Age Cymru Gwent

CymraegEnglish

Lleddfu Pwysau Ariannol ac Adfer Llesiant

Dros y chwe mis diwethaf, mae Age Cymru Gwent wedi bod yn achubiaeth i ofalwyr sy’n wynebu straen ariannol, gan gynnig cymorth ymarferol, sydd nid yn unig yn lleddfu pryderon ariannol ond hefyd yn helpu i adfer ymdeimlad o lesiant a rheolaeth.

Dywedodd Angela Knowles-Macleod, Age Cymru Gwent, “Fe wnaethon ni gefnogi 92 o ofalwyr a oedd yn chwilio am gymorth ariannol, ynghyd â chwech a wnaeth gais yn uniongyrchol am grantiau. Ein pwyslais oedd cynyddu incwm i'r eithaf, cynnal gwiriadau budd-daliadau, nodi grantiau ac ad-daliadau cymwys, a chynnig cymorth ymarferol gyda cheisiadau.”

Gweithiodd y tîm yn agos gyda gofalwyr i adolygu budd-daliadau, cwblhau ffurflenni, a chael mynediad at gymorth gwresogi - yn enwedig i'r rhai sy'n agored i dlodi tanwydd. Wrth i gostau gwresogi godi yn yr hydref, ymatebodd Age Cymru Gwent gyda chyngor wedi'i deilwra ar effeithlonrwydd ynni a gwiriadau ynni am ddim drwy eu Gwasanaeth Help yn y Cartref.

“Mae costau gwresogi cynyddol yn parhau i fod yn bryder cyson o fis Medi ymlaen,” eglura Angela. “Rydyn ni’n rhannu cyngor ar effeithlonrwydd ynni yn y cartref ac yn cynnig gwiriadau ynni am ddim i helpu gofalwyr i gadw’n gynnes ac yn iach.”

Gall straen ariannol amddifadu gofalwyr o ddewis a rheolaeth, gan ychwanegu at bwysau emosiynol eu cyfrifoldebau. Gall pryder cyson am gostau dyddiol erydu llesiant a'i gwneud hi'n anoddach ymdopi. Diolch i'r cyllid, cafodd gofalwyr ryddhad ar unwaith o'r pwysau hyn. Mae cymorth gyda threuliau hanfodol y cartref - fel talebau archfarchnadoedd ac ailosod offer hanfodol fel sychwyr dillad a sugnwyr llwch - yn gwneud gwahaniaeth go iawn.

Drwy ein cymorth, mae nifer o ofalwyr wedi gweld gwelliannau yn eu sefyllfa ariannol, sydd wedi cael effaith bositif ar eu hiechyd meddwl a'u llesiant yn gyffredinol.

Meithrin Hyder a Chysylltiadau

Cafodd y cymorth ei deilwra i sefyllfa pob gofalwr, gan helpu i gryfhau gwydnwch ariannol a chynnig mynediad clir at wybodaeth ac arweiniad perthnasol.

Mae helpu gofalwyr i gael mynediad at yr incwm cywir yn rhoi ymdeimlad o ddiogelwch ariannol ac yn lleihau gorbryder sy'n gysylltiedig ag arian - gan ganiatáu iddyn nhw ganolbwyntio'n llawnach ar eu rolau gofalu.

Cafodd gofalwyr drwy wasanaethau Age Cymru Gwent eu cyflwyno hefyd i gymorth ehangach sydd ar gael drwy sefydliadau partner. Helpodd yr ymwybyddiaeth gynyddol hon i feithrin hyder, hunan-ddibyniaeth a gwydnwch hirdymor.

