Grymuso Gofalwyr Drwy Ymwybyddiaeth a Chymorth Ariannol

CymraegEnglish

Mae mis Hydref yn Fis Cynllunio Ariannol - cyfle i gofio pa mor bwysig yw deall a rheoli ein harian er mwyn creu dyfodol mwy diogel. I ofalwyr di-dâl, mae cynllunio ariannol yn golygu mwy na chynilo ar gyfer yfory, mae’n golygu goroesi heddiw.

Mae gofalwyr yn aml yn wynebu pwysau ariannol unigryw, boed hynny’n ganlyniad i lai o incwm oherwydd cyfrifoldebau gofalu, neu oherwydd mwy o gostau yn y cartref. Dyna pam mae mentrau fel y Gronfa Cymorth i Ofalwyr, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a'i rheoli gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, mor hanfodol. Yn ogystal â grantiau ar gyfer bwyd a nwyddau hanfodol, mae'r gronfa'n cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau sydd wedi'u cynllunio i leihau caledi ariannol a gwella ansawdd bywyd gofalwyr yn gyffredinol.

Pa Gymorth Sydd Ar Gael?

Gall gofalwyr gael mynediad at wasanaethau wedi'u teilwra, megis cyngor ariannol a chymorth incwm, gweithdai rheoli arian ac ymwybyddiaeth o arian, a chymorth rheoli dyledion ac arian. Bydd y gwasanaethau’n cael eu darparu drwy sefydliadau gofalwyr lleol. Mae'r gwasanaethau hyn wedi'u cynllunio i leihau caledi ariannol, yn ogystal â grymuso gofalwyr gyda sgiliau bywyd, a’u helpu i barhau â'u rolau hanfodol gyda hyder a gwydnwch.

Dywedodd Rebecca O’Mahoney o Ray of Light Cancer Support, “Roedd y gweithdai ymarferol, fel “Food for Thought” a “Managing Your Budget on a Low Income”, yn arbennig o boblogaidd, gan roi sgiliau byd go iawn i ofalwyr mewn amgylchedd cefnogol a chyfeillgar. Fe wnaeth y gofalwyr ddysgu am strategaethau ymarferol ar gyfer cyllidebu, a chanfod ffyrdd o leihau costau drwy wario'n ddoethach.”

Dywedodd un gofalwr,

Roedd y sesiwn ynni yn agoriad llygad - rydw i eisoes wedi gweld gostyngiad yn fy miliau drwy wneud newidiadau bach.

Effaith Go Iawn: Straeon o'r Rheng Flaen

Diolch i’r Gronfa Cymorth i Ofalwyr, mae Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr wedi gallu cynnig cymorth ariannol ac emosiynol wedi ei deilwra i ofalwyr sy’n wynebu caledi. Mae'r effaith wedi bod yn drawsnewidiol.

Mae Sarah Jarvis, Prif Swyddog Gweithredol Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, yn cofio un gofalwr a oedd wedi osgoi gofyn am help ers tro byd oherwydd disgwyliadau diwylliannol. Ar ôl meithrin ymddiriedaeth gyda staff y ganolfan, cafodd y gefnogaeth yr oedd arno ei hangen yn fawr.

“Dydw i ddim yn gwybod ble fyddwn i oni bai amdanoch chi,” meddai. “Rydych chi wedi fy helpu i gael trefn ar fy nyledion, a nawr rwy’n gallu cysgu yn y nos. Mae gen i fwy o amser ac egni i ofalu am Mam ac amdanaf i fy hun”

Meithrin Gwydnwch Hirdymor

Yng Ngorllewin Cymru, mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Gorllewin Cymru (CTCWW) yn helpu gofalwyr i oroesi argyfwng, yn ogystal â meithrin gwydnwch ariannol hirdymor drwy eu rhaglen Money Matters.

“Yn ystod 2024/25, fe wnaethom ddarparu cymorth un-i-un i ofalwyr i gynyddu eu hincwm, drwy hawlio budd-daliadau cymwys a chael gafael ar grantiau,' meddai Cathy Boyle o CTCWW. 'Fe wnaethon ni hefyd helpu i leihau eu gwariant drwy roi cymorth gyda chostau cyfleustodau, gostyngiad y dreth gyngor, a sgiliau cyllidebu.”

Y canlyniad? Sicrhawyd dros £657,000 ar ran gofalwyr di-dâl yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.

Rhoi Sylw i Ofalwr: Stori Rhian

Mae Rhian yn ofalwr hŷn sy’n darparu gofal gydol oes i’w mab, Kevin, sy’n oedolyn anabl. Gan ei bod yn cael trafferth gyda biliau hanfodol ac wedi'i llethu gan bryder ariannol, cafodd Rhian gymorth wyneb yn wyneb gan y tîm Money Matters yn CTCWW. Yna, gwnaeth gais llwyddiannus am Warant Credyd Pensiwn, gan roi hwb o £3,268 i'w hincwm. Cafodd hefyd fynediad at Ostyngiad y Dreth Gyngor, Gostyngiad Cartrefi Cynnes, a Thrwydded Deledu am Ddim, ymysg pethau eraill, a oedd yn golygu ei bod dros £10,000 ar ei hennill.

“Rydych chi wedi newid fy mywyd,” meddai'n ddagreuol. “Fyddai hyn ddim wedi digwydd oni bai amdanoch chi. Alla’ i ddim diolch ddigon i chi.”

Mae Rhian bellach yn teimlo'n hyderus ac yn ddiogel yn ariannol, gyda gwell dealltwriaeth o'i hawliau a sut i reoli ei harian yn y dyfodol.

Cofiwch Weithredu yn ystod y Mis Cynllunio Ariannol Hwn

Mis Cynllunio Ariannol yw'r amser perffaith i bwyso a mesur ar eich llesiant ariannol. Os ydych chi'n ofalwr di-dâl yng Nghymru, mae cymorth ar gael i'ch helpu i reoli eich arian, lleihau straen, a chreu dyfodol mwy diogel.

Cysylltwch â'ch sefydliad gofalwyr lleol i ddysgu mwy am y Gronfa Cymorth i Ofalwyr a sut y gall eich helpu. P'un a ydych chi'n wynebu caledi ariannol, neu'n dymuno gwella eich ymwybyddiaeth o arian, mae adnoddau a phobl ar gael sy'n barod i'ch cefnogi.