Stori Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Gorllewin Cymru
CymraegEnglish

Cefnogi gofalwyr trwy argyfwng a thu hwnt
Diolch i'r Gronfa Cymorth i Ofalwyr, mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Gorllewin Cymru wedi darparu cymorth sy'n newid bywydau i gannoedd o ofalwyr sy'n wynebu caledi ariannol.
Diolch yn fawr iawn i Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Gorllewin Cymru am fod yno pan oeddem ar ein hisaf.
Gwella sicrwydd ariannol
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Gorllewin Cymru (CTCWW) wedi chwarae rhan ganolog i gefnogi gofalwyr di-dâl ledled gorllewin Cymru. Prosiect Cronfa Cymorth i Ofalwyr a redir gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Gorllewin Cymru wedi lleihau'r caledi ariannol a wynebwyd gan dros 600 o ofalwyr ledled Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Mae wedi gwella sicrwydd ariannol gofalwyr, gan eu helpu i wneud y mwyaf o'u hincwm a lleihau gwariant, trwy fynediad uniongyrchol at grantiau, nwyddau gwyn a thalebau bwyd.
Mae'r prosiect:
- Wedi helpu gofalwyr i sicrhau dros £657,000 o fudd-daliadau, grantiau ac arbedion
- Cyhoeddi dros 145 o grantiau ar gyfer hanfodion fel bwyd a nwyddau gwyn
Meddai Cathy Boyle o CTCWW, "Yn ystod 2024/25, fe wnaethom ddarparu cymorth un-i-un i ofalwyr i wneud y mwyaf o'u hincwm, trwy hawlio budd-daliadau cymwys a chael mynediad at grantiau. Fe wnaethom hefyd helpu i leihau eu costau trwy gynnig cymorth ac arweiniad ar leihau costau gwasanaethau a chael mynediad at ostyngiadau, fel gostyngiadau'r dreth gyngor, a gwella eu sgiliau trin arian. O ganlyniad mae’r gwasanaeth wedi sicrhau dros £657,000 ar ran gofalwyr di-dâl."
Dull cyfannol o ymdrin â lles ariannol
Mae eu prosiect Cronfa Cymorth i Ofalwyr yn mynd y tu hwnt i gymorth ariannol uniongyrchol. Mae'n cynnig cymorth cyfannol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n grymuso gofalwyr i gael rheolaeth yn ôl ar eu cyllid, i leihau straen a chael mynediad at wasanaethau ehangach. Gwnaeth y tîm 364 o atgyfeiriadau i wasanaethau eraill ar gyfer cymorth parhaus i ofalwyr a chwblhaodd bron i 400 o wiriadau budd-daliadau lles. Wrth wneud hynny, mae wedi gwella:
- Ansawdd bywyd: galluogi gofalwyr i ddiwallu eu hanghenion sylfaenol ac i deimlo'n economaidd ddiogel
- Gwybodaeth: cynyddu ymwybyddiaeth o ble i gael mynediad at gymorth yn y dyfodol
- Lles meddyliol: lleihau straen a gorbryder trwy gymorth argyfwng
- Gwydnwch: sicrhau bod gan ofalwyr y gallu a’r wybodaeth i barhau yn eu rôl gofalu a rheoli heriau'r dyfodol
- Mynediad at gymorth ehangach: cysylltu gofalwyr â gwasanaethau fel gofal seibiant, asesiadau, a grwpiau cymunedol.
Rwyf wedi teimlo bod eich gwasanaethau wedi rhoi cymaint o gymorth i mi. Mae fy lles ariannol ac emosiynol wedi gwella. Mae'r parseli bwyd a'r talebau wedi bod yn gymaint o gymorth. Alla i ddim diolch digon i chi.
Ymateb cyflym
Diolch i gyllid y cynllun gan Lywodraeth Cymru, darparodd CTCWW grantiau mawr eu hangen ar gyfer talebau bwyd ac eitemau cartref hanfodol, gan helpu i leihau'r pwysau ariannol uniongyrchol i ofalwyr.
Eglura Cathy, "Roeddem yn gallu ymateb yn gyflym i ofalwyr a oedd yn wynebu caledi ariannol a rhannu grantiau talebau bwyd ar unwaith - weithiau ar yr un diwrnod. Mae talebau bwyd wedi lleihau pwysau uniongyrchol ar ofalwyr a oedd bron â bod neu mewn argyfwng ariannol ac mewn rhai achosion ddim yn gwybod o ble i gael y pryd nesaf i’w teulu.
