Rhaglen Cronfa Cymorth Gofalwyr

CymraegEnglish

Mwy am ein Rhaglen Cronfa Cefnogi Gofalwyr

Mae’r Gronfa Cefnogi Gofalwyr, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, yn ceisio darparu gwasanaethau hanfodol a grantiau i gefnogi gofalwyr di-dâl sy’n wynebu caledi ariannol, yn enwedig felly wrth i gostau byw godi ac oherwydd effeithiau parhaus y pandemig.

Ers ei sefydlu yn 2022, mae’r gronfa wedi darparu gwerth £4.5 miliwn o grantiau, sydd wedi bod o fudd i fudiadau lleol ac sydd wedi cefnogi dros 15,000 o ofalwyr di-dâl ledled Cymru. Mae’r grantiau hyn yn cynnig cymorth allweddol i unigolion sy’n gofalu am geraint i helpu ysgafnhau pwysau ariannol.

Cronfa Cymorth Gofalwyr 2022-25: Effaith

Ein nodau ar gyfer gofalwyr di-dâl

Mae’r Gronfa Cefnogi Gofalwyr yn rhoi sylw i bedwar prif amcan:

  1. Lleihau caledi ariannol: Lleddfu’r heriau economaidd y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu trwy gynnig grantiau a chymorth ariannol.
  2. Gwella ansawdd bywyd a llesiant meddyliol: Gwella llesiant cyffredinol gofalwyr trwy fynd i’r afael â’r pethau sy’n creu straen iddynt yn eu cyfrifoldebau gofal.
  3. Gwella ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael: Helpu gofalwyr i gael gafael ar wybodaeth ac adnoddau all eu helpu, a sicrhau eu bod yn gwybod pa help sydd ar gael iddynt.
  4. Cefnogi gofalwyr i barhau â’u rôl: Darparu gwasanaethau a chefnogaeth hanfodol i alluogi gofalwyr i barhau â’u cyfrifoldebau gofalu gyda llai o straen.

Sut mae’r gronfa’n cefnogi gofalwyr di-dâl

Gwasanaethau ychwanegol

Mae’r Gronfa Cefnogi Gofalwyr yn cynnig nifer o wasanaethau i ofalwyr di-dâl trwy fudiadau lleol, er mwyn mynd i’r afael â chaledi ariannol a gwella llesiant yn gyffredinol. Mae’r gwasanaethau’n amrywio yn ôl yr angen lleol, ond gallant gynnwys:

  1. Cymorth uniongyrchol gydag arian ac incwm: Cynnig arweiniad i helpu mynd i’r afael â heriau ariannol.
  2. Gweithdai llythrennedd ariannol a rheoli arian: Trafod materion fel cyllidebu, arbed ynni, rheoli dyledion, ymwybyddiaeth gamblo a chael gafael ar ostyngiadau.
  3. Treth y Cyngor: Cymorth i reoli a lleddfu pwysau treth y cyngor.
  4. Gweithdai sgiliau gofalu a sgiliau bywyd: Helpu gofalwyr i ddatblygu sgiliau ymarferol fel ysgrifennu CV, coginio, a thrwsio dillad, sy’n gallu eu gwneud yn  fwy annibynnol a gwella ansawdd eu bywydau.
  5. Cymorth gyda dyledion a rheoli arian: Darparu gwasanaeth cyfeirio a chefnogi i helpu gofalwyr i reoli dyledion a chynllunio ar gyfer dyfodol ariannol cadarn.
  6. Cynghori a therapi: Rhoi sylw i anghenion iechyd meddwl trwy gynnig cefnogaeth emosiynol a gwasanaethau therapi.
  7. Cyfeirio pobl at fudiadau cefnogaeth ariannol: Cysylltu gofalwyr ag adnoddau hollbwysig fel banciau bwyd, mentrau garddio cymunedol, a chyngor ar fudd--daliadau lles.
  8. Gweithgareddau a gweithdai llesiant: Trefnu sesiynau i wella ac annog iechyd corfforol a meddyliol trwy weithgareddau sy’n rhoi sylw i ymlacio, hunanofal, a gwytnwch emosiynol.
  9. Gwasanaethau eiriolaeth: Gofalu fod gan ofalwyr lais yn cael gafael ar y gwasanaethau maen nhw eu hangen ac ymgyrchu am eu hawliau.
  10. Darparu adnoddau ymwybyddiaeth ariannol: Darparu cynnwys addysgiadol i wella ymwybyddiaeth ariannol gofalwyr di-dâl a’u helpu i wneud gwell penderfyniadau.

