Mark Llewellyn
Ag yntau’n Athro Polisi Iechyd a Gofal ym Mhrifysgol De Cymru, mae materion gofalwyr a’r trydydd sector yng Nghymru wedi bod yn ganolbwynt gwaith Mark ers blynyddoedd lawer. Mae ei waith wedi canolbwyntio ar gasglu tystiolaeth am y ffyrdd y gellir gwella perthnasoedd rhwng pobl, eu gofalwyr, a’r mudiadau lleol a chenedlaethol sy’n eu cefnogi, a rhoi hynny ar waith yn ymarferol. Bu’n edrych yn arbennig ar y ffyrdd y mae lleisiau gofalwyr yn cael, a ddim yn cael, eu clywed, ac i ba raddau y mae pobl yn gallu lleisio barn am a chael rheolaeth ar y pethau sy’n bwysig iddyn nhw. Prif ffocws gwaith Mark yw meithrin cysylltiad rhwng tystiolaeth, polisi, ac effaith, a gwneud yn fawr o’r cyfraniad cadarnhaol y gall data ymchwil a gwerthuso annibynnol ei wneud i brofiad bob dydd gofalwyr di-dâl ledled Cymru. Mae Mark yn byw yn Ne Orllewin Cymru gyda’i wraig a’i dri mab, ac mae’n gwirfoddoli yn y clwb criced lleol.
Sally Anstey
Cafodd Sally Anstey ei hyfforddi’n nyrs, ac mae ganddi ddealltwriaeth o’r heriau sy’n gysylltiedig ag iechyd a gofal cymdeithasol. Cafodd ei geni a’i magu yn Llundain, a hyfforddodd Sally yn nyrs yn y lle cyntaf a dychwelyd i Gymru, lle y ganed ei thad-cu ar ochr ei mam, ag yntau’n Gymro balch iawn. Gweithiodd Sally ar draws nifer o leoliadau gofal mewn sawl swydd glinigol, gan arbenigo yn y pendraw mewn Gofal Diwedd Oes. Oherwydd Covid Hir, cymerodd Sally led-ymddeoliad o’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2022. Mae’n cadw cysylltiad o hyd fel Darllenydd Emerita ac yn cyfrannu at ymchwil MH a grymuso cleifion. Roedd rhoi lle blaenllaw i lais a phrofiadau cleifion a gofalwyr yn rhan hanfodol o’i gwaith. Mae eu storïau wedi cyfrannu at lunio, datblygu, cyflawni a gwerthuso prosiectau er mwyn codi ymwybyddiaeth ar lefelau strategol, trefniadol a chlinigol i’w cefnogi a’u grymuso yn eu rolau gofalu di-dâl. Mae Sally yn falch o fod yn Llysgennad Cymru ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr. Mae hefyd yn gweithio’n athrawes wirfoddol mewn ysgol gynradd leol, mae’n aelod PPI o Ganolfan Dystiolaeth Cymru ac yn aelod Seinfwrdd o Bartneriaeth Genomeg Cymru.
Gareth Morlais
Mae Gareth yn arbenigydd technoleg iaith Gymraeg gyda Llywodraeth Cymru, ac mae’n gweithio gyda grwpiau i ddatblygu llais-i-destun, cyfieithu gyda chymorth cyfrifiadur a deallusrwydd artiffisial sgyrsiol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rôl wirfoddol Gareth gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn annibynnol ar ei waith gyda llywodraeth. Yn ei amser hamdden, mae Gareth yn ymddiriedolydd Ymddiried Media Grants Cymru, bu’n gyfarwyddyd anweithredol Breaking Barriers Community Arts ac mae’n gyfrifol am sawl gwefan. Gan ei fod wedi helpu gofalu am aelodau’r teulu, cyfeillion a chymdogion, mae Gareth yn teimlo ei bod yn bwysig fod gofalwyr di-dâl yn cael yr holl help a chefnogaeth bosib.