Stori Katie – cymorth brys pan oedd yn cyfrif fwyaf
Cafodd Katie*, mam i bedwar o blant, ei hun mewn argyfwng yn hwyr brynhawn Gwener. Doedd gan Katie, a oedd yn cymryd amser i ffwrdd o'i swydd fel nyrs iechyd meddwl y GIG i ofalu am ei dau blentyn ag anableddau, ddim bwyd yn y tŷ, roedd ei char wedi torri i lawr, ac roedd pethau wedi mynd yn drech na hi.
Cymerodd y tîm CTCWW gamau ar unwaith – trefnodd barsel bwyd a phrydau poeth, gan eu dosbarthu'n bersonol o fewn oriau. Derbyniodd Katie hefyd daleb archfarchnad, help i wneud ceisiadau am fudd-daliadau ac arweiniad ar drin arian a phrisiau gostyngedig.
Dydw i ddim yn gwybod beth fyddwn i wedi ei wneud heb eich cefnogaeth chi ac am wrando arna i. Diolch yn fawr.
Mae gan Katie nawr y gallu a'r wybodaeth i reoli ei harian ac mae'n gwybod ble i droi i gael help yn y dyfodol.
Stori Naomi - achubiaeth mewn cyfnod o argyfwng
Daeth Naomi* yn ofalwr llawn amser dros nos pan ddatblygodd ei mab 10 oed anorecsia difrifol a achosodd i nifer o’i organau fethu nes bod angen ymyrraeth feddygol ddwys arno. Gan fod ei gŵr wedi colli ei swydd yn ddiweddar a hithau yn derbyn tâl salwch statudol, dim ond £690 y mis oedd ganddynt i gynnal y teulu o bedwar o blant. Roedd pethau wedi mynd yn drech na hi a doedd Naomi ddim yn gyfarwydd â'r system budd-daliadau.
Cronfa Cymorth i Ofalwyr wedi'i darparu:
- Fynediad uniongyrchol i fanciau bwyd a thalebau trydan.
- Taleb archfarchnad
- Help i sicrhau £333 o'r Gronfa Cymorth yn ôl Disgresiwn
- help i wneud ceisiadau am fudd-daliadau gwerth dros £17,000 bob blwyddyn
- Arweiniad parhaus ar drin arian, prisiau gostyngedig a hawliadau
“Wn i ddim beth fyddwn i wedi ei wneud heb eich cefnogaeth. Yn wir, alla i ddim diolch digon i chi. Rydych chi wedi bod yn wych."
Mae sefyllfa ariannol Naomi wedi gwella'n sylweddol, ac mae ei theulu bellach mewn gwell sefyllfa i reoli'r heriau sydd o'n blaenau.
Grymuso gofalwyr i ffynnu
Mae darparu cymorth cyfannol sy'n canolbwyntio ar y person ac wedi'i deilwra wedi cael effaith wirioneddol ar les ariannol cyffredinol gofalwyr. Daw Cathy o CTCWW i'r casgliad, "Mae ein model gwasanaeth yn golygu ein bod yn gallu i ymateb yn gyflym pan fydd gofalwyr yn wynebu caledi ariannol sylweddol a/neu mewn argyfwng ariannol. Ar ben hynny, mae gwella amgylchiadau ariannol gofalwyr trwy incwm ychwanegol yn sgil grantiau a budd-daliadau lles, ynghyd â chynnig help i leihau costau trwy drin arian a chael mynediad at dariffau is ar wasanaethau, band eang cymdeithasol, ac ati mewn llawer o achosion wedi atal gofalwyr rhag byw mewn tlodi.
Mae'r Gronfa Cymorth i Ofalwyr wedi galluogi gofalwyr i roi bwyd ar y bwrdd, tanwydd yn eu ceir a gwresogi eu cartrefi sydd, yn ogystal â gwella ansawdd eu bywyd, wedi helpu i leihau straen a phryder, gan wella eu lles cyffredinol.
Trwy gyfuno cymorth ariannol ag arweiniad emosiynol ac ymarferol, mae CTCWW wedi helpu gofalwyr nid yn unig i oroesi argyfwng ond i feithrin gwytnwch hirdymor. Mae eu prosiect Cronfa Cymorth i Ofalwyr yn parhau i fod yn achubiaeth hanfodol i ofalwyr di-dâl ledled Gorllewin Cymru.
*Mae enwau wedi newid i ddiogelu preifatrwydd