CymraegEnglish
Pecyn cymorth cyd-gynhyrchu i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y sector iechyd a gyda’r sector iechyd.
Mae’r pecyn cymorth hwn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg (gallwch newid o’r naill i’r llall gan ddefnyddio’r botwm iaith uchod). Mae’r awgrymiadau ar gyfer dilyn ymlaen / darllen pellach yn mynd at gynnwys sydd y tu allan i'r pecyn cymorth. Lle bo’r cynnwys hwn ar gael yn ddwyieithog bydd y ddolen yn mynd â chi at yr iaith briodol. Lle bo’r cynnwys allanol ar gael mewn un iaith yn unig, nodir hynny.
Wrth gyd-gynhyrchu, mae gweithwyr proffesiynol yn dod at ei gilydd, ynghyd â defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr di-dâl, er mwyn cyfuno eu profiadau proffesiynol a’u profiadau bywyd, a dylunio atebion sy’n gwella gwasanaethau a chymunedau. Wrth gynnwys pobl i gyd-gynhyrchu mae yna fuddion amlwg iawn i ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, ac i’r timau proffesiynol sy’n eu cefnogi.
Yng Nghymru, mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu), ynghyd â’r rhaglen lywodraethu a chynllun y llywodraeth ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, oll yn gosod dyletswydd ar gyrff a byrddau cyhoeddus i gynnwys llais dinasyddion wrth ddylunio gwasanaethau a’u cyflwyno.
Mae yna ffocws cynyddol ar gyd-gynhyrchu trwy ddeddfwriaeth a dyletswyddau statudol. Serch hynny, rydym yn gwybod bod cyd-gynhyrchu yn teimlo fel rhywbeth amwys a pheryglus i lawer, ac adeg ysgrifennu’r geiriau hyn nid yw’n cael ei ddefnyddio’n ddigonol – yn enwedig yn y sector iechyd sy’n ffocws ar gyfer y rhaglen Ymwybodol o Ofalwyr.
Yn ganlyniad, mae gwasanaethau yn dal i geisio bodloni galw cynyddol gyda llai o gyllideb, ac mae hyn yn arwain at heriau staffio, oedi wrth ddarparu cymorth, a chulhau’r meini prawf cymhwystra er mwyn canolbwyntio ar yr anghenion mwyaf difrifol a dybryd. Byddai cyd-gynhyrchu yn gymorth iddynt i rannu adnoddau a’u defnyddio’n well, lleihau dyblygu a gwastraff, a manteisio i’r eithaf ar asedau ac adnoddau cleifion, defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr – gan arwain at wasanaethau sy’n canolbwyntio ar unigolion, canlyniadau gwell a llai o alw am wasanaethau, trwy atal.
Yma yn Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru, ein cenhadaeth yw cefnogi mudiadau a thimau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus, i gyd-gynhyrchu. Ar gais Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, rydym wedi llunio’r pecyn cymorth hwn er mwyn cefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar eu siwrnai cyd-gynhyrchu, ynghyd â’u cydweithwyr mewn mudiadau statudol eraill, partneriaid yn y trydydd sector a defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr di-dâl sy’n teithio ar hyd y llwybr cyd-gynhyrchu gyda nhw.
Ein bwriad yw egluro’r cysyniad, cynnig enghreifftiau o arfer a fydd yn ysbrydoli ac yn dangos beth sy’n bosibl, a chynnig cyfres o offerynnau a chamau meddwl y gellir tynnu arnynt ar hyd y daith..