Cyngor Ieuenctid Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru
CymraegEnglish
Rydym yn falch o weithio gyda’n Cyngor Ieuenctid i godi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n bwysig i ofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr ac i gael cydnabyddiaeth ohonynt.
Aelodaeth ein Cyngor Ieuenctid yw'r gofalwyr ifanc sy'n cael eu cefnogi gan ein Rhwydwaith yng Nghymru.
Mae'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn Sefydliad Partner balch o'r Senedd Ieuenctid Cymru 2024-26 a byddwn yn ethol Aelod o'r Senedd Ieuenctid ymysg aelodau ein Cyngor Ieuenctid yn fuan.
Rydym yn cyfarfod ag aelodau ein Cyngor Ieuenctid 3 gwaith y flwyddyn yn ystod gwyliau hanner tymor i drafod y pethau sy’n bwysig iddyn nhw, gofyn am eu cyngor ar ein blaenoriaethau a’n ffyrdd o weithio ac i gael hwyl.
Ffurfiwyd y Cyngor Ieuenctid yn 2018 a thros y 2 flynedd ddiwethaf mae’r grŵp ymroddedig hwn o bobl ifanc wedi gwneud argraff enfawr. Mae sawl aelod o’r cyngor wedi rhoi tystiolaeth hollbwysig i Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol am sut mae’r ddeddfwriaeth bresennol wedi effeithio ar eu rôl ofalu. Mae eu tystiolaeth wedi dylanwadu ar argymhellion terfynol y Pwyllgor yn eu hadroddiad i Lywodraeth Cymru, dogfen o bwys sy’n rhoi sylw i hawliau gofalwyr a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.
Yn 2018, pleidleisiodd aelodau ein Cyngor Ieuenctid ar gyfer eu cynrychiolyddion ar Senedd Ieuenctid Cymru, Oliver Davies ASIC a Grace Barton ASIC, sydd wedi defnyddio eu profiad a’u llais i eiriol dros hawliau gofalwyr o fewn eu cymunedau ac mewn lleoliadau gwleidyddol.
Mae gan bob un o aelodau ein Cyngor Ieuenctid gyfrifoldebau gofalu am riant, brawd neu chwaer neu gyfaill ac mae pob un ohonynt yn cael eu cefnogi gan ein Partneriaid Rhwydwaith.
Cyfarfu Senedd Ieuenctid Cymru ar 14 Tachwedd, lle y soniodd y gofalydd ifanc Grace am rai o’r prif faterion i ofalwyr ifanc yn ystod y pandemig.
Buont hefyd yn creu cerdd, y gallwch ei gwylio yma.
Our wonderful Youth Council worked with @NeiKaradog and @RedBeetleFilms to create a poem and video about what caring means to them.
— Carers Trust Wales (@CarersTrustWal) January 29, 2020
Visit https://t.co/ivHTafRAHi to find out how you can support young carers this #YoungCarersAwarenessDay
#CountMeIn #SupportNotSympathy pic.twitter.com/WnIpQu3dKu