Stori Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf 

CymraegEnglish

Dyfodol Disglair

Mae Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf wedi cwblhau prosiect cyfannol i ofalwyr gyda chymorth y Gronfa Cymorth i Ofalwyr. Amcan y prosiect oedd lleihau caledi ariannol a gwella llesiant gofalwyr di-dâl yn Rhondda Cynon Taf.

Cymorth ar unwaith, ac adnoddau tymor hir

Fe wnaeth Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf ddarparu cymysgedd o’r canlynol:

  • Cyngor ariannol un i un (budd-daliadau, dyledion, cyllidebu)
  • Grantiau uniongyrchol y gellir eu haddasu i ddiwallu anghenion yr unigolyn - e.e. talu am wersi gyrru neu brynu rhewgell
  • Sesiynau sgiliau ariannol
  • Cymorth parhaus ac atgyfeiriadau

Mae’r dull hwn yn sicrhau ein bod yn cael effaith wirioneddol ar fywydau gofalwyr drwy roi cymorth ariannol ar unwaith iddynt yn ogystal â darparu adnoddau a chysylltiadau tymor hir a fydd yn gwella eu llesiant ariannol.

Dywedodd Sophie Raybould, Arweinydd Tîm Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf, “Drwy weithio gyda sefydliadau eraill a chyfeirio pobl at wasanaethau perthnasol, rydym ni wedi creu rhwydwaith unigryw o wasanaethau cymorth ar gyfer pob gofalwr rydym ni wedi eu cefnogi.”

Cyrraedd gofalwyr newydd

Drwy fynychu digwyddiadau lleol a thargedu eu gwaith marchnata digidol, llwyddodd Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf i gysylltu â dros 300 o ofalwyr nad oedd wedi cael cefnogaeth ganddynt o’r blaen. Roedd 29 o'r rhain yn ofalwyr ifanc a ddaeth i gysylltiad â’r rhaglen mewn digwyddiadau ymgysylltu mewn ysgolion a grwpiau cymunedol. 

Canlyniadau cadarnhaol

Agweddau Cadarnhaol ar y prosiect:

  • Cefnogaeth wedi ei deilwra ar gyfer y cleient: Drwy gael sgyrsiau am y ‘Pethau Pwysig’ llwyddwyd i gefnogi'r gofalwyr mewn ffordd cwbl bersonol
  • Grantiau hyblyg: defnyddio’r grantiau i ddiwallu anghenion unigryw pob unigolyn a thalu am bethau fel peiriannau gwynion a gwersi gyrru
  • Partneriaethau cryf: drwy gydweithio â meddygon teulu, ysgolion a grwpiau cymunedol, fe wnaethom sicrhau bod atgyfeiriadau yn cael eu gwneud yn brydlon a bod cymorth cofleidiol ar gael
  • Grymuso gofalwyr drwy gynghori: cafodd y gofalwyr gyfle i fagu hyder, ac i wella eu hymwybyddiaeth o arian, eu hawliau a’u hawlogaeth.
  • Y tu hwnt i’r grant: cael eich gweld a’ch clywed

Roedd y cynllun yn golygu llawer mwy na chymorth ariannol yn unig. Roedd cynghorwyr Cyngor ar Bopeth yn cynnal ymweliadau cyson i fonitro cynnydd y gofalwyr, i sicrhau eu bod yn cyflawni eu targedau ac i annog sefydlogrwydd yn y tymor hir.  Dywedodd y gofalwyr eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu clywed, a’u gwerthfawrogi – a hynny’n aml am y tro cyntaf.  Cafodd nifer eu hatgyfeirio at wasanaethau ychwanegol gan gynnwys cymorth i wneud ceisiadau am fudd-daliadau ac maent wedi creu perthnasoedd tymor hir gyda rhwydweithiau cymorth.

Adborth y gofalwyr

Mewn arolwg diweddar o brosiect y Gronfa Cymorth i Ofalwyr, daeth Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf i'r casgliad bod:

  • 70% o’r rhai a gymerodd ran yn y prosiect wedi nodi bod eu llesiant meddyliol wedi gwella ers cael gafael ar y gefnogaeth
  • 90% o ofalwyr yn teimlo’n fwy hyderus yn eu gwaith fel gofalwyr ar ôl cael cyngor
  • 80% o ofalwyr yn teimlo’n llai unig

Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf yn rhannu stori dwy ofalwraig

Cafodd Miss Davies*, mam sengl sy’n gofalu am ei mab awtistig, ei hatgyfeirio at Wasanaeth Eiriolaeth a Chyngor i Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru, Travelling Ahead. Gan nad yw hi’n gallu darllen nac ysgrifennu, roedd hi’n wynebu sawl rhwystr oedd yn ei hatal rhag cael gafael ar gymorth. Fe wnaeth Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf ymweld â’i chartref, a’i helpu i gael £700 yn fwy o fudd-daliadau bob mis, yn ogystal â rhoi grant iddi brynu oergell-rhewgell. Mae hyn oll wedi trawsnewid ei gallu i ofalu am ei theulu.  Dywedodd:

Diolch yn fawr iawn, mae wedi gwneud byd o wahaniaeth.

 

Mae Victoria* yn gofalu am ei thad ac yn ceisio dygymod ag ysgariad a cholli ei swydd; cafodd ei llethu gan straen ariannol ac emosiynol.  Fe wnaeth Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf ei helpu hi i greu cyllideb ac i gael gafael ar gymorth gyda dyledion, yn ogystal â rhoi taleb ASDA iddi. Fe wnaeth hyn ei galluogi i brynu nwyddau hanfodol a chael blanced drydan i gadw ei thad yn gynnes.  Dywedodd:

Dydw i ddim yn poeni gymaint am sut y bydda i’n goroesi tan ddiwedd y mis nawr.

Y tymor hir

Wrth grynhoi, dywedodd Sophie o Gyngor ar Bopeth, “Rydym ni wedi llwyddo i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau gofalwyr. Rydym ni wedi gallu darparu cymorth ariannol ar unwaith i leddfu'r straen ariannol oedd yn wynebu’r gofalwyr, ond rydym ni hefyd wedi llwyddo i ddatblygu cynllun unigryw ar gyfer pob gofalwr er mwyn parhau i’w cefnogi a gwella eu sefyllfa yn y tymor hir.”