RHAN 2. Enghreifftiau o gyd-gynhyrchu ar waith 

CymraegEnglish

 

Lawrlwythwch Rhan 2 yn pdf

Rydyn ni wedi casglu astudiaethau achos ac enghreifftiau o gyd-gynhyrchu ar waith, at ei gilydd, ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, er mwyn trosi’r fframweithiau damcaniaethol  yn Rhan 1 i ddangos sut y mae pethau’n edrych yn ymarferol. Bwriedir i’r rhain gynnig rhywfaint o ysbrydoliaeth ac ymdeimlad o’r ystod eang o gyd-destunau lle mae cyd-gynhyrchu yn gallu gwneud gwahaniaeth ac ychwanegu gwerth. Mae rhai yn cynnwys gofalwyr yn uniongyrchol, ac eraill yn cyfrannu at greu’r amodau lle y gall pawb, yn gleifion a gofalwyr, gyfrannu. Cofiwch fod pob sefyllfa (gwasanaeth, tîm, defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr) yn wahanol ac y bydd eich cyd-gynhyrchu chi’n debyg ond yn unigryw!

I ddilyn ymlaen, efallai yr hoffech chi :

  • Drafod yr hyn yr ydych wedi bod yn ei ddarllen gyda’ch tîm: pa astudiaeth achos oedd wedi sefyll allan i chi?
  • Gwrando ar y penodau canlynol gan Rwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru o’n cyfres o bodlediadau:
    • Straeon am gyd-gynhyrchu gyda Daniel Madge, Uwch-reolwr Datblygu Sefydliadol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (37’27”) [Cynnwys allanol ar gael yn Saesneg yn unig.]
    • Cyd-gynhyrchu mewn iechyd a gofal cymdeithasol gyda Jenny O’Hara Jakeway, Prif Weithredwr Credu Cysylltu Gofalwyr, a Daniel Madge, Uwch-reolwr Datblygu Sefydliadol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (37’26”) [Cynnwys allanol ar gael yn Saesneg yn unig.]
  • Gwylio (neu wrando ar) y sesiwn ar-lein hon gan Rwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru am “gyd-cynhyrchu gyda gofalwyr di-dâl” (1:32’32”) sy’n cynnwys cydweithwyr o Gyngor Kirklees, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot, Fforwm Rhieni sy’n Ofalwyr Abertawe, Hafal Crossroads a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS). [Cynnwys allanol ar gael yn Saesneg yn unig.] 
  • Myfyrio ar eich maes gwasanaeth neu faes gwaith (yn unigol neu fel tîm), ac adnabod unrhyw gyfleodd lle byddai cyd-gynhyrchu gyda defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn ddefnyddiol.

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.

Save preferences