Jo Galazka
Mae Jo yn gweithio i Unite the Union yn Swyddog Rhanbarthol Menywod & Chydraddoldebau yng Nghymru. Mae’r rôl yn cynnwys cynrychioli aelodau yn y gweithle, negydu gyda chyflogwyr ac ymladd am degwch a chydraddoldeb yn y gweithle. Mae’n angerddol am sicrhau bod gofalwyr yn cael y gefnogaeth angenrheidiol yn y gwaith a bod ganddynt lais yn y broses gwneud penderfyniadau Mae wedi byw yng Nghaerdydd am y 10 mlynedd diwethaf ac mae’n ymgyrchydd brwd dros hawliau gofalwyr. Mae dod yn ofalydd ifanc yn 9 oed wedi’i gwneud y person ydyw heddiw, ac mae ei phrofiad bywyd wedi’i gwneud yn benderfynol i eiriol dros hawliau gofalwyr ar bob cyfle.
Ifor Glyn
Dechreuodd Ifor Glyn ei yrfa ym Mhrosiect Cyffuriau Abertawe, un o’r asiantaethau lleihau niwed cyntaf yng Nghymru. Helpodd hefyd i sefydlu gwasanaeth camddefnyddio sylweddau yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Caerffili a gweithiodd yn WCADA (Canolfan Cymru ar gyfer Gweithredu ar Gaethineb a Dibyniaeth Cyf) cyn dychwelyd i Brosiect Cyffuriau Abertawe yn Brif Weithredydd yn 2007. Yn 2017, cychwynnodd Ifor swydd cyfarwyddyd yng Nghanolfan Ofalwyr Abertawe, elusen sy’n darparu nifer o wasanaethau i ofalwyr di-dâl yn Abertawe, megis seibiant yn y cartref, canolfan ddydd, budd-daliadau lles, cynghori, gweithgareddau, galw heibio, gwasanaethau penodol i oedolion ifanc sy’n ofalwyr, rhiant-ofalwyr ac iechyd meddwl. Er nad yw’n gweithio ym maes camddefnyddio sylweddau erbyn hyn, mae Ifor yn parhau i deimlo’n gryf am leihau’r niwed a achosir gan gyffuriau neu alcohol i unigolion a chymunedau. Hefyd, mae Ifor yn siaradwr Cymraeg ac mae’n gyfrannwr cyson ar deledu a radio Cymraeg.
Alison Harries
Alison Harries yw Prif Weithredydd Croesffordd Gorllewin Cymru yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr.
Gweithiodd Alison i Croesffordd/yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr er 2003 mewn swyddi gwahanol. Alison oedd y Rheolydd Cofrestredig cyntaf o dan AGGCC fel yr oedd ar y pryd yn 2004, ar yr un pryd â’i rôl yn Rheolydd Cynlluniau/Busnes. Yn 2007 unodd y mudiad gydag aelod rhwydwaith yn yr un sir. Rôl newydd Alison ar y pryd oedd Rheolydd Gweithredol/Cofrestredig, ac fe’i penodwyd yn Brif Weithredydd yn 2016.
Ym mis Ebrill 2021 ail-frandiodd y mudiad yn Croesffordd Gorllewin Cymru yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr. Y rheswm am “Gorllewin Cymru” oedd nad oes Partner Rhwydwaith yn Sir Benfro ac roeddem wedi ffurfio consortiwm gyda’n Partneriaid Rhwydwaith Credu a Croesffordd Gogledd Cymru yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr i ddarparu gwybodaeth, cyngor a gofal seibiant yng Ngheredigion. Nhw yw’r unig wasanaeth hybrid rheoledig gan Bartner Rhwydwaith yng Ngorllewin Cymru, ac maen nhw’n cael eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru i ddarparu gofal a Gwasanaethau Cefnogi Gofalwyr sy’n cynnig gwybodaeth, cyngor a mynediad at gymorth ariannol.
Yn ystod cyfnod Alison gyda Croesffordd, wynebodd nifer o newidiadau a heriau ynghyd â phrofiadau gostyngedig hyfryd o weithio gyda gofalwyr di-dâl. Mae profiad Alison o fod yn ofalydd ifanc ac, yn hwyrach yn ei bywyd, yn cydbwyso ei rolau yn ofalydd sy’n gweithio a cheisio gofalu am rieni oedrannus â phroblemau iechyd, ac ar yr adeg honno yn fam i deulu ifanc, wedi ei rhoi mewn sefyllfa dda wrth geisio deall pam mae gofalwyr yn teimlo fel y maent a chydymdeimlo â’u sefyllfa. Mae Alison yn frwdfrydig ac yn awyddus i ddatblygu prosiectau newydd. Yn ei hamser hamdden mae Alison yn mwynhau darllen a threulio amser gyda’i theulu, gan gynnwys ei 3 ŵyr/wyres.
