Beth yw’r Panel Ieuenctid Ymgynghorol yn yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr?
Mae’r Panel Ieuenctid Ymgynghorol yn gydweithfa o ofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr ledled gwledydd Prydain rhwng 13 a 25 oed. Bydd yr aelodau’n rhan o wneud penderfyniadau am sut mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn cael ei rhedeg, ar beth ddylai’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr ganolbwyntio a gwneud bywyd yn well i ofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr, a phenderfynu a yw beth fuom yn wneud hyd yn hyn wedi gweithio’n dda.
Gall unrhyw ofalydd ifanc neu oedolyn ifanc sy’n ofalydd rhwng 13 a 25 oed ymuno â’r grŵp. Wedi ichi ymuno, cewch wybod am y ffyrdd gwahanol o gymryd rhan. Byddwch yn gallu dewis beth rydych am gymryd rhan ynddo, gan ddibynnu ar eich diddordebau a faint o amser sydd gennych ar gael.
Bydd y Panel Ieuenctid Ymgynghorol yn cyfrannu at feysydd blaenoriaeth ein gwaith gyda gofalwyr ifanc /oedolion ifanc sy’n ofalwyr gan gynnwys yr Arolwg Gofalwyr Ifanc a Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc.
Dan arweiniad dau/dwy Gyd-Gadeirydd, bydd y Panel Ieuenctid Ymgynghorol yn cydweithio i:
- ofalu fod y Panel yn deg a bod gofalwyr ifanc /oedolion ifanc sy’n ofalwyr o bob cefndir yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys.
- gofalu fod gan bob gofalydd ifanc /oedolyn ifanc sy’n ofalydd lais o fewn y Panel ac y gallant gael y gefnogaeth maen nhw ei hangen i gymryd rhan.
- siarad â gofalwyr ifanc /oedolion ifanc sy’n ofalwyr eraill am y materion sy’n effeithio arnyn nhw, y pethau maen nhw eu heisiau a’u hangen a’r newid maen nhw am ei weld.
- herio’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr i wneud pethau mewn ffyrdd newydd i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud gwahaniaeth i ofalwyr ifanc /oedolion ifanc sy’n ofalwyr.
Rydym yn credu y bydd y Panel Ieuenctid Ymgynghorol yn cyfarfod tua chwe gwaith y flwyddyn ac y bydd pob cyfarfod yn para hyd at ddwy awr. Fe fydd cyfleoedd hefyd i fynd i ddigwyddiadau fel gwyliau gofalwyr ifanc a phenwythnosau preswyl.
Eisiau ymuno â’r Panel Ieuenctid Ymgynghorol?
Os hoffech ymuno â’r Panel Ieuenctid Ymgynghorol fel aelod, danfonwch e-bost atom i gofrestru eich diddordeb yn involvement@carers.org gyda’ch enw, oed, a manylion cyswllt, ac fe ddown yn ôl atoch gyda mwy o wybodaeth a’r camau nesaf.
CymraegEnglish