Mae’r gwasanaethau hyn yn ceisio lleddfu pwysau ariannol, grymuso gofalwyr trwy sgiliau bywyd, a chynnig cefnogaeth emosiynol, a gwella eu gallu i barhau â’u rolau gofal.

Grantiau uniongyrchol

Mae’r Gronfa Cefnogi Gofalwyr hefyd yn darparu grantiau uniongyrchol i ofalwyr di-dâl trwy fudiadau lleol, gan helpu lleihau pwysau ariannol a gwella ansawdd eu bywydau. Rhoddir y grantiau hyn ar gyfer eitemau a gwasanaethau hanfodol, gan gynnwys:

  1. Nwyddau gwyn/nwyddau i’r cartref: Cymorth i brynu peiriannau a hanfodion cartref.
  2. Talebau bwyd ac archfarchnadoedd: Cymorth gyda phrynu bwyd a hanfodion bob dydd.
  3. Offer TG: Arian ar gyfer Wi-Fi, gliniaduron, tabledi, a ffonau symudol i helpu gofalwyr i gadw cysylltiad a chael gafael ar adnoddau.
  4. Cyfleoedd addysgol: Grantiau ar gyfer cyrsiau a gweithgareddau sy’n hyrwyddo datblygiad personol a dysgu.
  5. Costau tanwydd/ynni: Help wrth i gostau tanwydd ac ynni godi er mwyn lleddfu’r baich ariannol.
  6. Dillad cynnes: Cymorth gyda phrynu dillad ar gyfer tywydd oerach.
  7. Gwisgoedd Ysgol: Cymorth i ofalwyr sydd angen gwisgoedd arbennig ar gyfer eu gwaith, addysg, neu hyfforddiant.
  8. Atgyweiriadau i’r cartref: Arian i roi sylw i waith cynnal a chadw ac atgyweirio hanfodol yn y cartref.
  9. Costau trafnidiaeth: Cymorth gyda chostau teithio, sicrhau bod gofalwyr yn gallu cyflawni eu dyletswyddau a chael mynediad at wasanaethau
  10. Offer arbed ynni: Grantiau ar gyfer pethau fel ffriwyr aer, blancedi trydan, ffyrnau araf, ac amseryddion cawodydd i helpu defnyddio llai o ynni a chael biliau is.

Mae’r grantiau uniongyrchol hyn yn darparu help ariannol uniongyrchol i ofalwyr di-dâl yn y fan a’r lle, gan sicrhau bod ganddynt yr holl adnoddau angenrheidiol i gynnal eu hunain a’r bobl maen nhw’n gofalu amdanynt.

1. Anfanteision ariannol:

  1. Lwfans Gofalwyr Isel: Gall gofalwyr sy’n darparu mwy na 35 awr o ofal yr wythnos ac sy’n ennill llai na’r trothwy hawlio Lwfans Gofalwyr, sydd ar hyn o bryd o gwmpas £76.75 yr wythnos (cyfradd 2024). Mae hyn yn llawer is na’r isafswm cyflog, sy’n golygu bod gofalwyr yn ei chael yn anodd iawn i dalu eu costau byw eu hunain.
  2. Cyfleoedd Gwaith Cyfyngedig: Mae llawer o ofalwyr yn cael eu gorfodi i dorri eu horiau gwaith neu roi’r gorau i weithgareddau’n gyfan gwbl er mwyn gallu parhau â’u dyletswyddau gofalu. Canlyniad hynny yw ennill llai o arian dros eu bywydau, llai o gyfraniadau pensiwn, a llai o gyfleoedd i ddatblygu eu gyrfaoedd
  3. Costau Ychwanegol: Mae gofalwyr yn aml yn wynebu costau ychwanegol oherwydd eu bod yn darparu gofal, megis trafnidiaeth, addasiadau i’r cartref, neu offer arbennig. Mae hyn yn gallu rhoi straen ar eu hadnoddau ariannol sy’n gyfyngedig yn barod.

2. Anfanteision iechyd:

  1. Iechyd Corfforol: Mae rhai gofalwyr yn cael problemau iechyd corfforol yn aml, megis anafiadau i’r cefn neu boen cronig, oherwydd gofynion corfforol codi a chynnal y person maen nhw’n gofalu amdanynt.
  2. Iechyd Meddwl: Mae straen emosiynol gofalu yn gallu arwain at lefelau uwch o straen, gorbryder, ac iselder. Mae’r cyfrifoldeb parhaus a’r diffyg seibiant yn gallu gwneud i ofalwyr deimlo wedi llwyr ymlâdd.
  3. Diffyg Cymorth Iechyd: Mae llawer o ofalwyr yn esgeuluso eu hanghenion iechyd eu hunain oherwydd cyfyngiadau amser neu rwystrau ariannol, sy’n golygu nad yw cyflyrau meddygol yn cael eu trin neu fod oedi cyn gofyn am help meddygol.

