Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr

CymraegEnglish

Mae Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, gyda chefnogaeth y Gronfa Cymorth i Ofalwyr, yn darparu cymorth allweddol i ofalwyr di-dâl heb iddynt orfod gofyn amdano.

Diolch i’r Gronfa Cymorth i Ofalwyr, rhaglen sydd wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, ac sy’n cael ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, mae Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr wedi gallu cynnig cymorth ariannol ac emosiynol wedi ei deilwra i ofalwyr sy’n wynebu caledi.

Mae’r gronfa hon wedi cael effaith drawsnewidiol ar ofalwyr. Dywedodd Sarah Jarvis, Prif Swyddog Gweithredol Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, “Rydym ni wedi ein llethu gan yr ymateb cadarnhaol.” “Rydym ni wedi cael adborth gan ofalwyr sy’n dweud eu bod yn teimlo bod baich wedi ei chymryd oddi ar eu hysgwyddau, a’u bod yn gallu canolbwyntio’n well ar y bobl maen nhw’n gofalu amdanynt.”

Mae’r gefnogaeth a gynigir yn gwbl bersonol, ac yn cynnwys talebau bwyd, nwyddau gwynion, cyngor ar ddyledion a thawelwch meddwl. Mae taith pob gofalwr yn cychwyn â sesiwn un-i-un er mwyn i’r staff allu dod i ddeall beth yw eu sefyllfa ariannol unigryw nhw.  Yna, mae’r tîm yn teilwra’r cymorth ar eu cyfer, ac yn eu helpu â materion fel biliau cyfleustodau, treth cyngor, pensiwn, tai, a materion etifeddiaeth.

Mae’r grant, sydd fel arfer rhwng £100 a £300, wedi cael ei ddefnyddio i dalu am bethau allweddol fel bwyd, nwyddau gwynion a chyfleustodau.

Dywedodd un gofalwr,

Pan glywsom ni am y grant gyntaf, roeddem ni’n cysgu ar y soffa a’r gadair. Roedd ein gwely ni wedi malu misoedd ynghynt ... Ond fe wnaethoch chi i ni deimlo fel petai pob peth yn iawn a'r ffordd ymlaen yn hawdd. Rydym ni’n ddiolchgar iawn.

Mwy na chymorth ariannol

Yn ogystal â darparu cymorth ariannol, mae Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr wedi ehangu ar y gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig drwy roi cefnogaeth 1 i 1 (ar y ffôn ac wyneb yn wyneb) i unigolion. Dyma gyfle diogel i ofalwyr drafod y materion sy’n effeithio arnynt yn agored, sy’n galluogi i’r ganolfan ddeall eu sefyllfa a’u cefnogi yn well. Mae’r sesiynau hyn hefyd wedi hwyluso’r broses o atgyfeirio a chroesgyfeirio.

Straeon Gofalwyr

Mae Sarah yn cofio am un gofalwr wnaethon nhw ei helpu - Nam* - oedd yn gofalu am ei fam oedd yn byw â dementia. Roedd pwysau diwylliannol wedi ei atal rhag gofyn am help, ond ar ôl meithrin ymddiriedaeth yn staff y ganolfan, fe gafodd Nam y gefnogaeth oedd ei angen arno.

“Wn i ddim lle fyddwn ni oni bai amdanoch chi,” meddai. “Rydych chi wedi fy helpu i gael trefn ar fy nyledion, a nawr rwy’n gallu cysgu yn y nos. Mae gen i fwy o amser ac egni i ofalu am Mam ac amdanaf i fy hun”

“Prynais i fwyd o Tesco am y mis,” meddai gofalwr arall. “Roedd talu’r biliau yn haws, ac fe wnaethom ni adael y gwres ymlaen am gyfnod hirach.  Dydw i ddim yn gwybod beth fuaswn i wedi'i wneud heb y grant."

“Prynais i bram arbenigol i fy mab,” meddai un arall. “Rwy’n gallu mynd â fo am dro yn ddiogel nawr. Mae wedi newid ein bywydau.”

Cefnogaeth

Mae Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn rhoi pwyslais ar empathi, ymddiriedaeth a grymuso.  Dywedodd Sarah wrth gloi, “Diolch i’r Gronfa Cymorth i Ofalwyr, rydym ni’n gallu helpu pobl i oroesi, a bod yn gefn iddynt wrth iddynt ail-afael a chymryd rheolaeth dros eu bywyd. Mae help ar gael a does dim angen i neb wynebu caledi ar eu pen eu hun.”

*Mae enwau wedi cael eu newid i ddiogelu preifatrwydd