Stori Bernardine

CymraegEnglish

Mae Bernardine yn gofalu am ei mab Jacob sydd ag Awtistiaeth a Diabetes. Mae Bernardine yn darparu llawer o ofal i'w mab Jacob ac yn rheoli ei ymddygiad heriol.

Mae hyn yn gallu achosi straen ar adegau, ac mae wedi cael effaith andwyol ar iechyd meddwl a chorfforol Bernardine; mae hi’n dioddef o bwysedd gwaed uchel a gorbryder.

Rhoddodd Ymddiriedolaeth y Gofalwyr grant o £300 iddi pan dorrodd ei hoergell i gyfrannu at gost prynu oergell newydd.

Bydd hyn yn lleddfu’r straen sydd ynghlwm â’i gwaith gofalu, a bydd hi’n gallu cadw insiwlin Jacob ar y tymheredd cywir a chadw bwyd yn ffres ac yn ddiogel i'w fwyta.

“Mae hi eisiau’r gorau i’w theulu, ac fel sy’n wir am nifer o ofalwyr, mae hi’n rhoi ei hun ar waelod ei rhestr blaenoriaethau.”

Gweithiwr Cymorth Bernardine