Agor Drysau at Gymorth Ehangach: Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2025
CymraegEnglish

Bydd Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2025 yn cael ei gynnal ddydd Iau 20 Tachwedd, ac eleni rydyn ni'n tynnu sylw nid yn unig at y cymorth ariannol sydd ar gael i ofalwyr di-dâl, ond hefyd at y cymorth ehangach sy'n newid bywydau y mae llawer o'n partneriaid cyflenwi yn ei gynnig.
Os ydych chi'n gofalu am rywun yn ddi-dâl - boed nhw’n aelod o'r teulu, yn ffrind neu'n gymydog - mae gennych chi hawliau. Mae cymorth ar gael i chi hefyd, gan gynnwys cymorth ariannol drwy'r Gronfa Cymorth i Ofalwyr.
Yng Nghymru, ceir dros 310,000 o ofalwyr di-dâl - er bod y gwir nifer yn debygol o fod yn llawer uwch. Mae llawer o bobl nad ydynt yn sylweddoli eu bod yn ofalwyr nes eu bod wedi'u llethu, wedi blino'n lân, ac o bosibl mewn trafferthion ariannol.
Deall eich Hawliau
Mae gwybod eich hawliau yn gallu helpu i ysgafnu’r baich. Boed hynny'n absenoldeb gofalwyr, yn frechiadau ffliw am ddim, neu’n gymorth ariannol, mae'r hawliau hyn yn bodoli er eich lles chi.
Gwyliwch ein fideo sy’n esbonio hyn ichi
Cymryd y Cam Cyntaf: Y Gronfa Cymorth i Ofalwyr
Mae'r Gronfa Cymorth i Ofalwyr, sy'n cael ei chydlynu gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a'i hariannu gan Lywodraeth Cymru, wedi rhoi grantiau uniongyrchol i bron i 30,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru ers 2022. Mae'r gronfa'n cael ei darparu drwy sefydliadau gofalwyr lleol, ac mae'n cynnig cymorth ariannol - ond mae ei heffaith yn llawer mwy pellgyrhaeddol na'r arian yn unig.
Mae gofalwyr hefyd yn gallu cael gafael ar wasanaethau sydd wedi'u teilwra’n arbennig, fel cyngor ariannol, cymhorthdal incwm, ac arweiniad ar sut i drin arian. I lawer o ofalwyr, gwneud cais i'r gronfa yw'r tro cyntaf iddyn nhw ofyn am gymorth - a'r tro cyntaf iddyn nhw gydnabod eu hunain fel gofalwyr. Gall y foment honno o gydnabyddiaeth agor y drws i rwydwaith mawr o help.
Llwybr at Gefnogaeth Ehangach
Mae partneriaid cyflenwi lleol ar draws Cymru yn defnyddio'r gronfa i gysylltu gofalwyr â gwasanaethau ehangach. Gall y cysylltiadau hyn newid bywydau a chynnig cefnogaeth emosiynol, cyngor ymarferol ac arweiniad ariannol.
Dan sylw: Cyngor ar Bopeth Merthyr Tudful
Drwy gyfrwng y Gronfa Cymorth i Ofalwyr, mae Cyngor ar Bopeth Merthyr Tudful wedi gallu rhoi cyngor a chymorth pwrpasol i ofalwyr di-dâl yn eu hardal.
Fel yr eglura Jack Bennett, y Rheolwr Cyngor a Phartneriaeth: “Nod y prosiect yw helpu gofalwyr i ddelio â'r heriau ariannol, yr heriau ymarferol ac emosiynol a wynebant yn eu rôl fel gofalwyr, gan sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar y wybodaeth, y cyngor a'r gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn.”
Rhwng mis Ebrill a mis Medi 2025, fe wnaeth y prosiect helpu dros 70 o ofalwyr drwy roi cyngor un-i-un, gweithio ar achosion sy’n dal i fynd rhagddynt, a chyfeirio at wasanaethau arbenigol. Mae eu cynghorwyr yn cynnig cymorth cyfannol ar draws amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys:
- Budd-daliadau lles
- Dyledion a thai
- Cyngor ar gyflogaeth ac ynni
- Cael gafael ar wasanaethau lles a seibiant lleol
'Mae llawer o'r gofalwyr sy’n dod atom yn wynebu pwysau ariannol sylweddol oherwydd eu bod yn gweithio llai o oriau neu oherwydd y costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â gofalu,' meddai Jack. “Drwy wneud archwiliadau budd-daliadau manwl a chynghori, rydym wedi helpu gofalwyr i ennill yr incwm gorau posibl gan ysgafnu’r straen ariannol.”
