CymraegEnglish
Os ydych chi’n gallu dylanwadu ar y ffordd y mae’ch sefydliad yn gweithio ac yn bodloni ei ddyletswyddau statudol, yna fe allwch chi greu diwylliant sy’n seiliedig ar lais defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, trwy sefydlu polisïau a phrosesau llywodraethu sy’n meithrin ymddygiadau cyd-gynhyrchu ar draws eich sefydliad.
Nid yw newid ar lefel strategol yn digwydd dros nos, ond byddwch yn effro i’r arwyddion cyd-gynhyrchu y gallwch eu meithrin a’u datblygu. Mae cyd-gynhyrchu strategol yn creu fframweithiau sy’n galluogi mwy o gyd-gynhyrchu fel grŵp ac fel unigolion i ddigwydd, yn hytrach na bod ymarferwyr yn gorfod dod o hyd i ffyrdd o gyd-gynhyrchu er gwaethaf y system y maent yn gweithredu ynddi.