CymraegEnglish
Os allwch chi ddylanwadu ar y ffordd y mae’ch gwasanaeth yn gweithio ac yn cyflawni ei amcanion, yna fe allwch chi lunio siâp gwasanaeth sydd wedi’i adeiladu ar brofiadau defnyddwyr gwasanaethau, cleifion a gofalwyr, trwy ddod â grŵp at ei gilydd i gyd-gynhyrchu dyluniad eich gwasanaeth (neu ei wella neu drawsnewid).
Rydych chi’n dod o hyd i ffyrdd o ddefnyddio’r asedau a’r adnoddau sydd yn eich timau; ymysg eich defnyddwyr gwasanaethau a’ch gofalwyr; ac yn eich rhwydweithiau a’u cymunedau, a’u datblygu. Bydd hyn yn cyfrannu at feithrin hyder a chapasiti pob un ymhellach.
Yn ymarferol, efallai y byddwch chi’n dymuno dechrau trwy fapio pwy yr ydych chi’n eu ‘nabod a beth yr ydych chi’n ei wybod.
Rydych chi’n helpu pobl i feithrin cysylltiadau gydag actorion, rhanddeiliaid, cymunedau, grwpiau neu rwydweithiau eraill, trwy ddod â thîm amlddisgyblaeth o randdeiliaid at ei gilydd o ystod o gefndiroedd a phrofiadau.
Yn ymarferol, dyma ambell air o gyngor am wahodd pobl i ymuno â’ch grŵp cyd-gynhyrchu.
Ry’ch chi’n canolbwyntio ar greu canlyniadau da (y gwahaniaeth y mae’ch gwaith yn ei wneud i fywyd rhywun) yn fwy nag allbynnau (beth wnaethoch chi a faint neu ba mor aml). Er mwyn darganfod beth yw’r canlyniadau hyn, rydych chi’n dechrau trwy greu deialog, ac yn gwrando ar y rheiny sydd ddim yn cael eu clywed fel arfer yn y cyd-destunau hyn.
Yn ymarferol, mae yna ambell gwestiwn allweddol y byddwch chi am eu gweu i mewn i’r sgwrs.
Mae gan gyd-gynhyrchu fel grŵp y potensial i drawsnewid gwasanaethau, canlyniadau a bywydau. Os ydych chi’n ymddwyn mewn ffordd docenistaidd yna rydych chi’n gwastraffu amser pob un (yn weithwyr proffesiynol, yn ddefnyddwyr gwasanaethau ac yn ofalwyr), a hefyd yn niweidio cydberthnasau, ymddiriedaeth ac ewyllys da tuag at unrhyw ymdrechion i gyfranogi neu ymgyfrannu yn y dyfodol. Sicrhewch, os ydych chi’n dechrau ar broses gyd-gynhyrchu, eich bod chi’n gwneud hynny go iawn, ac nid fel sioe; a’ch bod wedi ymrwymo i weithredu ar sail canfyddiadau’r grŵp.