Cynllun Seibiannau Byr 2023-25

CymraegEnglish

Cynllun Seibiannau Byr, yw’r gronfa grant ar gyfer sefydliadau trydydd sector sy’n darparu seibiannau byr personol, hyblyg a chreadigol i ofalwyr di-dâl yng Nghymru. 
 
Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Cynllun Seibiannau Byr ar gyfer gofalwyr di-dâl a'i nod yw galluogi 30,000 o ofalwyr i gymryd seibiant o ofalu erbyn 2025. 
 
Mae ystod o opsiynau seibiant i gwrdd â chymunedau amrywiol Cymru wedi'u hariannu drwy'r rhaglen hon. Nod y rhain yw gwella gwydnwch a llesiant gofalwyr a chefnogi cynaliadwyedd perthynas ofalu’r gofalydd.

Cael mynediad at seibiant byr 

I wneud cais am seibiant byr a ariennir gan Amser, dylai gofalwyr di-dâl gysylltu â'u darparydd lleol yn uniongyrchol. 
 
Mae manylion llawn ar gael ar ein gwefan newydd.

Dyfarnu Grantiau’r Cynllun Seibiant Byr – De-ddwyrain Cymru

Ar ôl i’r Care Collective gau ddiwedd mis Mawrth 2024, ac wrth i’w prosiect i ddarparu Cynllun Seibiant Byr ddod i ben, fe wnaeth Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wahodd mudiadau i wneud cais am gyllid i ddarparu’r cynllun ym Mlaenau Gwent, Caerffili a Chasnewydd.  Roedd y cyllid ar gael i Fudiadau’r Trydydd Sector a Phartneriaid Rhwydwaith Ymddiriedolaeth y Gofalwyr.

O ganlyniad i’r broses hon, mae’r grantiau canlynol wedi cael eu rhoi ar gyfer y cyfnod rhwng mis Medi 2024 a diwedd mis Mawrth 2025:

NEWCIS: Blaenau Gwent, Caerffili a Chasnewydd

Gan adeiladu ar eu llwyddiant gyda phrosiect gofal seibiant Pontio’r Bwlch yn ne-ddwyrain Cymru, bydd NEWCIS yn darparu seibiant byr personol i ofalwyr di-dâl ledled Blaenau Gwent, Caerffili a Chasnewydd.  Bydd y prosiect yn nodi’r gofalwyr sydd fwyaf mewn angen a’r gofalwyr hynny o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Fforwm Cymru Gyfan ar gyfer Rhieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu: Caerffili

Fel estyniad i’w prosiect seibiant byr presennol, Seibiant, bydd y Fforwm yn cynllunio ac yn darparu seibiant i deuluoedd sy’n gofalu am blant ac oedolion ag Anableddau Dysgu sy’n byw yn ardal Caerffili.

Y Bartneriaeth Awyr Agored: Caerffili

Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi cael ei hariannu i gynnal dau brofiad preswyl gweithgareddau awyr agored ar gyfer gofalwyr ifanc di-dâl o ranbarth Caerffili, ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Yma, byddant yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o sesiynau sgiliau awyr agored yn ogystal â cherdded i gopa’r Wyddfa, y mynydd uchaf yng Nghymru. 

Age Connects Torfaen: Casnewydd

Drwy weithio gydag Age Cymru Gwent, bydd Age Connects Torfaen yn cyflwyno eu prosiect ‘Eich Amser, Eich Dewis’ yn rhanbarth Casnewydd.  Bydd hyn yn rhoi cyfle i ofalwyr pobl sy’n byw gyda dementia gael dewis o gymysgedd o seibiant byr hyblyg mewn gwahanol leoliadau yng Nghasnewydd. Mae’r dewis o wahanol seibiant byr wedi cael ei nodi ar y cyd, gan gynnwys profiad uniongyrchol gofalwyr.  

Mae’r pedwar mudiad eisoes yn darparu gweithgareddau seibiant byr drwy’r cynllun a bydd y cyllid ychwanegol hwn yn eu galluogi i gefnogi gofalwyr yn ne-ddwyrain Cymru.

Gall gofalwyr di-dâl fynd ar wefan y Cynllun Seibiant Byr i ddod o hyd i gyfleoedd seibiant byr yn eu hardal.