Dylanwadu strategol

CymraegEnglish

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn gweithio’n rhagweithiol i ddylanwadu ar bolisi, deddfwriaeth a phrosesau comisiynu er lles gofalwyr a’n Partneriaid Rhwydwaith.

Ymhlith y prif feysydd gweithgarwch mae:

Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar gyfer Gofalwyr

Bu Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn aelod allweddol o Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar gyfer Gofalwyr ers ei sefydlu yn 2018.

Mae’r grŵp hwn yn darparu cyngor uniongyrchol i’r Dirprwy Weinidog ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae ganddo rôl allweddol yn datblygu Cynllun Gweithredu Strategol newydd ar gyfer Gofalwyr a gyhoeddir erbyn mis Ionawr 2021.

Er mwyn cael mwy o wybodaeth am Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar gyfer Gofalwyr cysylltwch â Simon: shatch@carers.org.

Y Grŵp Ymgysylltu Cenedlaethol

Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i ddatblygu Grŵp Ymgysylltu Cenedlaethol ar gyfer gofalwyr a gweithwyr rheng flaen i weithio mewn partneriaeth â Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar gyfer Gofalwyr i gynghori’r Dirprwy Weinidog ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Fe’i sefydlwyd ym mis Rhagfyr 2019, ac mae’r Grŵp Ymgysylltu yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn ac mae wedi pennu tri maes gwaith allweddol i’w cyflawni yn 2020 ynghyd â chefnogi’r gwaith o lunio’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Gofalwyr.

Er mwyn cael mwy o wybodaeth am y Grŵp Ymgysylltu Cenedlaethol cysylltwch â Kate: kcubbage@carers.org

Senedd Ieuenctid

Penodwyd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn bartner fudiad Senedd Ieuenctid Cymru yn 2018. Mae hyn wedi galluogi ein Cyngor Ieuenctid Cenedlaethol i ethol dau o’i aelodau i’w cynrychioli ar y Senedd Ieuenctid.

Rydym yn cefnogi Grace Barton ASIC ac Oliver Davies ASIC yn eu rolau seneddol a gall unrhyw ofalwyr ifanc sy’n awyddus i rannu eu barn gyda’u cynrychiolwyr yn y Senedd Ieuenctid wneud hynny trwy ebostio wales@carers.org.

Cardiau Adnabod Gofalwyr Ifanc

Ariannwyd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru gan Lywodraeth Cymru i fod yn arweinydd cenedlaethol ar gyfer cyflwyno cynllun Cardiau Adnabod i ofalwyr 18 oed ac iau ar draws Cymru.

Rydym wedi cynnull awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, gwasanaethau gofalwyr a gofalwyr, gweithwyr iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg at ei gilydd i lunio trefn fydd yn cael ei chyflwyno ledled Cymru o fis Ebrill 2020.

Er mwyn cael mwy o wybodaeth am gynllun Cardiau Adnabod Gofalwyr Ifanc cysylltwch â Kate: kcubbage@carers.org.

Cyflawni ar gyfer gofalwyr ifanc mewn ysgolion

Gweithiodd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn agos â Llywodraeth Cymru ac Estyn i lunio a chyfrannu at gylch gorchwyl a chanfyddiadau adolygiad thematig a gynhaliwyd gan Estyn yn 2018 yn edrych ar ofalwyr ifanc mewn ysgolion.

Lawr lwythwch yr adroddiad

Gan adeiladu ar argymhellion Estyn, a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru, buom yn gweithio â Consortia Addysg a nifer o fudd-ddeiliaid eraill i ddarparu hyfforddiant ac adnoddau defnyddiol ar gyfer adnabod a chynnig cefnogaeth i ofalwyr mewn ysgolion.

Bydd yr adnoddau a gynhyrchwyd trwy’r prosiect hwn yn cael eu darparu i bob ysgol a choleg yng Nghymru erbyn diwedd Ebrill 2020. Er mwyn cael mwy o wybodaeth cysylltwch â Faaiza: fbashir@carers.org.

Dylanwadu ar ymchwiliad gofalwyr

Bu Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn flaenllaw yn dylanwadu ar ymchwiliad ôl-ddeddfwriaethol i’r gefnogaeth y mae gofalwyr yng Nghymru wedi gallu’i derbyn wedi iddynt dderbyn hawliau newydd a gyflwynwyd trwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru.

Cyflwynasom dystiolaeth ysgrifenedig a llafar gynhwysfawr i’r Pwyllgor, gan gynnwys creu cyfleoedd i fwy na 30 o ofalwyr ifanc a phob Partner Rhwydwaith yng Nghymru gael gwrandawiad ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Gofalwyr Ifanc 2019.

Gwnaeth adroddiad y Pwyllgor, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2019, 31 o argymhellion i Lywodraeth Cymru yn cwmpasu pob un o’n prif ofynion polisi. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhan fwyaf ohonynt ac rydym yn gweithio’n rhagweithiol gyda Llywodraeth Cymru i weld sut allwn eu helpu i gyflawni’r argymhellion hyn.

Lawr lwythwch yr adroddiad

Er mwyn cael mwy o wybodaeth am yr ymchwiliad a gwaith dylanwadu ehangach Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, cysylltwch â Kate: kcubbage@cares.org.