Stori NEWCIS

CymraegEnglish

 

Gofalu am ofalwyr - drwy argyfwng a thu hwnt

Mae'r Gronfa Cymorth i Ofalwyr yn dal i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau sydd wedi bod yn gymorth hanfodol i les gofalwyr - yn gorfforol, yn feddyliol ac yn ariannol.

                          Tracy Stockin, Swyddog Monitro Contractau, NEWCIS

Mae NEWCIS (Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru), sy’n un o’r partneriaid yn rhwydwaith Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, yn chwarae rhan hollbwysig i helpu gofalwyr di-dâl, yn bennaf ar draws Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Drwy gyfrwng y Gronfa Cymorth i Ofalwyr, mae NEWCIS wedi gallu rhoi cymorth ar unwaith a chefnogaeth hirdymor i ofalwyr sy'n wynebu caledi ariannol, straen emosiynol a heriau yn eu rôl fel gofalwyr.

Cymorth ar unwaith mewn argyfwng

Mae'r Gronfa Cymorth i Ofalwyr wedi bod yn allweddol i roi sylw i anghenion brys. Mae gofalwyr sy'n wynebu ansicrwydd bwyd wedi cael talebau siopa a bocsys bwyd ffres, yn aml yn ystod adegau allweddol fel adeg rhyddhau o’r ysbyty neu argyfyngau ariannol.

Mae’r gwasanaeth bocs bwyd ffres, sy’n cael ei ddanfon bob wythnos am bedair wythnos, yn cynnwys hanfodion fel ffrwythau, llysiau, llaeth, wyau a bara. Mae’n cefnogi tua 30 o ofalwyr bob wythnos, yn enwedig y rheini sydd wedi cael eu hasesu'n ddiweddar neu sydd mewn argyfwng. Mae'r gwasanaeth hwn nid yn unig yn darparu maeth ond hefyd yn ysgafnu’r baich o fynd i siopa, yn enwedig i ofalwyr oedrannus nad ydynt yn gallu defnyddio’r we ac nad oes ganddynt deulu i’w helpu.

Roedd y bocs bwyd yn wirioneddol wych ac mor garedig... Fe wnaeth gymaint o wahaniaeth gan na allwn fynd allan i brynu pethau ffres eto. Mae’n bwysau mawr oddi ar fy meddwl.

Cefnogaeth emosiynol ac ymarferol

Yn ogystal â darparu bwyd, mae'r gronfa hefyd yn cyfeirio gofalwyr at wasanaethau cwnsela, gan gynnig hyd at chwe sesiwn i helpu gofalwyr i ymdopi â heriau emosiynol a meithrin gwytnwch, yn enwedig o ran llesiant ariannol. Mewn ardaloedd sydd â rhestrau aros hir am gymorth iechyd meddwl, mae'r ymyriad amserol hwn yn aml yn cael ei ddisgrifio fel “achubiaeth.”

Dydw i ddim yn cael llawer o amser i fi fy hun dim mwy, mae’n braf rhoi fi fy hun yn gyntaf a chael rhywun i wrando ar beth roeddwn i eisiau. Diolch i chi i gyd.

“Dydw i ddim yn siŵr beth fyddwn i'n ei wneud heb yr help hwn, mae wedi agor fy llygaid i ofyn pan rydw i angen cymorth.”

Meithrin gwydnwch hirdymor

Er bod y gronfa'n rhoi sylw i anghenion brys, un o’i phrif gryfderau yw ei gallu i gysylltu gofalwyr â chymorth ehangach, parhaus. Mae pawb sy’n cofrestru gyda NEWCIS yn elwa o wasanaeth cofleidiol sy'n cynnwys atgyfeiriadau at gyngor ariannol, gweithdai arbed ynni a gwasanaethau arbenigol eraill.

“Mae’r gwasanaeth bocsys bwyd wedi helpu cymaint, ond mae'r holl wybodaeth ychwanegol a ddaeth gydag ef wedi fy helpu i feddwl dipyn am y dyfodol.”

Stori Carol

Ar ôl darllen am y Gronfa Cymorth i Ofalwyr mewn erthygl leol, cysylltodd Carol* â NEWCIS. Cafodd daleb fwyd a chafodd gymorth i gael rhagor o gymorth ariannol, gan gynnwys cyngor ar arbed ynni a chafodd ei chyfeirio at Gyngor ar Bopeth.

“Fe wnaeth y Gronfa Cymorth i Ofalwyr gefnogi Carol ar unwaith drwy roi help iddi gael bwyd a hanfodion, ond fe wnaeth hefyd ein galluogi i'w helpu mewn ffordd fwy cyflawn, gyda chefnogaeth a help i gael trefn ar ei harian i’r dyfodol.” — Tracy Stockin

Stori Kelly

Gafodd Kelly* ei gorfodi i adael ei gwaith oherwydd salwch, roedd yn aros am fudd-daliadau ac nid oedd hi’n cael llawer o help gan ei theulu. Rhoddodd NEWCIS daleb fwyd iddi a'i helpu i gael cyngor ariannol. Gan fod Kelly wedi bod yn delio â chyflwr anodd iawn ers rhai misoedd, fe wnaeth NEWCIS hefyd helpu Kelly i ddefnyddio Cynllun Seibiant Byr sy’n gynllun arall a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gydlynir gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. Roedd y naill gynllun yn cefnogi’r llall a rhoesant i Kelly, nid yn unig gymorth ar unwaith, ond fe wnaethant hefyd ei helpu i ofalu am ei lles yn y tymor hwy.

Effaith mewn Niferoedd
  • Rhannwyd dros 500 o eitemau hanfodol fel nwyddau gwyn ac offer TG
  • Dosbarthwyd 180 o focsys bwyd a 158 o dalebau bwyd
  • Rhoddwyd cymorth i 72 o ofalwyr gyda phroblemau costau byw ac argyfyngau

Casgliad

Mae'r Gronfa Cymorth i Ofalwyr, sydd dan ofal NEWCIS, yn fwy nag ond yn ymateb i argyfwng, mae’n llwybr at roi grym i ofalwyr. Drwy roi sylw i anghenion brys a chysylltu gofalwyr â chymorth parhaus, mae’r gronfa'n helpu i osgoi argyfyngau, yn lleihau straen ac yn meithrin gwytnwch. Mae’n esgor ar ofalwyr sydd nid yn unig yn cael eu cefnogi ond sydd hefyd yn meddu ar fwy o wybodaeth, hyder a chysylltiadau.

 

*Mae enwau wedi cael eu newid i ddiogelu preifatrwydd