“Rydyn ni wedi gallu cynnig cymorth wedi'i deilwra i'r rhai mewn sefyllfaoedd mwy ynysig,” ychwanega Angela. “Un enghraifft allweddol yw gosod technoleg atal galwadau sgam am ddim. Mae'r rhain wedi gwella ymdeimlad o ddiogelwch ymhlith gofalwyr ac wedi lleihau gorbryder yn sylweddol - yn enwedig ymhlith y rhai sy'n cefnogi unigolion â dirywiad gwybyddol. I lawer, mae'r dechnoleg hon wedi rhoi tawelwch meddwl go iawn.”

Stori Lisa: Adfer Amser a Heddwch

Mae Lisa* yn gofalu am ei mam tra hefyd yn rheoli ei chartref ei hun. Cafodd gofynion rhedeg dau gartref a chefnogi anghenion gofal cynyddol ei mam effaith sylweddol ar ei llesiant. Bu’n rhaid iddi roi’r gorau i weithio ac mae bellach yn dibynnu ar incwm budd-daliadau cyfyngedig. Heb amser i ddychwelyd i’r gwaith, dechreuodd straen a blinder adael eu hôl.

Drwy’r grant, a hwyluswyd gan atgyfeiriad wrth Gymdeithas Alzheimer’s, derbyniodd Lisa beiriant sychu dillad cyddwyso – gan leihau'r amser a'r ymdrech sydd eu hangen i reoli’r golch ar gyfer y ddau gartref.

“Mae cael y peiriant sychu dillad yn gwneud cymaint o wahaniaeth – o'r diwedd, rydw i’n gallu rheoli pethau heb deimlo fy mod i’n cael fy llethu. Mae'n faich oddi ar fy meddwl.”

Erbyn hyn, dyw’r golch ddim mewn pentwr ac mae Lisa wedi adfer rhywfaint o amser gwerthfawr iddi hi ei hun.

Stori Mrs Richards: O deimlo’n ynysig i gael ei chynnwys

Mae Mrs Richards* yn ofalwr llawn amser i’w gŵr, sydd â dementia cynnar. Mae hi wedi bod yn darparu gofal ers dros saith mlynedd, ac wrth i'w anghenion dyfu, felly hefyd y teimlad o fod yn ynysig. Achosodd newid diweddar o Gredyd Cynhwysol i Bensiwn y Wladwriaeth fwlch dros dro yn y taliadau, gan ychwanegu straen ariannol at rôl a oedd eisoes yn heriol.

Roedd ei chyfrifiadur llechen yn achubiaeth – yn ei chysylltu â grwpiau cymorth i ofalwyr, gwasanaethau crefyddol, siopa ar-lein, bancio a ffrindiau. Ond pan nad oedd modd ei wefru bellach, teimlai ei bod wedi'i hynysu. Drwy'r gronfa, derbyniodd Mrs Richards e-daleb i brynu cyfrifiadur llechen newydd.

Bydd y llechen hon yn gwneud cymaint o wahaniaeth - gallaf gadw mewn cysylltiad â fy ffrindiau a'm rhwydweithiau cymorth a rheoli tasgau bob dydd heb deimlo fy mod wedi fy ynysu.

Nid yn unig y gwnaeth y ddyfais newydd adfer ei chysylltiad digidol, fe wnaeth adfer ei hyder hefyd.

Cymorth Bob Dydd, Effaith Barhaol

Drwy’r prosiect hwn, mae Age Cymru Gwent wedi parhau i gynorthwyo gofalwyr o dan bwysau sylweddol, gan leihau caledi a gwella ansawdd bywyd. Mae'r ymyriadau bach ond pwerus hyn yn dangos sut gall cymorth ymarferol drawsnewid bywyd bob dydd i ofalwyr, a’u helpu i deimlo eu bod yn cael eu gweld, eu cefnogi a'u grymuso.

Gyda'r cymorth iawn, gall gofalwyr barhau â'u rolau hollbwysig tra’n gofalu amdanyn nhw eu hunain hefyd - gan aros mewn cysylltiad, yn annibynnol ac yn wydn.

*Mae enwau wedi cael eu newid i ddiogelu preifatrwydd