Cronfa Cefnogi Gofalwyr Cymru

CymraegEnglish

Diolch i gefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru a’u hymrwymiad i fynd i’r afael ag anghenion gofalwyr di-dâl ar draws Cymru, mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn falch iawn o lansio Cronfa Cefnogi Gofalwyr Cymru 2022.

Gwahoddir Awdurdodau Lleol, mudiadau trydydd sector a chyrff y GIG i gyflwyno cynigion i gyflawni’r gronfa mewn ardaloedd Awdurdodau Lleol ar draws De Ddwyrain Cymru. Rhestrir isod yr ardaloedd Awdurdodau Lleol a’r uchafswm grant sydd ar gael i gefnogi gofalwyr ym:

  • Mlaenau Gwent - £41,937
  • Caerffili - £100,650
  • Caerdydd - £159,362
  • Sir Fynwy - £50,325
  • Casnewydd - £75,487
  • Torfaen - £52,002
  • Bro Morgannwg - £68,777
  • Rhondda Cynon Taf - £134,200
  • Merthyr Tudful - £33,550

Gwneir dyfarniadau am gyfnod o 12 mis (1 Tachwedd 2022 – 31 Hydref 2023). Nodwch fod dyraniad cyllideb gwahanol yn y ddwy flynedd ariannol (cyfeiriwch at y nodiadau canllaw am ragor o fanylion). a diffinnir yr uchafswm ar gyfer ardal pob awdurdod lleol ar sail y ffigyrau Cyfrifiad sydd ar gael.

Er mwyn cael mwy o wybodaeth am y rhaglen a’r meini prawf, trowch at Nodiadau Arweiniol a Ffurflen Gais Cronfa Cefnogi Gofalwyr Cymru. 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mercher 7 Medi 2022

Dyddiad cyfarfod y Panel: w/c 26 Medi 2022

Rhoi gwybod i fudiadau beth yw’r penderfyniadau: w/c 5 Hydref 2022.

Cysylltwch â Liz Wallis yn wales@carers.org os oes gennych unrhyw ymholiadau. Edrychwn ymlaen at dderbyn eich ceisiadau grant yn fuan.

Dymuniadau gorau       

Y Tîm Grantiau & Rhaglenni