Codi arian ar gyfer Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru

CymraegEnglish

Cefnogi ein gwaith hollbwysig ar gyfer gofalwyr yng Nghymru trwy godi arian. 

Fel elusen, dibynnwn ar haelioni unigolion a sefydliadau i allu cyflawni ein gwaith. 

Gyda’ch cymorth chi, gellir amddiffyn miloedd o ofalwyr rhag gorfod wynebu bywyd o unigedd trwy gynnig iddyn nhw’r gefnogaeth ymarferol, ariannol ac emosiynol fydd yn gwneud eu bywydau damaid bach yn rhwyddach.

Wele isod rai o’r ffyrdd y gallwch ein cefnogi trwy godi arian. 

Cyfrannwch yn awr

Gallwch wneud cyfraniad inni ar ein tudalen LocalGiving, boed yn gyfraniad untro, yn un misol, neu os ydych eisiau cynllunio digwyddiad codi arian.

Cyfrannwch

Rhodd Loteri Cymru ar gyfer cefnogaeth yn ystod pandemig COVID-19

Gan fod gofalwyr di-dâl yn wynebu heriau na welwyd mo’u tebyg erioed o’r blaen ac wrth i lawer o elusennau wynebu’r perygl o golli incwm hollbwysig i gefnogi’r sawl sydd mewn angen, dewisodd Loteri Cymru, a weithredir gan Sterling Lotteries, gefnogi Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru trwy wneud cyfraniad o £10k. Bydd y cyfraniad hwn yn cynnig cefnogaeth mawr ei hangen i ofalwyr ledled Cymru a bydd yn ein helpu i ddal ati i weithio ar draws Cymru i greu gwell tirwedd ar gyfer gofalwyr o bob oed, yn enwedig felly yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Darllenwch ddatganiad i’r wasg Loteri Cymru yma (ar gael yn Saesneg yn unig)

Digwyddiadau codi arian

Bob blwyddyn, mae cannoedd o bobl ledled Cymru yn cymryd rhan mewn digwyddiadau i godi arian ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr. 

O gampau fel rhedeg marathon, abseilio neu awyrblymio i ddigwyddiadau mwy ymlaciol fel gwerthu cacennau a boreau coffi – mae pob digwyddiad a rhodd yn helpu gofalwyr yng Nghymru.  

Y digwyddiad diweddaraf yr ydym yn cymryd rhan ynddo yw Marathon & 10K ABP Casnewydd Cymru, fydd yn cael ei gynnal ar ddydd Sul 25 Hydref 2020.  

Cefnogaeth gorfforaethol

Gan fod tri o bob pump ohonom yn debygol o ddod yn ofalydd ar ryw adeg yn ein bywydau, y tebygrwydd yw bod nifer arwyddocaol o weithwyr mewn unrhyw sefydliad yn, neu wedi bod yn, ofalydd. Os nad ydynt mae bron yn sicr y byddant yn gwybod am rywun sy’n ofalydd neu wedi bod yn un. O’r herwydd, mae cefnogi gofalwyr yn rhywbeth sy’n taro tant gyda phob un ohonom.

Mae sawl ffordd y gall eich cwmni wneud argraff barhaol ar waith Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. Mae gweithio mewn partneriaeth gyda ni yn gallu cynnig posibiliadau boddhaus i’ch cwmni a’i weithwyr. 

Cewch wybod mwy am sut all eich sefydliad ein cefnogi trwy gysylltu â Nerys Sales: nsales@carers.org.

Partneriaeth gyda Jehu Group 

Ni ar hyn o bryd yw partner elusen Jehu Group ac rydym yn gweithio’n agos â staff y cwmni i godi ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr ac o sut all gweithwyr gael cefnogaeth sydd wedi’i theilwra i’w hanghenion gofal. Gyda’n gilydd rydym yn gweithio ar gyfres gyffrous o ddigwyddiadau a heriau codi arian yn ogystal â digwyddiadau ac ymgyrchoedd ymgysylltu cymunedol.

Cysylltwch 

Os ydych yn meddwl am ein cefnogi, naill ai drwy eich cwmni neu’n unigol, mae croeso ichi gysylltu â’n Rheolydd Codi Arian yng Nghymru, Nerys Sales: nsales@carers.org.