3. Unigedd Cymdeithasol:

  1. Prinder Amser Rhydd: Yn aml iawn nid oes gan ofalwyr llawn-amser fawr ddim amser os o gwbl ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol neu gynnal perthnasoedd personol, sy’n gallu arwain at unigrwydd ac unigedd cymdeithasol.
  2. Llai o Rwydweithiau Cefnogi: Mae natur heriol gofalu yn gallu golygu fod gofalwyr yn colli cysylltiad gyda ffrindiau neu’n ei chael yn anodd cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol, gan wneud eu hunigedd yn waeth.

4. Mynediad Cyfyngedig at Wasanaethau Cymorth:

  1. Dim Digon o Ofal Seibiant neu Seibiannau Byr: Mae llawer o ofalwyr yn ei chael yn anodd cael gafael ar ofal seibiant, fyddai’n eu galluogi i gymryd seibiannau o’u dyletswyddau gofalu. Hyd yn oed pan mae gofal seibiant ar gael, mae’n aml yn ddrud neu’n anodd ei drefnu.
  2. Anodd Dod o Hyd i’ch Ffordd Drwy’r System: Mae gofalwyr yn gallu cael anhawster i weithio’u ffordd trwy systemau cymhleth i gael gafael ar wasanaethau cefnogaeth, cymorth ariannol, a gofal meddygol ar gyfer y person maen nhw’n gofalu amdanynt. Mae’r broses yn gallu cymryd llawer o amser a gall fod yn gymhleth, sy’n eu rhoi dan fwy o straen.

5. Effaith ar Ddatblygiad Addysgol a Gyrfaol:

  1. Gofalwyr Iau: Mae gofalwyr ifanc, plant neu arddegwyr oed ysgol yn aml, yn gallu bod o dan anfantais addysgol oherwydd gofynion gofalu. Gall hyn arwain at gyrhaeddiad academaidd is a chyfyngu’r cyfleoedd ar gyfer addysg uwch neu ddatblygu gyrfa.
  2. Aberthu Gyrfa: Gall oedolion sy’n ofalwyr orfod gwneud aberthau gyrfaol sylweddol, gan leihau eu gobeithion o fynd ymhellach yn eu proffesiwn neu fanteisio ar gyfleoedd hyfforddiant a datblygiad.

6. Pensiynau a Sicrwydd Ariannol Hirdymor:

  1. Bylchau Pensiwn: Gall gofalwyr sy’n methu gweithio neu sy’n cael eu cyflogi’n rhan-amser wynebu bylchau yn eu cyfraniadau pensiwn, gan arwain at ansicrwydd ariannol hirdymor wedi iddyn nhw ymddeol.
  2. Anghymwys i Dderbyn Rhai Budd-daliadau: Gall gofalwyr sy’n gweithio’n rhan-amser neu sydd ar incwm isel fod yn anghymwys ar gyfer rhai cynlluniau cymorth ariannol, sy’n gwneud eu sefydlogrwydd ariannol yn llai sicr fyth.

7. Anghydraddoldeb Rhwng y Rhyweddau:

  1. Baich anghymesur ar Fenywod: Mae menywod yn fwy tebygol o ysgwyddo cyfrifoldebau gofal di-dâl, a gallai hynny effeithio fwy ar eu rhagolygon ariannol a gyrfaol o gymharu â dynion. Mae hyn yn cyfrannu at fwy o anghydraddoldeb rhwng dynion a menywod yn y gweithle ac wedi iddynt ymddeol.
  2. Mae’r anfanteision hyn yn amlygu’r angen am well polisïau a systemau cymorth i roi gwell sylw i anghenion gofalwyr. Gallai gwell cefnogaeth ariannol, gwasanaethau iechyd hygyrch, a dewisiadau gofal seibiant hyblyg leddfu effeithiau rhai o’r heriau hyn.

Isod mae gwybodaeth am y sefydliadau a ariennir i gefnogi gofalwyr fel rhan o’r rhaglen hon. Dylid ceisiadau gan unigolion sy’n ofalwyr di-dâl fynd yn uniongyrchol at y darparwr lleol.

Am ymholiadau ynchylch y Gronfa Cymorth Gofalwyr, cysylltwch â wales@carers.org.

Ardaloedd Awdurdodau Lleol

Gweler isod am fanylion y sefydliadau cymorth sydd ar gael i ofalwyr yn eu hardal:

Darparwyr Cronfa Cefnogi Gofalwyr

Gweler isod am fanylion cryno o'r hyn y mae pob darparwr yn ei ddarparu ar gyfer gofalwyr yn eu hardal: