CymraegEnglish
Gweledigaeth yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yw bod gofalwyr di-dâl yn cael eu clywed a’u gwerthfawrogi, a’u bod yn gallu derbyn cefnogaeth, cyngor ac adnoddau i’w galluogi i fyw bywydau boddhaus. Ni allwn wneud hynny oni bai ein bod yn gwahodd gofalwyr di-dâl i gymryd rhan yn y cynllunio a’r penderfyniadau a wnawn am ein gwasanaethau a’n blaenoriaethau.
Byddem yn falch iawn os gallech ddod â’ch profiad bywyd o ofalu i’n gwaith a dod yn Gynghorydd Profiad Bywyd gyda’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr. Fe welwch isod resymau dros gymryd rhan a rolau Cynghorydd Profiad Bywyd sydd ar gael ar hyn o bryd.