CymraegEnglish
Mae gofalwyr ledled Cymru wedi dweud wrthym ni bod y cyfyngiadau angenrheidiol sydd wedi’u rhoi ar waith i reoli lledaeniad y Coronafeirws wedi gwneud tasgau o ddydd i ddydd yn fwy anodd iddyn nhw.
Fel cam cyntaf i helpu gofalwyr i geisio ateb yr heriau newydd hyn, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, Fferylliaeth Gymunedol Cymru, Gofalwyr Cymru a Llywodraeth Cymru i ddatblygu cyfres o adnoddau i’w gwneud hi’n haws cael gafael ar feddyginiaethau ac i ddatblygu ffordd i adnabod gofalwyr mewn fferyllfeydd ac amgylcheddau adwerthu.
Mae’n bosibl lawrlwytho’r adnoddau i gyd ar y dudalen hon, a fydd yn cael ei diweddaru wrth i fwy o adnoddau gael eu creu.