CymraegEnglish
Ambell syniad i gloi … Y geiriau allweddol i chi ar y daith gyd-gynhyrchu hon yw amynedd a dysgu!
Amynedd, am ein bod yn rhoi sylw i broblemau dybryd sy’n cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl, ac felly mae’n naturiol ein bod yn teimlo bod yn rhaid i ni wneud popeth ar unwaith; ond cadwch bethau’n syml, a chymerwch un cam ar y tro. Mae’n adeiladu’n gryfach ac yn y pendraw yn gyflymach. Y prif beth i’w gofio yw mai taith yw hon, a chysylltiadau a chydberthnasau yw’r egwyddor sy’n ei gyrru, ac mae’r cysylltiadau/cydberthnasau hyn yn tyfu ar gyflymder ymddiriedaeth. Efallai eich bod yn treulio 10 munud gyda rhywun efallai na fyddwch chi’n ei weld eto am flwyddyn, neu mae eich prosiect cyd-gynhyrchu yn ymyriad ‘gorchwyl a gorffen’ byrdymor. Beth bynnag yw’ch sefyllfa, mae’n rhan o berthynas fwy hirdymor ac yn golygu datblygu ymddiriedaeth rhwng eich sefydliad a’i ddefnyddwyr gwasanaethau a’i ofalwyr di-dâl: mae’n adeiladu ar yr hyn ddaeth cyn hynny, a bydd yn creu’r amodau cywir ar gyfer yr hyn sydd i ddilyn..
Dysgu, oherwydd nid oes unrhyw fwledi arian sy’n addas i bawb: yr unig ffordd yw dysgu trwy wneud. Mabwysiadu cylch o Gynllunio, Gwneud (profi), Gwirio (dysgu), Addasu … a phrofi a dysgu eto! Ceisiwch ddod â mwy o chwilfrydedd a bod yn llai amddiffynnol yn y broses gyfan. Mae yna gymaint i’w ennill, a dyna fwy o reswm eto i fynd ati yn y ffordd drawsnewidiol hon, a meddwl am dyfu (“Gallaf ddysgu hyn” yn hytrach na “Rwy’n gwneud hyn yn dda neu’n wael”).
Gobeithiwn y bydd y pecyn cymorth hwn yn eich helpu i gymryd camau ar hyd y llwybr cyd-gynhyrchu.
Mae Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru yn bodoli er mwyn eich helpu ymhellach, ac mae ganddo offerynnau ac adnoddau rhad ac am ddim ar y sylfaen wybodaeth, ac yn bwysicach oll, cymuned o ymarferwyr o bob sector gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, sy’n cefnogi ei gilydd ar hyd y daith barhaus hon o ddatblygu.
helo@copronet.cymru
Gall Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru helpu gyda materion sy’n ymwneud yn benodol â gofalwyr, gan ddarparu adnoddau pellach, cyngor a hyfforddiant rhad ac am ddim Ymwybodol o Ofalwyr.
wales@carers.org