Jen O’Hara Jakeway
Jen yw Prif Weithredydd Credu, sy’n cefnogi gofalwyr ifanc ac oedolion sy’n ofalwyr, ac mae’n llawn edmygedd o ofalwyr o bob oed y mae’n eu hadnabod yn bersonol a phroffesiynol. Mae cyfarfod pobl bob dydd sy’n gofalu am eu ceraint trwy salwch neu anabledd tra’n ceisio gweithio eu ffordd trwy systemau cymhleth yn ei gyrru i fod eisiau gweld gofalu yn cael ei wir gydnabod, gwerthfawrogi a chefnogi yn lleol a chenedlaethol.
Mae gan Jen gefndir mewn datblygu cymunedol seiliedig ar asedau a dulliau defnyddio cryfderau o gefnogi a datblygu sefydliadau. Mae wrthi ar hyn o bryd yn gwneud ymchwil ar gyfer doethuriaeth yn rhan amser.
Don Reed
Wedi gadael gyrfa fusnes ar lefel bwrdd o fwy na 30 mlynedd yn Gyfarwyddydd Masnachol/Ariannol, bwriad Don oedd cynnig ei sgiliau a’i brofiad i helpu mudiadau sy’n gwasanaethu cymunedau lleol yng Nghymru, gan roi sylw arbennig i feysydd sy’n agos at ei galon.
Yn ystod ei gyfnod mewn busnes aeth ef a’i bartner busnes ati i greu atebion buddion gweithwyr/aelodau ar gyfer sefydliadau mawr yn y sectorau preifat, cyhoeddus ac elusennol. Dangosodd rhan o’i ymchwil fod llawer o ofalwyr di-dâl yn anweledig i bob pwrpas ac nad oedd eu cyfraniad llesol i’r economi ehangach prin yn cael ei werthfawrogi a’i gefnogi gan Lywodraeth a Chymdeithas. Er mwyn ymateb i hyn, roedd Don yn darparu adroddiadau ar gyfer nifer o gynghorau yn cynnig ffyrdd ychwanegol o estyn breichiau, cynnig mwy o gymorth a gwneud sefyllfa gofalwyr di-dâl yn fwy gweladwy o fewn eu ffiniau.
Byddai Don yn falch o allu dweud y byddai ei ymchwil a’i wybodaeth ddamcaniaethol wedi’i baratoi ar gyfer ei daith bersonol ei hun fel gofalydd di-dâl, ond nid felly. Roedd y daith hir a gerddodd gyda’i Fam trwy gamau gwahanol dementia dros 9 mlynedd, ynghyd â’i Dad oedd yn methu dygymod â’r dirywiad yng ngalluoedd a chyflwr ei Fam, yn deimladwy a dweud y lleiaf, ac yn fwy beichus fyth gan ei fod yn unig blentyn. Mae taith ofalu Don yn parhau wrth i’w dad 94 oed fynd yn fwy a mwy eiddil a dibynnol arno.
Richard Marsh
Cychwynnodd Richard ei yrfa broffesiynol ym myd cyllid corfforaethol/bancio buddsoddi, yn y lle cyntaf yn Llundain ac yna ym Mharis. Wedi cwblhau MBA yn INSEAD yn Ffrainc, daeth yn ôl i Brydain yn 1997 gyda’r cwmni dosbarthu FTSE100 Bunzl, gan weithio yn y tîm datblygu corfforaethol cyn derbyn rôl Prif Swyddog Cyllid is-gwmni yng Ngogledd Lloegr. Yna symudodd Richard i orllewin Ffrainc yn 2004 at un o is-gwmnïau eraill Bunzl cyn symud i Amsterdam yn 2006 yn Brif Swyddog Cyllid eu gweithgarwch ar gyfandir Ewrop. Daeth adref i’w dref enedigol yng Nghaerdydd yn 2021 ac erbyn hyn mae’n gweithio gartref dri diwrnod yr wythnos yn Gyfarwyddydd Prosiectau Ariannol i Bunzl. Nid oes ganddo unrhyw brofiad uniongyrchol o ddarparu gofal di-dâl ac eithrio gofalu am ei fam oedrannus.
Gwnewch siŵr eich bod yn cael gwybod am yr holl newyddion ac ymgyrchoedd diweddaraf!