CymraegEnglish

Nid yw’n rhwydd cydbwyso gofalu, astudio a gofalu am eich iechyd a’ch llesiant eich hun, yn enwedig felly os yw’n anodd cael seibiant neu os ydych yn colli cwmni eich ffrindiau. Gwyddom fod rhai gofalwyr ifanc wedi sôn am ei chael yn anodd gwneud pethau arferai fod yn hawdd, fel cael bwyd a meddyginiaethau i’w teuluoedd.

Rydym wedi paratoi canllawiau i gefnogi gofalwyr ifanc drwy’r pandemig yn seiliedig ar ddulliau a brofwyd gan ofalwyr ifanc, gweithwyr cymorth ac arbenigwyr ar ofalwyr ifanc. 

Gallwch lawr lwytho’r canllawiau ar gyfer gofalwyr ifanc yma.