Hyfforddiant Rhad ac am Ddim ar gyfer Staff Clystyrau Meddygfeydd Teulu: Deall Anghenion Gofalwyr Hŷn yng Nghymru
CymraegEnglish
Cynigir gan Age Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.
Rydym yn gyffrous i gyhoeddi sesiynau codi ymwybyddiaeth rhad ac am ddim i helpu staff yn gweithio yn a chyda clystyrau meddygfeydd teulu ledled Cymru i ddeall a chefnogi anghenion unigryw ac yn aml cymhleth gofalwyr hŷn.
Beth fyddwch chi’n gael
· Dealltwriaeth ddyfnach o brofiadau bywyd, hawliau, a’r heriau a wynebir gan ofalwyr hŷn
· Offerynnau i’w helpu i adnabod gofalwyr hŷn mewn lleoliadau gofal iechyd sylfaenol a chymunedol, er mwyn eu cyfeirio yn gynt at wasanaethau gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth hollbwysig sy’n cyfoethogi eu llesiant.
· Gwell sgiliau cyfathrebu i feithrin perthnasoedd cryfach gyda gofalwyr hŷn, gan sicrhau eu bod yn cael yr arweiniad maen nhw ei angen ac yn gwybod am eu hawliau.
Pam mynd?
Mae gofalwyr di-dâl hŷn yn chwarae rôl hollbwysig yn cefnogi’r bobl maen nhw’n gofalu amdanynt, ond yn aml mae eu hanghenion nhw’n cael eu diystyru gan weithwyr proffesiynol a’r gofalwyr hŷn eu hunain.
Trwy gymryd rhan yn yr hyfforddiant hwn, byddwch yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w bywydau, a helpu sicrhau eu bod yn cael eu hawliau a chefnogaeth.
Pwy ddylai fynd?
Mae’r hyfforddiant hwn yn ddelfrydol ar gyfer staff clystyrau meddygfeydd teulu ac unrhyw un sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli gyda darparwyr gofal sylfaenol mewn cymunedau ledled Cymru.
Ymunwch â ni i wella bywydau gofalwyr hŷn a chryfhau’r gefnogaeth maen nhw ei hangen.
- Er mwyn cael mwy o fanylion edrychwch ar y poster atodedig
- Ar gyfer archebion cysylltwch â dcole@carers.org