Mae nifer fawr o ofalwyr hefyd wedi elwa o gael cymorth arbenigol gyda chostau byw ac ynni - gan gynnwys help gyda thariffau ynni, ceisiadau am grantiau, a mesurau effeithlonrwydd ynni yn y cartref. Mae'r camau ymarferol hyn wedi helpu gofalwyr i wneud cryn arbedion ar adeg pan fo costau rhedeg cartref yn dal i fod yn uchel.
Mae lles emosiynol hefyd yn un o’r prif bethau rydyn ni’n canolbwyntio arno. Mae’r cynghorwyr yn rhoi i’r gofalwyr glust i wrando arnynt ac yn eu cysylltu â gwasanaethau seibiant ac iechyd meddwl lleol pan fo angen.
“Mae Cyngor ar Bopeth Merthyr Tudful yn sefydliad cynghori achrededig, ac rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb o ddifrif i roi’r cyngor cywir, gorau” ychwanegodd Jack. “Mae gofalwyr wedi cael eu helpu i gael gafael ar fudd-daliadau, grantiau a chymorth elusennol, gan gynyddu'r cyfleoedd i sicrhau cymorth ariannol. Mae ein partneriaethau â chydlynwyr gofalwyr awdurdodau lleol wedi cryfhau’r llwybrau cyfeirio, gan sicrhau bod gofalwyr na fyddent fel arall yn gofyn am help yn gallu cael gafael arno.”
Gyda’u harbenigedd maent yn gallu helpu’r gofalwyr gyda’r archwiliadau cychwynnol i fudd-daliadau yr holl ffordd drwodd i’w cynrychioli mewn tribiwnlysoedd, os oes angen. Drwy gyfuno arweiniad ar hawliau lles, cyngor ar ddyledion ac effeithlonrwydd ynni, mae'r prosiect yn sicrhau bod gofalwyr yn cael help gyda phob agwedd ar eu bywydau gan roi hwb i’w hincwm a’u rhoi mewn sefyllfa fwy cadarn yn ariannol.
Mae'r adborth gan y gofalwyr wedi bod yn gadarnhaol dros ben. Dywedodd llawer ohonynt eu bod yn teimlo eu bod “wedi cael clust i wrando arnynt am y tro cyntaf” a bod y gefnogaeth wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w gallu i ymdopi.
Dywedodd un mab sy'n gofalu am ei fam oedrannus, sydd â dementia,
Mae'r gefnogaeth a gefais wedi newid fy mywyd. Rydw i'n teimlo'n fwy hyderus, dan lai o straen, ac yn gallu gofalu'n well am fy mam heb orfod poeni am arian o hyd.
Mae'r prosiect eisoes wedi cael effaith amlwg drwy enillion ariannol, gwell lles, ac wedi gwella ymwybyddiaeth gofalwyr o’u hawliau.
Ysgafnu'r Baich
Mae'r Gronfa Cymorth i Ofalwyr yn fwy na grant, mae'n llwybr at ddealltwriaeth, cydnabyddiaeth a chefnogaeth. Mae'n helpu gofalwyr i gymryd y cam cyntaf hwnnw, ac oddi yno, i gael yr hawliau a'r adnoddau y maent yn eu haeddu.
Dolenni
Gofalwyr ifanc - Deall eich hawliau - Ymddiriedolaeth y Gofalwyr
Beth yw eich hawliau Diwrnod Hawliau Gofalwyr | Carers UK
Cyngor Llywodraeth Cymru: Deall eich hawliau gofal a chymorth wrth i chi fynd yn hŷn
Amrywiaeth o adnoddau a gwybodaeth gan Ymddiriedolaeth y Gofalwyr Cymorth i Ofalwyr | Cefnogaeth Gynhwysfawr gan Ymddiriedolaeth y Gofalwyr
Asesu Gofalwyr Asesu anghenion gofalwyr | Gofalwyr Cymru
Llinell gymorth gofalwyr Caerdydd: 02920 234234 neu gallwch e-bostio: contactILS@cardiff.gov.uk i gael help gyda’r canlynol:
- cyngor a chymorth am ddim
- cymorth sy'n canolbwyntio ar Ofalwyr Di-dâl a'u hanghenion
- cael gafael ar wasanaethau cymorth lleol
- deall eu hawliau; ac
- Asesiadau o Anghenion Gofalwyr.