Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer ymgysylltu â gofalwyr di-dâl

CymraegEnglish

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn arwain ar Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer ymgysylltu â gofalwyr di-dâl yn ystod 2022/23.


Drwy gydol y flwyddyn bydd yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn cynnal, ar ran Llywodraeth Cymru, cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu i glywed gan ofalwyr di-dâl am eu profiadau. Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ar themau blaenoriaethau Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofalwyr Di-dâl er mwyn hysbysu Gweinidogion Cymru am brofiadau bywyd gofalwyr di-dâl. Bydd adroddiad o bob digwyddiad yn cael ei rannu â Grŵp Cynghori’r Gweinidog Llywodraeth Cymru ar ofalwyr di-dâl.

Bydd cymysgedd o ddigwyddiadau wyneb-yn-wyneb ac ar-lein, gyda’r nod o glywed gan bobl ym mhob ardal ledled Cymru. Cynhelir cyfarfodydd ychwanegol i glywed gan grwpiau o ofalwyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn gwasanaethau gofalwyr. Bydd pob cyfarfod yn croesawu cyfraniadau gan ofalwyr di-dâl yn Gymraeg neu Saesneg.

Cofrestrwch ar gyfer digwyddiad yn eich ardal chi yma.

Os oes gennych gwestiynau am waith Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ar Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer ymgysylltu â gofalwyr di-dâl, cysylltwch â wales@carers.org.

Gwaith ymgysylltu blaenorol

Mae’r Grŵp Ymgysylltu Cenedlaethol ar gyfer Gofalwyr yn gweithio gyda Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar gyfer Gofalwyr i helpu cyfrannu at drefn Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi gofalwyr di-dâl ledled Cymru.

Ym mis Hydref 2020 cynhaliodd y Grŵp Ymgysylltu gyfres o ddigwyddiadau i godi lleisiau gofalwyr di-dâl a’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda nhw.

Rhoddodd y digwyddiadau gyfle i’r gofalwyr a’r gweithwyr proffesiynol rannu sut mae COVID-19 wedi effeithio arnynt a pha gamau maen nhw’n meddwl y dylid eu cymryd i wneud yn siŵr fod gofalwyr yn cael y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu a’r gefnogaeth maen nhw ei hangen.