CymraegEnglish
Os allwch chi ddylanwadu ar y ffordd yr ydych chi (ac efallai eich tîm) yn gwneud eich gwaith, yna fe allwch chi ymgorffori gwerthoedd cyd-gynhyrchu yn y ffordd yr ydych yn darparu eich gwasanaethau, trwy ryngweithiadau perthynol gyda defnyddwyr gwasanaethau, cleifion a gofalwyr.
Rydych yn edrych am y cryfderau, y wybodaeth, y syniadau a’r profiad (bywyd neu broffesiynol) sydd gan bobl i’w cyfrannu, ac yn eu hadnabod, waeth a ydynt ar eich tîm o staff neu’n ddefnyddwyr gwasanaethau ac yn ofalwyr yr ydych yn eu cefnogi.
Rydych yn helpu pobl i ddod yn rhan o rwydweithiau cymheiriaid cefnogol ac i ehangu eu gorwelion trwy gysylltu gyda grwpiau, gweithgareddau neu sefydliadau eraill sy’n gallu cyfrannu at eu cefnogi.
Mae eich gwaith wedi cael ei siapio o gwmpas yr hyn sy’n bwysig i’r unigolyn. Rydych yn holi sut y mae pobl yn dod ymlaen, pa atebion y maen nhw wedi meddwl amdanynt yn barod, a sut y mae canlyniad da yn edrych iddyn nhw, cyn i chi benderfynu ar yr hyn sydd orau iddyn nhw.
Rydych yn cymryd yr amser i feithrin cysylltiadau, ymddiriedaeth a dealltwriaeth. Hyd yn oed pan fydd amser yn dynn neu efallai pan fyddwch chi’n cwrdd â chlaf neu ofalwr unwaith, gallwch fynd ati mewn ffordd berthynol trwy wrando’n astud a thrafod, gan ddangos eu bod yn bwysig a’ch bod yn gwerthfawrogi’r cysylltiad hwn.
Rydych chi’n gweld eich rôl fel un sy’n galluogi pobl i ysgogi newid, ac nid dim ond darparu gwasanaeth.
Mae cyd-gynhyrchu ar lefel unigol yn digwydd yn bennaf yn yr eiliadau o ryngweithio gyda’ch defnyddwyr gwasanaethau, cleifion a gofalwyr. Efallai ei fod yn teimlo’n syml ac yn fach, ond mae’r effeithiau mor bwerus a phwysig.
Gallai fod yn ddefnyddiol meddwl am gyd-gynhyrchu unigol fel cyfres o arferion bywyd neu waith, ychydig fel ymarfer corff; dydyn ni ddim yn holi, “Pryd fydda’ i’n heini ac yn gallu peidio â gwneud ymarfer corff? ‘Dyw’r corff dynol ddim yn ymddangos fel petai’n dod yn iach." Yn yr un ffordd, nid rhestr o bethau i’w gwneud yw cyd-gynhyrchu, na phrosiect sy’n gorffen, ond dydy hynny ddim yn golygu na allwn ni ddod yn fwy heini (yn bersonol, yn broffesiynol, fel gwasanaeth, fel sefydliad, ac fel cymdeithas).