CymraegEnglish
Lawrlwythwch Rhan 3 yn pdf
Bydd cyd-gynhyrchu yn edrych yn wahanol, gan ddibynnu ar y math o sefydliad yr ydych ynddo, beth yw eich rôl, a faint o le sydd gennych i ddylanwadu ar siâp gwasanaethau neu strategaethau. Efallai bod yna elfennau systemig sy’n eich atal rhag cyd-gynhyrchu mor eang ag y dymunwch chi, ond fel arfer mae yna rywbeth y gallwch chi ei gyd-gynhyrchu lle bynnag yr ydych chi. Mae rhywfaint o gyd-gynhyrchu yn well na dim, ac mae’r cyfan yn cyfrif – mae unrhyw beth sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr werth ei wneud.
Fel yr ydyn ni wedi ei ddweud o’r blaen, mae cyd-gynhyrchu yn ddull gweithredu ac yn ffordd o feddwl, ac felly nid proses mohoni sydd â nifer benodol o gamau i’w dilyn yn y drefn “gywir”. Fodd bynnag, gallwn gynnig rhywfaint o gyngor a phethau i’w hystyried i'ch helpu i ddechrau arni – ar yr amod eu bod yn cael eu cyflwyno mewn trefn arwyddol, ond y byddwch yn parhau i ddod yn ôl atynt wrth i chi ddatblygu eich arfer cyd-gynhyrchu. Os ydych chi eisoes yn cyd-gynhyrchu gyda defnyddwyr gwasanaethau a/neu ddefnyddwyr, gallai hyn gynnig syniadau ychwanegol i chi! Yr allwedd yw mynd yn ôl at 5 gwerth cyd-gynhyrchu (gweler Rhan 1) dro ar ôl tro ym mha gyd-destun bynnag yr ydych chi’n gweithio. Isod, rydym yn ystyried sut y gallai hyn edrych ar dair lefel cyd-gynhyrchu.
Nawr eich bod chi wedi darllen dros sut y mae cyd-gynhyrchu yn edrych, ar lefel unigol, grŵp a strategol, bydd gennych syniad cliriach ynghylch ble y mae eich gwaith chi’n eistedd, a beth yw’ch prosiectau cyd-gynhyrchu posibl gyda gofalwyr. Efallai y byddwch yn dymuno meddwl am drosi’r gwerthoedd yn gamau gweithredu yn eich cyd-destun penodol chi, a gallwch wneud hynny ar eich pen eich hun fel arbrawf meddwl, neu fel tîm gyda’ch cydweithwyr.
Gallwch lawrlwytho’r cynfas hwn ar dempled pdf er mwyn ei argraffu fel copi A4 neu A3.