Mwy am ymglymiad gofalwyr

CymraegEnglish

Ystyr ymglymiad gofalwyr yn yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yw gweithio gyda phobl o’r nifer fawr o gymunedau amrywiol sydd ymhlith y miliynau o ofalwyr di-dâl ar draws gwledydd Prydain.

Rydym wedi ymrwymo i gynnwys gofalwyr di-dâl ymhob agwedd ar ein gwaith ac ar bob lefel. Boed yn meddwl am gychwyn prosiect, i asesu a ydym yn gwneud ein gwaith yn dda, rydym yn bwriadu gwahodd gofalwyr di-dâl i fod yn rhan o’r broses. Byddwn yn gwneud hyn trwy gael Cynghorwyr Profiad Bywyd mewn nifer o rolau gwahanol.

Beth yw Cynghorydd Profiad Bywyd?

Mae Cynghorydd Profiad Bywyd yn yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn rhywun y mae ganddynt brofiad o fod yn ofalydd di-dâl ac sydd eisiau cynnig y profiad hwnnw i’r hyn rydym ni’n ei wneud a sut rydym yn ei wneud.

Mae gofalydd yn unrhyw un sy’n gofalu, yn ddi-dâl, am gyfaill neu aelod o’r teulu sydd oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu gaethineb yn methu ymdopi heb eu cefnogaeth. Gallai unrhyw un fod yn ofalydd – merch 15 oed yn gofalu am riant a chanddynt broblem alcohol, dyn 40 oed yn gofalu am ei bartner sydd â chancr terfynol, neu fenyw 80 oed yn gofalu am ei gŵr sydd â chlefyd Alzheimer.

Pan fyddwn yn eich gwahodd i fod yn Gynghorydd Profiad Bywyd a chymryd rhan yn ein gwaith, rydym yn addo y:

  • Byddwn yn dod o hyd i rolau a gweithgareddau amrywiol fel y gall cymaint o ofalwyr di-dâl ag y bo modd gymryd rhan yn ein gwaith, a’i ffitio o gwmpas rolau gofalu a phethau eraill sy’n digwydd yn eich bywyd.
  • Byddwn yn gweithio gydag a thrwy ein rhwydwaith o wasanaethau gofalwyr lleol ledled gwledydd Prydain i ddod o hyd i ffyrdd o gymryd rhan yn agos at lle rydych yn byw.
  • Byddwn yn gweithio gyda chi yn gyfartal ac yn parchu eich barn a’ch safbwynt, a’r amser a’r profiad rydych yn ei gynnig i’r gwaith.
  • Byddwn yn gynhwysol ac yn eich cefnogi i gymryd rhan mewn ffordd sy’n iawn ichi.
  • Byddwn yn gwneud ymdrech i estyn allan at ofalwyr a chymunedau sydd ar y cyrion a phrin yn cael eu clywed.
  • Byddwn yn rhoi’r wybodaeth, yr hyfforddiant a’r gefnogaeth rydych eu hangen i wneud y gorau o gymryd rhan yn y gwaith.
  • Byddwn yn onest am beth sy’n bosib ac os oes unrhyw rannau o’r gwaith na ellir eu gwneud neu eu newid.
  • Byddwn yn gwneud yr hyn a ddywedwn y byddwn yn ei wneud ac yn onest ac atebol am unrhyw oedi neu newidiadau.
  • Byddwn yn cadw eich data yn ddiogel a chyfrinachol.
  • Byddwn yn eich cefnogi gydag unrhyw dreuliau neu gostau ychwanegol allai fod gennych fel y gallwch gymryd rhan, neu oherwydd eich bod wedi cymryd rhan, er enghraifft, os oes rhaid ichi dalu am docyn bws i gyrraedd cyfarfod, neu ofal amgen er mwyn ichi fod yn rhydd i gymryd rhan.


Credwn fod ymgorffori profiad bywyd yn ein gwaith wedi chwarae rhan annatod yn lliwio ein gwaith eiriol, ein gwasanaethau a’n strategaeth sefydliadol. O gofio hynny, rydym wedi cychwyn prosiect i wobrwyo gofalwyr yn deg am eu hamser a’u harbenigedd. Blaenoriaeth allweddol eleni yw gweithio tuag at bolisi taliad ar gyfer cyfranogiad ac ymglymiad gofalwyr. Byddwn yn adrodd yn ôl ar hyn erbyn yr Hydref 2023.

Edrychwch ar ein Rolau Cynghorwyr Profiad Bywyd presennol. Cymerwch ran trwy lenwi’r arolwg hwn.