Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc

CymraegEnglish

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ledled Cymru a Llywodraeth Cymru, wedi cefnogi'r cynllun cerdyn adnabod i helpu gofalwyr ifanc yng Nghymru i gael eu hadnabod, teimlo eu bod yn cael eu derbyn a chael y gefnogaeth maen nhw’n ei haeddu.

Mae Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc bellach wedi’i lansio ar draws pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. I gael gwybod sut y gallech dderbyn y cerdyn, gwiriwch gyda'ch awdurdod lleol drwy ymweld â'u gwefan, a defnyddiwch y manylion cyswllt a ddarperir yno.

Beth yw Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc (CAGI)?

Mae’r CAGI, neu’r Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc, yn  gerdyn syml i helpu gweithwyr proffesiynol yn cynnwys meddygon, athrawon a fferyllwyr i’w hadnabod a’u cefnogi’n briodol. Efallai y bydd y cardiau’n edrych yn wahanol ar draws Cymru, ond bydd pob un ohonynt yn cynnwys llun o’r gofalydd ifanc, eu dyddiad geni a’r dyddiad pan ddaw’r cerdyn i ben, ynghyd â gwybodaeth gyswllt ar gyfer Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a’u hawdurdod lleol a’u gwasanaethau gofalwyr ifanc. Bydd pob cerdyn a’r adnoddau fydd yn mynd gydag ef yn arddangos logo Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc, a ddyluniwyd gan 2 ofalydd ifanc.

Darllenwch ein hadnodd Cwestiynau Cyffredin

Beth all y cerdyn CAGI wneud imi?

Os ydych yn ofalydd ifanc

Mae gan y cerdyn CAGI nifer o fanteision i ofalwyr ifanc sy’n dewis cael un.

Gallwch weld mwy o wybodaeth am y cerdyn adnabod a’i fanteision yn y canllaw byr hwn:

CANLLAW GOFALWYR IFANC I’R CERDYN ADNABOD

Cofiwch nad oes rhaid ichi gael cerdyn CAGI i gael y gefnogaeth mae gennych yr hawl i’w chael ac yr ydych yn  ei haeddu fel gofalydd ifanc. Fodd bynnag, bydd yn helpu pobl eraill i’ch adnabod ac i ddangos ichi pa gefnogaeth sydd ar gael ar eich cyfer.

Os ydych yn ofalydd ifanc ac angen cefnogaeth cofiwch gysylltu ag un o’n Partneriaid Rhwydwaith i gael gwybod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael ichi.

Os ydych yn weithiwr gofal iechyd

Pwrpas y cerdyn CAGI yw eich helpu i adnabod pwy allai fod yn ofalydd ifanc, a bydd ein hadnoddau yn eich helpu i ddeall beth allai eu cyfrifoldebau ychwanegol gynnwys. Gobeithiwn y bydd hyn yn caniatáu ichi deilwra’r gofal a roddwch iddynt yn effeithiol.

Gallwch gael mwy o wybodaeth y cerdyn adnabodd a’i fanteision i’ch proffesiwn chi trwy ddilyn y dolenni hyn:

CANLLAW I FFERYLLWYR

CANLLAW I FEDDYGON TEULU

GWYLIWCH EIN HANIMEIDDIAD AR GYFER FFERYLLWYR

GWYLIWCH EIN HANIMEIDDIAD AR GYFER MEDDYGON TEULU A GWEITHWYR GOFAL IECHYD

Os ydych yn athro/athrawes neu’n weithiwr addysg

Mae llawer o ofalwyr ifanc yn ei chael yn anodd dal i fyny â rhai agweddau o’u haddysg gan gynnwys:

  • Cyrraedd yr ysgol mewn pryd, os oes dyletswyddau gofalu y mae’n rhaid iddynt eu gwneud cyn oriau ysgol
  • Colli gwersi er mwyn rhoi sylw i’r person maen nhw’n gofalu amdanynt neu fynd i apwyntiadau iechyd
  • Peidio gwneud gwaith cartref gan eu bod yn brysur â’u cyfrifoldebau gofalu pan maen nhw gartref

Er mwyn cael mwy o wybodaeth am y cerdyn adnabod a’i fanteision mewn amgylcheddau ysgol a sut allwch helpu cefnogi gofalwyr ifanc mewn ysgol neu goleg, gwasgwch ar y ddolen ganlynol i weld ein hadnodd:

CANLLAW I STAFF ADDYSG

GWYLIWCH EIN HANIMEIDDIAD AR GYFER GWEITHWYR ADDYSG