Y Rhwydwaith yng Nghymru
CymraegEnglish
Y Rhwydwaith yng Nghymru
Gyda’n Partneriaid Rhwydwaith rydym yn cefnogi’r gwaith o ddarparu’n gyson wasanaethau o ansawdd da i ofalwyr ledled Cymru a sicrhau cynaliadwyedd y gwasanaethau hynny.
Trwy weithio gyda’n gilydd, rydym yn rhoi gwybodaeth i ac yn dylanwadu ar fudiadau lleol a gwneuthurwyr penderfyniadau y mae ganddynt y gallu i wella’r gefnogaeth i ofalwyr di-dâl yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Trwy ein rhwydwaith rydym hefyd yn dosbarthu cyfres o grantiau cymunedol ac unigol i ofalwyr, all helpu gydag atgyweiriadau i’r cartref, gofal amnewid, seibiannau a chostau eraill sydd ynghlwm wrth eich rôl ofalu. Y llynedd darparwyd £32,476.87 gennym i’w cefnogi.
Pwy yw ein Partneriaid Rhwydwaith yng Nghymru?
- Canolfan Gofalwyr Penybont ar Ogwr sy’n cynnig cefnogaeth yn ardal Penybont ar Ogwr
- Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr sy’n cynnig cefnogaeth yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys Môn
- Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Gorllewin Cymru sy’n cynnig cefnogaeth ar draws Sir Gaerfyrddin a Cheredigion
- Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru Gwasanaethau Gofal Croesffyrdd sy’n cefnogi gofalwyr yn Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam
- Credu sy’n cefnogi gofalwyr a’u teuluoedd ym Mhowys a gogledd Cymru
- Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot sy’n cefnogi gofalwyr ar draws Castell-nedd Port Talbot
- NEWCIS sy’n cefnogi gofalwyr ar draws gogledd ddwyrain Cymru
- Canolfan Gofalwyr Abertawe sy’n cynnig cefnogaeth yn ardal Abertawe
Os hoffech wybod mwy am sut rydym yn gweithio gyda’r rhwydwaith neu pe bai gennych ddiddordeb mewn dod yn Bartner Rhwydwaith, mae croeso ichi gysylltu â’n Rheolydd Partneriaeth Rhwydwaith, Cath Phillips: cphillips@carers.org
Os ydych yn ofalydd ac os hoffech gael cymorth neu wybodaeth gan un o’n Partneriaid Rhwydwaith, gallwch ddod o hyd i’ch gwasanaeth gofalwyr lleol yma.