Ymchwil i ofalwyr di-dâl yng Nghymru sydd o leiafrif ethnig
Mae gofalwyr o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru yn wynebu heriau penodol. Ymhlith nifer o faterion eraill, mae gofalwyr o leiafrifoedd ethnig:
-
Yn llai tebygol o wybod am wasanaethau cymorth.
-
Yn llai tebygol o fanteisio ar wasanaethau cymorth.
-
Angen gwasanaethau sy’n ddiwylliannol briodol.
-
Nid yw eu lleisiau yn cael eu clywed mor gryf â defnyddwyr gwasanaethau eraill.
Hoffai Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru gael dealltwriaeth ddyfnach o’r heriau hyn. Gwahoddir tendrau ar gyfer astudiaeth fechan i brofiad gofalwyr di-dâl sy’n byw yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam ac sy’n ystyried eu hunain yn Asiaidd neu’n Asiaidd Brydeinig neu’n Ddu neu’n Ddu Prydeinig.
Bydd canfyddiadau’r ymchwil hwn yn arwain at ddatblygu offerynnau ac adnoddau ar gyfer ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol a/neu ofalwyr i’w helpu i ddod o hyd i wybodaeth, cyngor a chymorth.
Lawr lwythwch fanylion llawn yr ymchwil yma a chyflwynwch gais trwy e-bost i fbashir@carers.org.
CymraegEnglish