CymraegEnglish
Gweledigaeth yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yw bod gofalwyr yn cael eu clywed a’u gwerthfawrogi, ac y gallant fanteisio ar gefnogaeth, cyngor ac adnoddau i’w galluogi i fyw bywydau boddhaus. Fel rhan o hyn, mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn credu na ddylai unrhyw ofalydd gael eu gwthio i dlodi neu anfantais ariannol gan eu rôl ofalu.
Mae’r argyfwng costau byw wedi effeithio gofalwyr di-dâl mewn ffordd sydd efallai’n wahanol i weddill y boblogaeth, gan fod y costau sydd ynghlwm wrth eu rôl ofalu yn cynyddu hefyd.
Gall y costau hyn gynnwys pethau fel offer arbenigol, ynni i danio’r offer, i rai pobl, methu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus am resymau hygyrchedd, diet arbennig ar gyfer y person maen nhw’n gofalu amdanynt ac, i lawer, bod yn ddibynnol ar Lwfans Gofalwyr.
Eir i’r afael â her benodol caledi ariannol yn yr esboniad hwn yng nghyd-destun cefnogaeth ehangach i ofalwyr di-dâl. Mae’n ystyried gallu gofalwyr i fanteisio ar gefnogaeth ariannol, gan gynnwys gwybodaeth, cyngor a chymorth i hawlio budd-daliadau’r wladwriaeth, a mathau eraill o gymorth.
Mae’r esboniad hwn hefyd yn ceisio deall y berthynas gymhleth rhwng y ffordd yr aiff awdurdodau lleol ati yn lleol i weithredu polisi a deddfwriaeth Gymreig ynghyd â pholisi i gefnogi gofalwyr di-dâl a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DG.
Cais Rhyddid Gwybodaeth i awdurdodau lleol ynghylch y grant o £500 i ofalwyr di- dâl yma: canfyddiadau cais rhyddid gwybodaeth ymddiriedolaeth gofalwyr.