Stori Rhian
CymraegEnglish
Mae Rhian yn ofalwr hŷn sy’n darparu gofal gydol oes i’w mab, Kevin, sy’n oedolyn anabl. Roedd Rhian yn cael trafferth gyda biliau hanfodol ac roedd hi’n bryderus ac yn ofnus iawn am ei sefyllfa ariannol.
Tra oedd mewn digwyddiad cymunedol lleol, cyfeiriwyd Rhian at brosiect Money Matters Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Gorllewin Cymru ar gyfer gofalwyr di-dâl. Roedd Rhian yn teimlo ar goll yn y byd digidol ac fe achubodd ar y cyfle i gael cyngor “wyneb yn wyneb”.
Yn flaenorol, roedd unrhyw fudd-daliadau yr oedd Rhian wedi ceisio’u hawlio wedi cael eu gwrthod neu, ar un achlysur, bu’n rhaid iddi ad-dalu arian hyd yn oed. Chwalodd hyn ei hyder a’i gwneud yn gyndyn o geisio gwneud cais am gyllid byth eto.
Gyda chefnogaeth staff y prosiect Money Matters, gwnaeth Rhian gais am fudd-daliadau ychwanegol. Cafodd ei chymeradwyo ar gyfer Gwarant Credyd Pensiwn, gan arwain at hwb o £3,268 i’w hincwm.
Ar ben hynny, cafodd fynediad at fuddion eraill fel Disgownt Treth Gyngor, Disgownt Cartrefi Cynnes, Trwydded Deledu am Ddim, Taliad Costau Byw, Taleb Optegol y GIG a Thriniaeth Ddeintyddol am Ddim, gan roi tawelwch meddwl angenrheidiol iddi.
Yn sgil cymeradwyo’r Credyd Pensiwn, cafodd hefyd gyfandaliad ac arbedion blynyddol sylweddol ar gostau’r cartref. Roedd hyn yn golygu ei bod dros £10,000 ar ei hennill rhwng bob dim.