyda ni i greu Canolfan Ofalwyr Rithiol (COR), ac mae gan 88% ddiddordeb mewn derbyn gwasanaethau digidol ychwanegol gennym ni.
Aethom ati i gomisiynu asiantaeth ddigidol i gynnal Cam Darganfod ar gyfer ein COR arfaethedig, a byddwn yn datblygu’r Cynnyrch Isafswm Ymarferol ar gyfer ei lansio ym mis Hydref 2023. Mae’r COR yn ddatrysiad digidol lleol a ddarperir ar raddfa genedlaethol a bydd yn cynnig nifer o fanteision i ofalwyr a mudiadau gofalwyr, o adnabod a chefnogi gofalwyr hen a newydd i gydraddoli cymorth i ofalwyr mewn ardaloedd gwledig.
Rydym wedi buddsoddi £150,000 mewn prosiectau arloesol fel y COR dros y flwyddyn ddiwethaf, gan danlinellu ein hymrwymiad i arloesi. Ond mae gennym fwy i’w wneud.
Cafodd cryfder yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr ei adeiladu ar seiliau’r holl unigolion sy’n ffurfio ein 126 Partner Rhwydwaith a chydweithwyr. Trwy eu hymrwymiad parhaus, gallwn ddal ati i gefnogi a gwneud gwahaniaeth i fywydau gofalwyr di-dâl.
Wrth symud i mewn i’r flwyddyn ariannol nesaf, un o’n prif nodau fydd datblygu ystod ehangach o raglenni seiliedig ar dystiolaeth a chynhyrchu tystiolaeth sy’n darparu ar gyfer gofalwyr di-dâl a mudiadau gofalwyr lleol.
Bydd y flwyddyn o’n blaenau yn flwyddyn brysur arall i’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr. Wrth i’r pwysau economaidd barhau, a chan nad yw gofalwyr di-dâl yn cael eu cynnwys mewn cymorth ychwanegol gan y llywodraeth, rydym yn benderfynol o barhau i ddarparu ein rhaglenni, gwasanaethau, gwaith polisi ac ymchwil i greu canlyniadau ar gyfer gofalwyr di-dâl a mudiadau gofalwyr lleol.
Ymhlith nifer o weithgareddau cyffrous sydd yn yr arfaeth, rydym wedi dechrau gweithio ar ddatblygu’r Cyfamod cyntaf erioed ar gyfer Gofalwyr Ifanc ac Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr. Mae hyn yn cynrychioli ymrwymiad i’r deilliannau yr hoffem eu gweld ar gyfer pob gofalydd ifanc yng ngwledydd Prydain. Cyn bo hir byddwn yn lansio ein Grŵp Cyfeiriol Ymglymiad Gofalwyr, fydd yn galluogi gofalwyr ifanc i gyfrannu’n uniongyrchol at gynllunio a threfnu’r Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc nesaf a’r Arolwg Gofalwyr Ifanc ac Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr blynyddol.
Bydd ein rhaglen Triongl Gofal yn ceisio cyrraedd 100% o ran datblygu partneriaethau gyda holl Ymddiriedolaethau Iechyd Meddwl y GIG. Byddwn yn croesawu dros 500 o ofalwyr ifanc i’n Gŵyl Gofalwyr Ifanc Yr Alban, ac fe welwn gamau nesaf ein partneriaethau tair blynedd gwerth miliynau o bunnoedd gyda Llywodraeth Cymru, sef y Cynllun Seibiannau Byr a’r Gronfa Cefnogi Gofalwyr, ac mae’r ddau’n parhau i gynnig cymorth amhrisiadwy i filoedd o ofalwyr di-dâl.
Byddwn hefyd yn lansio Canolfan Ofalwyr Rithiol rhwydwaith yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, sef ateb digidol lleol ar gyfer mudiadau gofalwyr, fydd yn cael ei gyflwyno’n genedlaethol, gydag arbedion maint nad yw ond ar gael i sefydliad seilwaith.
Diolch ichi, eleni eto, am eich cefnogaeth barhaus. Hebddi, ni allai’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr barhau i wella bywydau gofalwyr di-dâl trwy weithgareddau fel y rhain.
Crynodeb o sut y gwnaethom godi a defnyddio ein harian dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
Cyfanswm a godwyd | £8,800,000 | ||
---|---|---|---|
Rhoddion | £4,674,080 | (53.1%) | |
Grantiau Llywodraeth | £2,756,789 | (31.3%) | |
Cymynroddion | £738,429 | (8.4%) | |
Ffïoedd aelodaeth ac incwm arall | £630,703 | (7.2%) |
Cyfanswm a ddefnyddiwyd | £9,252,343 | ||
---|---|---|---|
Costau cynhyrchu rhoddion a chymynroddion | £1,010,177 | (10%) | |
Cefnogi’r gwaith o ddatblygu atebion ar gyfer gofalwyr | £4,865,484 | (32%) | |
Dylanwadu a chodi ymwybyddiaeth | £1,358,839 | (7%) | |
Gweithio gyda’n rhwydwaith i ddatblygu rhaglenni trawsnewidiol | £2,017,843 | (51%) |
89c yn cael ei wario’n uniongyrchol ar weithgareddau elusennol
11c yn cael ei wario ar godi arian er mwyn cadw mater gofalu a gofalwyr ar flaen meddyliau pobl
Rydym yn codi £8.09
Trwy wario arian ar godi arian rydym yn codi mwy fyth o arian ar gyfer gofalwyr di-dâl.
Mae ein costau gorbenion, ac eithrio costau yn gysylltiedig â chodi arian, yn cynrychioli 13.3% o gyfanswm ein costau.
Diolch i bawb a’n cefnogodd ni dros y deuddeg mis diwethaf, o’n rhoddwyr unigol ac ymlaen at ein cefnogwyr corfforaethol a sefydliadau ffilanthropig. Ni allem fyth fod wedi llwyddo heboch.
Gyda’ch haelioni parhaus chi, gallwn ddal ati i gefnogi a gwneud gwahaniaeth i fywydau gofalwyr di-dâl.